Beth yw'r chwyldro technolegol?
Wyt ti erioed wedi meddwl am fywyd heb ff么n symudol, tabled neu gemau cyfrifiadur? Galli di ddychmygu ceisio ymchwilio ar gyfer gwaith cartref heb y rhyngrwyd?
Rydyn ni鈥檔 defnyddio gwahanol fathau o dechnoleg bob dydd 鈥 gartref, yn yr ysgol a phobman arall. Mae鈥檔 teimlo fel ein bod ni鈥檔 gallu gwneud unrhywbeth ar-lein, o siopa bwyd i chwarae gemau gyda鈥檔 ffrindiau.
Mae yna bobl wnaeth dyfu lan heb y dechnoleg anhygoel yma. Mae'n bosib iawn bod dy rieni a dy athrawon yn rhai o'r bobl hyn. Roedd yn rhaid iddyn nhw ddarllen llyfrau i wneud eu gwaith cartref, mynd i'r siopau i brynu eu bwyd a chwrdd yn y parc i chwarae gyda'u ffrindiau.
Fideo - Chwyldro technolegol
Y rhyngrwyd
Cyfrifiaduron ar draws y byd sydd wedi eu cysylltu gyda ei gilydd yw鈥檙 rhyngrwyd. Mae wedi newid y ffordd rydyn ni'n gwneud llawer o bethau, ac rydyn ni'n ei defnyddio bob dydd ym mhob rhan o鈥檔 bywydau.
Pan rydyn ni鈥檔 defnyddio gwefannau a rhai apiau, rydyn ni鈥檔 defnyddio'r rhyngrwyd i wneud pethau fel darganfod gwybodaeth, cysylltu 芒 phobl, siopa a chwarae gemau.
Cyfathrebu
Mae'r rhyngrwyd a ffonau symudol wedi newid y ffordd rydyn ni'n cyfathrebu gyda'n gilydd. Cyn i ni eu cael, roedd rhaid i bobl ddefnyddio'r ffonau yn eu tai neu'r rhai mewn ciosgau ar y stryd. Roedd yn rhaid iddyn nhw anfon llythyr neu gerdyn post os oedden nhw eisiau ysgrifennu at rywun.
Heddiw mae'n llawer haws oherwydd bod gan gymaint o bobl gyfrifiaduron, tabledi a ffonau symudol. Gallwn ni ddefnyddio'r rhain i anfon a derbyn e-bost a negeseuon testun gan ddefnyddio gwahanol apiau. Mae鈥檔 bosib tynnu llun neu ffilmio fideo a'i anfon i ochr arall y byd mewn eiliadau.
Cyfryngau cymdeithasol
Mae gwefannau cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd i gyfathrebu. Mae miliynau o bobl ledled y byd yn mwynhau eu defnyddio i rannu fideos a lluniau, sgwrsio 芒 ffrindiau a hyd yn oed chwarae gemau yn erbyn ei gilydd.
Ond mae yna bethau gwael am y cyfryngau cymdeithasol hefyd. Dwy o'r anfanteision yw bod treulio gormod o amser arnyn nhw yn gallu bod yn ddrwg i ti, ac maen nhw鈥檔 rhoi cyfle i seiber-fwlis fod yn gas wrth bobl.
Adloniant
Mae'r ffordd rydyn ni'n gwrando ar gerddoriaeth ac yn gwylio'r teledu wedi newid hefyd. Does dim rhaid mynd i'r siopau i brynu CDs neu DVDs os nad wyt ti eisiau gwneud hynny. Rwyt ti鈥檔 gallu ffrydio cerddoriaeth, ffilmiau a rhaglenni teledu dros y we heb orfod gadael dy soffa hyd yn oed.
Oeddet ti'n gwybod?
- Anfonwyd yr e-bost cyntaf yn 1971, o un cyfrifiadur i un arall yn yr un ystafell.
- Cafodd yr alwad ff么n symudol cyntaf ei gwneud ym 1973, gan ddefnyddio ff么n oedd y pwyso dros 1.1kg 鈥 mae hynny ychydig yn drymach na ffonau symudol heddiw.
- Cafodd y wefan gyntaf erioed, a aeth yn fyw yn 1991, ei chreu gan Tim Berners-Lee, y dyn wnaeth ddyfeisio y we fyd-eang yn 1989.
Manteision technoleg
- Rwyt ti鈥檔 gallu defnyddio dy gyfrifiadur, tabled neu ff么n i ymchwilio a dod o hyd i wybodaeth ar y rhyngrwyd i dy helpu gyda gwaith ysgol.
- Mae siopa ar-lein yn gyfleus iawn - galli di brynu bron unrhyw beth heb symud o鈥檙 t欧.
- Rwyt ti鈥檔 gallu aros mewn cysylltiad gyda dy holl ffrindiau a dy deulu, hyd yn oed os ydyn nhw鈥檔 byw ymhell i ffwrdd.
- Mae'n gadael i ti chwarae gemau gyda dy ffrindiau a gyda phobl o bob cwr o'r byd.
Anfanteision technoleg
- Mae seiber-fwlio neu drolio ar-lein yn gallu achosi gofid i bobl.
- Gall gormod o amser sgr卯n wneud drwg i dy lygaid ac effeithio ar ba mor dda wyt ti鈥檔 cysgu.
- Mae hacwyr a throseddwyr yn gallu trio twyllo pobl yn y byd ar-lein, er mwyn dwyn gwybodaeth bersonol a hyd yn oed arian.
Gweithgareddau
1. Manteision ac anfanteision technoleg
A yw technoleg yn dda neu'n ddrwg?
Dyma frawddegau sydd naill ai'n fanteision neu'n anfanteision technoleg. Darllena bob un yn ofalus, cyn eu rhoi nhw yn y golofn gywir yn y tabl.
Ar 么l treulio gormod o amser yn edrych ar sgriniau mae fy llygaid yn brifo, ac rwy'n cael trafferth cysgu.
Rwy'n gallu siarad gyda theulu a ffrindiau o bell.
Pan rwy'n chwarae gemau ar-lein, weithiau bydd plant eraill yn galw enwau arna i.
Dydw i ddim yn mynd allan i chwarae cymaint ag oeddwn i'n arfer - rydw i'n gwneud llai o ymarfer corff.
Rwy'n defnyddio'r rhyngrwyd i helpu gyda fy ngwaith cartref, mae'n ddefnyddiol iawn wrth geisio dod o hyd i ffeithiau diddorol am unrhyw beth.
Weithiau bydd chwarae gemau cyfrifiadur yn tynnu fy sylw a dydw i ddim yn gallu canolbwyntio ar fy ngwaith ysgol.
Rwy'n cael cymaint o hwyl yn chwarae gwahanol gemau ar-lein gyda fy ffrindiau.
Rydw i bob amser yn tecstio fy ffrindiau, ond dwi ddim yn gwneud yr amser i siarad 芒 nhw wyneb yn wyneb.
Mae hacwyr a throseddwyr yn dwyn gwybodaeth bersonol o fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Rwy'n gwneud fy holl siopa heb symud o fy ystafell fyw.
Mae defnyddio e-bost wrth weithio gymaint yn haws ac yn gyflymach nag anfon llythyr.
Mae datblygiadau mewn technoleg feddygol yn fy helpu i wella ar 么l gorfod mynd i'r ysbyty.
Manteision technoleg | Anfanteision technoleg | |
---|---|---|
Manteision technoleg | Anfanteision technoleg | |
---|---|---|
Rwy'n gallu siarad gyda theulu a ffrindiau o bell. | Ar 么l treulio gormod o amser yn edrych ar sgriniau mae fy llygaid yn brifo, ac rwy'n cael trafferth cysgu. | |
Rwy'n defnyddio'r rhyngrwyd i helpu gyda fy ngwaith cartref, mae'n ddefnyddiol iawn wrth geisio dod o hyd i ffeithiau diddorol am unrhyw beth. | Pan rwy'n chwarae gemau ar-lein, weithiau bydd plant eraill yn galw enwau arna i. | |
Rwy'n cael cymaint o hwyl yn chwarae gwahanol gemau ar-lein gyda fy ffrindiau. | Dydw i ddim yn mynd allan i chwarae cymaint ag oeddwn i'n arfer - rydw i'n gwneud llai o ymarfer corff. | |
Rwy'n gwneud fy holl siopa heb symud o fy ystafell fyw. | Weithiau bydd chwarae gemau cyfrifiadur yn tynnu fy sylw a dydw i ddim yn gallu canolbwyntio ar fy ngwaith ysgol. | |
Mae defnyddio e-bost wrth weithio gymaint yn haws ac yn gyflymach nag anfon llythyr. | Rydw i bob amser yn tecstio fy ffrindiau, ond dwi ddim yn gwneud yr amser i siarad 芒 nhw wyneb yn wyneb. | |
Mae datblygiadau mewn technoleg feddygol yn fy helpu i wella ar 么l gorfod mynd i'r ysbyty. | Mae hacwyr a throseddwyr yn dwyn gwybodaeth bersonol o fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol. |
2. Tasg ysgrifenedig neu ddadl lafar
'Mae bodau dynol yn dibynnu gormod ar dechnoleg鈥. Trafodwch.
- Ysgrifenna am dy farn ar y datganiad: 鈥楳ae bodau dynol yn dibynnu gormod ar dechnoleg鈥.
- Meddylia am ddwy ochr y ddadl. Bydd rhai pobl yn cytuno a bydd rhai yn anghytuno 芒'r datganiad. Dylet ti feddwl am fanteision ac anfanteision technoleg cyn penderfynu ar dy farn dy hun.
- Defnyddia wybodaeth a ffeithiau i gefnogi dy farn. Gwna dy ymchwil dy hun i ddod o hyd i ffeithiau diddorol am sut rydyn ni'n defnyddio technoleg.
- Ysgrifenna am dy brofiadau dy hun o ddefnyddio technoleg. Wyt ti neu aelodau o dy deulu yn dibynnu gormod ar dechnoleg? Sut mae'n ddefnyddiol? Ydy e鈥檔 gallu bod yn beryglus?
- Defnyddia iaith briodol wrth fynegi barn. Dechreua dy frawddegau fel hyn:
- Yn fy marn i 鈥
- Rwy'n credu 鈥
- Rwy'n teimlo fel pe bai 鈥
- Credaf fod 鈥
- Rhaid i mi gytuno / anghytuno 鈥
More on Daearyddiaeth
Find out more by working through a topic
- count3 of 6
- count4 of 6
- count5 of 6
- count6 of 6