Mudo
Mudo yw symudiad pobl o un lle i'r llall dros dro neu鈥檔 barhaol.
Mae hyn yn gallu digwydd yn rhyngwladol pan fydd pobl yn symud o un wlad i'r llall, neu gall ddigwydd yn fewnol wrth i bobl symud o fewn yr un wlad.
Mae yna nifer o resymau pam fod pobl yn symud o un lle i'r llall. Efallai eu bod nhw鈥檔 gwneud am resymau ariannol, cymdeithasol neu deuluol tra bod rhai pobl yn cael eu gorfodi i symud.
Mae person sydd yn gwneud dewis bwriadol i symud i rywle arall i fyw yn cael ei alw'n fudwr neu'n fewnfudwr.
Mae pobl sy鈥檔 cael eu gorfodi i symud yn cael eu galw鈥檔 ffoaduriaid neu ceisiwr llochesRhywun sydd wedi cael ei orfodi i symud oherwydd peryglon yn eu gwlad eu hunain. Nid yw eu cais am statws ffoadur wedi'i gymeradwyo'n gyfreithiol.
Ar wah芒n i enedigaethau a marwolaethau, mudo yw'r unig ffactor arall sy'n effeithio ar dwf a gostyngiad ym maint y boblogaeth. Felly mae mudo鈥檔 chwarae rhan bwysig yn y newidiadau ym mhoblogaeth gwlad dros amser.
Ffactorau gwthio a thynnu
Rydyn ni鈥檔 gallu dosbarthu鈥檙 rhesymau dros fudo yn fras i mewn i ffactorau gwthio a thynnu.
Mae ffactorau tynnu yn bethau positif sy鈥檔 denu pobl i le penodol.
Ffactorau gwthio yw鈥檙 pethau negatif sy鈥檔 gwneud i bobl symud i ffwrdd.
Gwylio: Fideo mudo
Mathau o fudo
Mae sawl math o fudo ac maen nhw鈥檔 cael eu gyrru gan ffactorau gwahanol.
Mudo mewnol
Mudo mewnol yw symudiad pobl o fewn yr un wlad, a gall hynny ddigwydd am sawl rheswm.
Mae cenedlaethau iau yn debygol o symud i ardaloedd sy'n cynnig cyfleoedd gwell o ran gwaith, mwynderau a bywyd cymdeithasol. Enghraifft o hyn yw pobl ifanc rhwng 20-29 oed yn symud i ddinasoedd fel Llundain, Caerdydd a Manceinion.
Bydd rhai pobl yn dewis symud o fewn yr un wlad er mwyn bod yn agosach at aelodau eraill o'r teulu.
Mudo economaidd
Mudo economaidd yw symudiad pobl o un wlad i鈥檙 llall am resymau economaidd. Mae pobl yn symud i wledydd sy鈥檔 gallu cynnig incwm gwell.
Ar 么l iddyn nhw ymuno 芒鈥檙 Undeb Ewropeaidd, dewisodd llawer o drigolion gwledydd yn Nwyrain Ewrop fudo i wledydd fel Ffrainc a鈥檙 DU.
Yng Ngogledd America, mae cyflogau llawer uwch yr Unol Daleithiau o鈥檜 cymharu 芒鈥檌 chymydog Mexico yn golygu bod llawer o Fexicanwyr yn symud yno i edrych am waith.
Mudo gorfodol
Mae mudo gorfodol yn aml yn digwydd oherwydd digwyddiadau fel rhyfel sy'n rhoi pobl mewn perygl.
Digwyddodd hyn yn Syria pan ddechreuodd rhyfel cartref yno ym mis Mawrth 2011. Erbyn 2021 roedd 6.6 miliwn o Syriaid wedi ffoi o鈥檙 wlad. Roedd 5.5 miliwn o鈥檙 ffoaduriaid hyn mewn gwledydd cyfagos fel Twrci, Libanus, Gwlad yr Iorddonen, Irac a鈥檙 Aifft. Hefyd roedd 6.7 miliwn o ffoaduriaid eraill wedi cael eu gorfodi i symud o fewn Syria.
Pan mae pobl yn gadael un wlad oherwydd erledigaeth neu berygl enbyd, ac yn gofyn am gael eu diogelu mewn gwlad arall, yr enw ar hyn yw ceisio lloches. Mae pobl sy鈥檔 aros am ganiat芒d i gael aros yn cael eu galw鈥檔 geiswyr lloches.
Mae newid hinsawdd yn gallu gorfodi pobl i symud hefyd. Bydd codiad yn lefel y m么r yn effeithio ar Bangladesh gan bod hanner y wlad yn llai na 6 m uwchlaw lefel y m么r.Mae pentref glan-m么r Fairbourne yng Ngwynedd sydd wedi ei adeiladu ar dir isel dan fygythiad hefyd. Mae鈥檙 cynydd yn y perygl oddi wrth lefel y m么r yn codi a llifogydd yn golygu na fydd amddiffynfeydd rhag llifogydd yn cael eu cynnal a鈥檜 cadw yn y dyfodol a bydd yn rhaid gadael y pentref.
Enghraifft arall o fudo gorfodol oedd pan bu鈥檔 rhaid i filoedd o Iddewon ffoi o鈥檙 Almaen oherwydd erledigaeth a gwahaniaethu cynyddol yn ystod y 1930au.
Yn 1938, naw mis cyn dechrau鈥檙 Ail Ryfel Byd agoroodd y DU eu ffiniau i tua 10,000 o blant rhwng pump ac 17 oed a deithiodd heb eu rhieni. Iddewon oedden nhw gan fwyaf ac roedden nhw鈥檔 ffoi rhag y gyfundrefn Nats茂aidd. Yr enw a roddwyd ar y broses hon oedd Kindertransport.
Ym mis Ionawr 1933 roedd tua 523,000 o Iddewon yn yr Almaen. Erbyn mis Hydref 1941, pan roddwyd diwedd ar allfudo Iddewig dim ond 163,00 oedd ar 么l yn y wlad.
Effeithiau mudo
Mae gan fudo fanteision ac anfanteision ar gyfer yr ardaloedd y mae'r mudwyr yn symud iddyn nhw.
Manteision | Anfanteision |
---|---|
Diwylliant cyfoethocach a mwy amrywiol | Cynnydd yng nghost gwasanaethau fel gofal iechyd ac addysg |
Helpu i leihau unrhyw brinder llafur | Gorlenwi |
Mudwyr yn fwy parod i wneud swyddi sydd 芒 chyflogau a sgiliau is | Anghytuno rhwng gwahanol grefyddau a diwylliannau |
Gwrthdaro sy鈥檔 cael ei achosi gan fudo
Mae rhai rhannau o鈥檙 DU wedi wynebu problemau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 mudo oherwydd gwrthdaro rhwng mudwyr a phobl leol.
Terfysgoedd hil de Cymru 1919
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd prinder morwyr mewn porthladdoedd fel Caerdydd, Casnewydd a鈥檙 Barri. Fe wnaeth pobl o bob rhan o鈥檙 Ymerodraeth Brydeining gymryd y cyfle i ddod i weithio yn ne Cymru.
Ar 么l y rhyfel roedd tai yn brin ac roedd llawer o ddi-weithdra. Achosodd hyn i rai pobl leol i ddal dig yn erbyn y mudwyr oedd yn byw ac yn gweithio yn eu mysg.
Yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 1919 roedd yna wrthdaro treisgar yn Butetown ac o gwmpas y dociau. Fe wnaeth torfeydd mawr ymosod ar lety a thai bwyta Arabaidd. Cafodd adeiladau eu chwalu ac fe gafodd rhai eu llosgi i鈥檙 llawr. Parhaodd y terfysg am dri diwrnod ac fe gafodd tri o ddynion eu lladd.
Roedd yna ddigwyddiadau yn y Barri a Chasnewydd hefyd.
Notting Hill, 1958
Daeth Notting Hill yng ngorllewin Llundain yn ardal amlddiwylliannol yn sgil mudo o鈥檙 Carib卯 ar 么l yr Ail Ryfel Byd.
Roedd hi鈥檔 ardal ddifreintiedig ac roedd pobl dduon tlawd a phobl wynion tlawd yn cystadlu am dai. Roedd rhai o鈥檙 bobl wynion yn elyniaethus tuag at y mudwyr a hynny鈥檔 hollol agored.
Ym mis Awst 1958, fe wnaeth heidiau o bobl ifanc wynion gan fwyaf ymosod ar bobl dduon a鈥檜 cartrefi. Parhaodd y terfysg am wythnos wrth i bobl dduon amddiffyn eu hunain.
Cafodd Carnifal Notting Hill eu sefydlu mewn ymateb i鈥檙 terfysg. Mae鈥檔 cael ei gynnal yn flynyddol ac yn cael ei arwain gan yn gymuned Garib茂aidd.
More on Newid a symud
Find out more by working through a topic
- count2 of 3
- count3 of 3