大象传媒

Beth yw hinsawdd?

Darlun o olygfa yn cynnwys yr haul, awyr las, a choed.

Mae tywydd a hinsawdd yn ddau beth gwahanol. Mae鈥檙 tywydd yn gallu newid yn sydyn, ond hinsawdd yw鈥檙 math o dywydd sydd mewn ardal dros gyfnod hir o amser.

Mae gan wahanol leoedd dros y byd hinsawdd wahanol - bydd rhai yn cael tywydd oer ac eira, bydd rhai yn gynnes ac yn sych, a bydd rhai yn cael ychydig bach o'r ddau.

Darlun o olygfa yn cynnwys yr haul, awyr las, a choed.

Beth yw newid hinsawdd?

Nid yw'r hinsawdd bob amser yn aros yr un peth. Fel arfer mae鈥檔 newid yn naturiol ac yn araf ond yn ddiweddar mae wedi bod yn newid yn gyflym iawn.

Mae nwyon rydyn ni'n eu rhyddhau i'r atmosffer yn gallu achosi i'r hinsawdd newid. Pan rydyn ni鈥檔 llosgi tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy mae carbon deuocsid - a elwir hefyd yn CO鈧 - yn cael ei gynhyrchu. Mae tanwyddau ffosil yn cael eu defnyddio i bweru ceir ac awyrennau, ac i gynhyrchu trydan ar gyfer cartrefi a'r ffatr茂oedd sy'n gwneud ein teganau, ein dillad a'n teclynnau electronig.

Pan fydd carbon deuocsid yn mynd i mewn i'r atmosffer mae'n achosi'r effaith t欧 gwydr. Mae'n cadw gwres yn yr atmosffer fel bod y Ddaear yn mynd yn boethach ac yn boethach - yn union fel sy'n digwydd mewn t欧 gwydr. Cynhesu byd-eang yw鈥檙 enw ar y cynnydd yn nhymheredd y Ddaear.

Fideo - Newid hinsawdd

Effeithiau cynhesu byd-eang

Mae cynhesu byd-eang yn gallu effeithio ar y blaned mewn gwahanol ffyrdd.

Mae'n achosi i'r i芒 ger Pegwn y Gogledd a Phegwn y De i ddechrau ymdoddi. Bydd hyn yn achosi i lefel y m么r godi.

Mae'r tymereddau uwch yn gwneud y tywydd yn fwy eithafol. Mae hyn yn achosi mwy o lifogydd, sychder a stormydd fel corwyntoedd.

Mae Awstralia wedi dioddef tanau gwyllt ffyrnig sy鈥檔 gallu para am fisoedd. Mae鈥檙 tanau yn gallu ymledu yn gyflym achos y tymereddau uchel iawn a鈥檙 sychder. Mae llawer o gartrefi ac ardaloedd mawr o goedwig wedi cael eu dinistrio gan y tanau.

Nid problem mewn gwledydd pell yn unig yw tywydd mwy eithafol - mae鈥檔 gallu digwydd yma yng Nghymru hefyd. Mae trefi a phentrefi yn ne Cymru wedi cael eu heffeithio gan law trwm iawn a llifogydd. Fe achosodd y llifogydd ddifrod difrifol i gartrefi a busnesau.

Mae鈥檔 bosibl mai Fairbourne, pentref ar arfordir Gwynedd, fydd un o'r cymunedau cyntaf yn y DU i gael ei cholli oherwydd newid yn yr hinsawdd. Mae'n mynd yn anoddach amddiffyn y pentref rhag y m么r oherwydd stormydd pwerus a鈥檙 ffaith fod lefelau'r m么r yn codi.

Egni adnewyddadwy

Mae yna ffyrdd o gynhyrchu egni heb losgi tanwyddau ffosil. Rydyn ni鈥檔 cynhyrchu mwy a mwy o egni o ffynonellau adnewyddadwy - rhai sydd ddim yn mynd i ddod i ben. Yn bwysicach fyth, dydyn nhw ddim yn cynhyrchu carbon deuocsid.

Rhai o'r ffynonellau adnewyddadwy mwyaf effeithiol yw:

  • egni gwynt - defnyddio p诺er y gwynt i gynhyrchu trydan
  • egni solar - defnyddio gwres a golau'r haul fel ffynhonnell p诺er
  • egni llanw - defnyddio d诺r sy鈥檔 symud oherwydd y llanw i gynhyrchu trydan

Beth allwn ni ei wneud?

Darlun o berson ac eiconau yn ymwneud 芒 newid hinsawdd.

Os ydyn ni鈥檔 gyfrifol am achosi newid hinsawdd sy'n niweidio ein planed, gallwn ni hefyd fod yn gyfrifol am leihau effeithiau cynhesu byd-eang. Mae yna lawer o bethau y gallwn eu gwneud.

  • Defnyddio cerbydau trydan sydd ddim yn creu nwyon niweidiol, yn lle cerbydau petrol a diesel.
  • Dysgu pobl am y broblem ac egluro beth gall pob un ohonon ni ei wneud i arbed egni pan fydd cyfle.
  • Cynhyrchu mwy o egni adnewyddadwy.
Darlun o berson ac eiconau yn ymwneud 芒 newid hinsawdd.

Gweithgareddau

1. Poster newid hinsawdd

Cynllunia boster sy'n dweud wrth bobl am newid hinsawdd a'r niwed mae'n ei wneud i'n planed. Dylai dy boster gynnwys:

  • esboniad o beth yw newid hinsawdd
  • peryglon newid hinsawdd
  • sut i atal newid hinsawdd

2. Cytuno neu anghytuno?

Darllena bob gosodiad a phenderfyna os wyt ti鈥檔 cytuno neu'n anghytuno gyda nhw. Cofia esbonio pam rwyt ti鈥檔 cytuno neu'n anghytuno trwy roi rhesymau o dy brofiad dy hun ac o'r hyn rwyt ti wedi ei ddysgu.

  • Dylai pob car gael ei wahardd.
  • Pobl sydd ar fai am newid hinsawdd.
  • Bydd defnyddio egni adnewyddadwy yn helpu i achub y blaned.
  • Mae tywydd eithafol yn effeithio ar bob un ohonon ni.

More on Daearyddiaeth

Find out more by working through a topic