´óÏó´«Ã½

Archifau Mai 2009

Wrth Basio . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:00, Dydd Sadwrn, 30 Mai 2009

Sylwadau (0)

  • Dau arall yn ein casgliad o ddywediadau a glywir wrth grwydro'r Maes:

Athrawes gyda chriw o bant sydd ar fin cael tynnu eu llun: " John! Gwena! NAWR!"

Mam, yn Saesneg, wrth fam arall tra'n cerdded at brif fynedfa Canolfan y Mileniwm: "Fe fyddai Helen fach ni wrth ei bodd cael dod 'ma. Yr holl roundabouts 'ma. "

Rhagor o Bobol Nia . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 11:51, Dydd Sadwrn, 30 Mai 2009

Sylwadau (0)

gan Nia Lloyd Jones un o'n blogwyr gwadd yn Eisteddfod yr Urdd
Nia sydd yng nghefn y llwyfan yn holi cystadleuwyr a phobl ddifyr eraill ar gyfer ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru. Dyma ei hail flog yr wythnos hon::

Dydd pen-blwydd - Nia yn dathlu gyda Gwynfor

Dydd Gwener: a'r criw dan 19 oed!
Braf iawn oedd gweld Tomos Xerri nôl ar lwyfan yr Urdd.

Cofiwch yr enw yma - mae o'n dalent aruthrol ac wedi ennill ar yr unawd telyn a'r unwad piano y bore ma.

Mae ei deulu yn hanu o Ynys Gozo - oddi ar arfordir Malta - ac fe gafodd ei fagu yng Nghaerdydd, ond mae o bellach yn astudio yn Eton.

O Gozo i Dolwar Fach - cartref Huw - aelod o driawd Ysgol Uwchradd Llanfyllin.

A sôn am driawd! Huw, Richard a Rhodri - yn llawn direidi ac yn canu'n swynol iawn hefyd!

Braf iawn oedd cael gair sydyn hefo Steffan Harri - oedd yn cystadlu ar yr unawd bechgyn heddiw - ar ôl ennill am ganu unawd allan o sioe gerdd dan 19 oed neithiwr.

Mae o ar hyn o bryd yn ystyried mynd i goleg cerdd, ond mae'r fferm adref yn Nolannog hefyd yn apelio.

Yn ogystal a chanu a pherfformio yn sioe Ffawd, mae o hefyd yn chwarae pêl-droed i Dim Ysgolion Ieuenctid Cymru!!

Pen-blwydd hapus iawn heddiw, tra dwi'n cofio, i Gwynfor yn 70 oed - un o'r criw ffyddlon sydd yn gwirfoddoli gefn llwyfan bob blwyddyn ers blynyddoedd lawer.

Dyma aelod arall o fy nheulu eisteddfodol!




Pobol Nia . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 08:03, Dydd Gwener, 29 Mai 2009

Sylwadau (0)

gan Nia Lloyd Jones un o'n blogwyr gwadd yn Eisteddfod yr Urdd
Nia sydd yng nghefn y llwyfan yn hgoli cystadleuwyr a phobl ddifyr eraill ar gyfer ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru. Dyma flas ar ei hwythnos hyd yn hyn:

Nia'n holi

O'm safbwynt i, does na 'mond un lle i fod yn y steddfod, a hynny ydi cefn llwyfan! Mi welwch chi bawb yn fanno, a fu 'leni ddim gwahanol.

Dydd Llun ydi diwrnod y plantos bach, a'r diwrnod anodda i mi fel arfer! Ond yn sicr mi roedd y 'cute factor' yn uchel iawn, ac fe fwynheais i roi'r byd yn ei le hefo Gethin Greenhalgh o Ysgol Gynradd Maenclochog - a'i acen hyfryd - enillydd y llefaru unigol blwyddyn 2 ac iau; Deio Llyr - sy'n ffan mawr o dîm pêl-droed Lerpwl - enillydd yr unawd cerdd dant bl.2 ac iau a'r seren swynol - Llio Meirion Rogers - enillydd yr unawd a'r unawd gerdd dant bl.3 a 4.

Mae dawn yn offerynwyr ifanc yma yn anhygoel - ac un ddaeth i'r brig ddwywaith oedd Charlie Lovell Jones o Ysgol Y Wern - gan ennill yr unawd llinynnol a'r unawd piano dan 12 oed. Gŵr bonheddig go iawn!

Fore Mawrth mi ges i fy hypnoteiddio gan un o gymeriadau Cyflwyniad Dramatig Ysgol y Garnedd - Daniel Glyn.

Sôn am gymeriad - oedd yn cuddio dan y wig a'r sbectol dywyll a llongyfarchiadau iddo hefyd ar ennill gwobr am sgwennu drama yn yr Eisteddfod eleni.


Mae'r wobr am yr ysgol fwyaf siaradus yn cael ei rhannu ar hyn o bryd rhwng Ysgol Login Fach, Llwchwr ac Ysgol Chwilog.

Mi faswn i wedi medru sgwrsio am amser maith efo nhw ond yn anffodus roedd llais y cynhyrchydd yn mynnu bod rhaid i'r sgwrsio ddod i ben!

Dydd Mercher ydi diwrnod yr adrannau, a braf oedd gweld y cyfarwydd a'r newydd yn ymddangos.

Yn ogystal â hynny mi fues i'n trafod maint ceir, a pham nad oedd car teulu Gwenno Glyn Brown yn ddigon mawr i gario'i thelyn i lawr i Gaerdydd.

Hithau, wedyn, yn benthyg telyn gan gwmni nid anenwog, ac yn ennill y gystadleuaeth unawd telyn blwyddyn 7-9.

Ac wrth gwrs, 'da chi'n gweld y bobl ryfedda gefn llwyfan - gan gynnwys Elvis,Madonna a Marilyn Monroe - aelodau o barti cerdd dant Adran Llangwm. Rhyfedd o fyd!

Ganol p'nawn mi ges i air efo criw ymgom Botwnnog, Gwilym sydd yn brysur yn adeiladu cytiau ieir (am £60 - bargen!!), ei frawd - Ianto - sydd yn dipyn o gyfansoddwr, a Ioan - sydd wrth ei fodd yn dangos gwartheg yn sioe Nefyn!!

Bore Iau, a dyma gyrraedd oed uwchradd!
Yng nghystadleuaeth y partïon bechgyn bl 7-9 fe aeth Ceri o Ysgol Llambed ymlaen ar ei faglau- a hynny oherwydd iddo ddisgyn a thorri ei droed yn yr ysgol.

Ac ar ôl mynd adref - fe aeth ei fam dros ei droed efo'i chadair olwyn hithau!
Creadur bach.

Jyst cyn cinio mi wnes i wirioni wrth ffeindio Shay Siwoku gefn llwyfan.

Mi wnes i gyfarfod Shay am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd ac yntau yn stiwardio am y tro cyntaf.

Mae ei deulu yn dod yn wreiddiol o Nigeria, ac yn 2000 fe benderfynodd o fynd ati i ddysgu Cymraeg a gwneud hynny ar ei ben ei hun am y tair blynedd gyntaf - cyn mynychu cwrs Wlpan wedyn.

Mae o wedi gwirioni ar yr eisteddfod. Byw mewn gobaith y ca' i sgwrs efo fo eto yn Y Bala!

Hwyl am y tro
Nia

Wrth basio . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:39, Dydd Gwener, 29 Mai 2009

Sylwadau (0)

  • Un arall yn ein casgliad o ddywediadau a glywir wrth gerdded y Maes:

Un ddynes wrth un arall wedi i 'bersonoliaeth teledu' eu pasio: "Dyw hi ddim mor dlws ag mae hi'n edrych, nag yw?"



Gair gan Efa . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 18:03, Dydd Iau, 28 Mai 2009

Sylwadau (0)

Efa Gruffudd Jones, cyfarwyddwr yr Urdd, yn hel meddyliau wrth i'r wythnos ddirwyn at ei therfyn

Gofynnwyd i mi sgrifennu ambell air personol...
Beth dwi wedi ei fwynhau'r wythnos hon?

Rhwng dau lywydd - Efa gyda Dewi Pws, llywydd yr Eisteddfod, a Caryl Parry Jones, un o lywyddion y dydd.

Gorfod golchi crys T Mistar Urdd fy mab wedi cyrraedd adre gan ei fod yn mynnu ei wisgo bob dydd i ddod i'r Steddfod.

Dwi'n meddwl fod hyn fwy i'w wneud gyda'r ffaith bod ei gyfnither yn gwisgo un na'r ffaith fy mod i'n gweithio i'r Urdd....

Galw heibio i staff yr Urdd yn y bwth tocynnau - a chael straeon doniol y dydd ganddyn nhw am y ganran rhy uchel o bobol sydd wedi gadael eu tocynnau ym mhoced ôl eu siaced sy'n hongian ar du cefn y drws lan llofft sydd tu ôl i'r cwpwrdd. . .

Cyfarfod fy ffrind newydd, Mici, a dechrau dod i ddeall sut mae 'hud Disney' yn gweithio.

Mici oedd Mici - ar y llwyfan - yn y coridor - pan oedd yn aros i weld y plant . . . Efallai bod llawer gan Mistar Urdd i'w ddysgu. .
.
Chwerthin wrth gael fy ngwahodd i dri digwyddiad ddydd Mercher, un am 11.15, un am 12.00 ac un am 13.30 - y cyfan ohonynt yn cynnig bwyd a diod - a minnau wedi cymysgu erbyn y diwedd ai brecwast, cinio neu de oedd yn cael ei gynnig!

Sylweddoli erbyn tua pedwar o'r gloch fod gwirioneddol angen brechdan arnaf!
Edrych ymlaen yn awr i'r ddau ddiwrnod olaf!

Bwrw mlaen!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:27, Dydd Iau, 28 Mai 2009

Sylwadau (0)

Llywydd y dydd, ddoe, oedd Robin McBryde - ac er bod ganddo ef bethau eraill ar ei feddwl gyda'r tîm rygbi cenedlaethol yr ochr arall i'r Iwerydd cafodd ennyd i anfon neges fideo i'r Eisteddfod.

A'r bwriad oedd ei dangos i'r Wasg yn y bore ond, yn anffodus "problemau technegol" gafodd y llaw uchaf a chlywyd mo'r neges yn y cyfarfod dyddiol gyda'r hacs.

Digwyddiad oedd yn cyfateb mewn cylchoedd steddfodol i ollwng y bêl mewn gêm rygbi mae'n siŵr.

Dim ond gobeithio y caiff Robin fwy o lwc yn trosglwyddo'i neges i'r bechgyn mewn coch sydd dan ei ofal.
Sgrym!

Wrth basio . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:14, Dydd Iau, 28 Mai 2009

Sylwadau (0)

  • Pethau ydych chi'n eu clywed ar faes Eisteddfod:
Un arall yn ein casgliad o ddywediadau a glywir wrth gerdded y Maes.

Athrawes wrth fachgen yn cerdded bant: "Darren, paid a chrwydro. Ti'n mynd i gâl dy interfiwio . . ."



Gyda'r blynyddoedd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:58, Dydd Iau, 28 Mai 2009

Sylwadau (0)

Dathliad crefydfdol yn Eisteddfod 2009O ystyried ei bod hi'n ddiwrnod dau ben-blwydd yma echdoe yr oedd pennau pawb i'w gweld yn eithriadol o glir ddoe.

Dim awgrym o benmaenmawr yn unman.

Yn dathlu ar y naill law, yr oedd Aled Sion, cyfarwyddwr yr Eisteddfod, ar y llaw arall yr Eisteddfod ei hun.

Y naill yn baidagweiddi blwydd oed a'r llall yn bedwar ugain oed dweudwrthbawb a'r ddau i'w gweld wedi dygymod â'r blynyddoedd gystal â'i gilydd.

Mewn festri capel yng Nghorwen ar Fehefin 22 1928 y cenhedlwyd yr Eisteddfod a anwyd yn 1929 pan gynigwyd y syniad o Eisteddfod i'r mudiad ieuenctid newydd - ond honno'n eisteddfod heb wobr i neb dim ond y clod o ennill.

Bedwar ugain mlynedd yn ddiweddarach yng Nghaerdydd mae'r egwyddor honno yn parhau a miloedd ar filoedd wedi teithio yma i chwilio am y clod hwnnw.

Bu'r Urdd ddigon caredig a llunio rhestr o bethau pwysig a ddigwyddodd yr un flwyddyn ag Eisteddfod gyntaf y mudiad. Felly, ffwrdd a ni:

  • Geni seren rygbi Cymru, Carwyn James yng Nghefneithin, Llanelli.
  • Caradog Pritchard yn ennill coron am y trydydd tro yn olynol. Y tro olaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Lerpwl.
  • Gwobrau Oscars yr Academi am ffilm am y tro cyntaf yn Los Angeles.
  • Marw'r bardd a'r gramadegwr Syr John Morris Jones, yn 64 oed.
  • Geni Martin Luther King yn yr Unol Daleithiau.
  • Darllediad teledu cyntaf gan y ´óÏó´«Ã½.
  • Black Tuesday pan chwalodd marchnad stoc Wall Street, yr Unol Daleithiau - y cwymp gwaethaf yn hanes y farchnad stoc.
  • Straeon a lluniau o ddydd i ddydd o'r Steddfod
  • Blogio yn y Steddfod


Wrth basio

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:51, Dydd Mercher, 27 Mai 2009

Sylwadau (0)

  • Pethau ydych chi'n eu clywed ar faes Eisteddfod: Rhif 3.
Y trydydd mewn casgliad o ddywediadau a glywir wrth grwydro'r Maes.

Arweinydd yn rhoi cyfarwyddiadau i'w chôr: "Rhif un - dwylo wrth yr ochr. Rhif dau - edrych yn hapus. Nid 'sgêri contest' ydi hon . . ."



Cyfrif pennau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:49, Dydd Mercher, 27 Mai 2009

Sylwadau (0)

Yr un peth a ddysgodd rhywun ddydd Mawrth oedd nad yw tyrfa o blant yn agor fel y Môr Coch o'ch blaen pan ydych yn ceisio cerdded trwyddyn nhw.

Ac yr oedd yma dyrfa sylweddol. Casgliad o fân dyrfaoedd yn meddiannu grisiau a choridorau a chynteddau. Cymaint ohonynt wedi eu pacio'n dyn i Ganolfan y Mileniwm fe fyddai sardîn yn cael twts o agoraphobia yn ei dun oherwydd bod cymaint o le gwag yno mewn cymhariaeth.

Heidiodd 22,962 i Ganolfan y Milenwim sef bron i dair mil yn fwy nag a fynychodd yr Eisteddfod mewn cae ym Mae Colwyn ar y dydd Mawrth y llynedd.

Ond yr oedd hyd yn oed hynny 1,725 yn llai nag oedd yng Nghaerdydd yr un diwrnod yn 2005.

Yr un oedd y stori ddydd Llun gyda 1,156 yn fwy na'r llynedd yn bresennol.
Ond yn 430 yn fwy nag a ddaeth yn 2005.



Magi Dodd - yn y ffasiwn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 08:00, Dydd Mercher, 27 Mai 2009

Sylwadau (0)

Un o'n Blogwyr Gwadd yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon ydi Magi Dodd o 'C2' - ac mae hi wedi bod yn dilyn y ffasiwn . . .

Sgwrs ffasiynol - Magi a Jason Mohammad, llywydd y dydd, ddydd Mawrth

Helo bawb!
Yr wythnos yma, yn lle cyflwyno ar C2 fi yw'r person ffodus yna sydd yn crwydro'r maes yn Eisteddfod yr Urdd, Bae Caerdydd 2009 ar ran Radio Cymru.

Wrth gwrs, mae yna gystadlu brwd ar lwyfan yr Urdd, ond mae digonedd o bethau I'w gwneud a'u gweld ar y maes yn ogystal.

Yr hyn sy'n fy nenu i yw ffasiwn y maes - ac yn enwedig ffasiwn selebs Cymru yr y maes... beth mae enwogion Cymru yn ei wisgo yn Eisteddfod yr Urdd?

Mi fyddai'n cadw fy llygaid ar agor gydol yr wythnos i weld pwy sy'n gwisgo beth, ac yn gadael I chi wybod - dyma pwy dwi wedi eu gweld mor belled:

Dydd Llun:

  • Derwyn Jones (cyn wythwr rygbi Cymru) - cot fleeceddu, a jeans

  • Nia Roberts - cot gyda phrint llewpart du a gwyn arni.

  • Alun Williams (Stwffio) - crys polo gwyrdd, a jeans.

  • Emyr Penlan - crys glas a throwsus du.

  • Rhodri Owen - crys coch a gwyn (tsiec) a jeans


Ddydd Mawrth:
  • Glyn Wise (fy ngŵr radio!) - crys T du a jeans tri chwarter - a sbectol haul!

  • Rhodri Meilir - cot ddu a jeans.

  • Anthony Evans (Stwffio) - jeans a hoodie las a llwyd streipiog.

  • Dewi Pws - trowsus lliw tywod. Cap ar ei ben.

  • Trystan Mosgito - cot ledr a jeans.

Dyna'r cyfan am y tro, ond cofiwch - os ydych chi'n fy ngweld yn crwydro'r maes ac wedi gweld unrhyw un enwog, gadewch i fi wybod beth oedden nhw'n ei wisgo, fel y galla I adael I bawb arall wybod!
Hwyl!
Magi.

Dalennau drudion

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:35, Dydd Mawrth, 26 Mai 2009

Sylwadau (0)

Mewn siop yng nghyntedd Canolfan y Mileniwm mae llyfrau nodiadau ar werth a ystyrir gan rai yn bethau go arbennig.

Llyfrau cwmni "Moleskin" sy'n cael eu disgrifio ar eu label fel "The legendary notebook of Hemingway, Picasso, Chatwin."

Un arall fu'n defnyddio'r llyfrau nodiadau hyn a wnaed yn Tours yn Ffrainc oedd Van Gough a daethpwyd dros y blynyddoedd i ystyried y llyfrau bach yn eitemau 'eiconig' chwedl hwythau.

Gair arall am eiconig ydi drud ac y mae gyda'r lleiaf ohonynt yn ddecpunt namyn rhai ceiniogau.
Llyfr nodiadau
Ac edrych ar y pris hwnnw yr oedd gwraig y dydd o'r blaen; gan droi at ei gwr gan ddweud, "Dwi am ddisgwyl nes awn ni i Tesco."

Gan ddibrisio Picasso, Hemmingway a'r lleill mewn un frawddeg gryno.
Ac o bosib, tanlinellu'r ffaith mai pwy sy'n sgwennu sy'n bwysig nid ar beth maen nhw'n sgwennu!

Wrth basio

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:11, Dydd Mawrth, 26 Mai 2009

Sylwadau (0)

  • Pethau ydych chi'n eu clywed ar faes Eisteddfod: Rhif 2.
Yr ail mewn casgliad o ddywediadau a glywir wrth fynd heibio ar y Maes.

Tad wrth fam: "Dydw i ddim yn siwr faint mae hi'n ddallt am ganu beth bynnag . . ."



Tardis 'to

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:39, Dydd Mawrth, 26 Mai 2009

Sylwadau (0)

A hithau ond deuddydd oed mae hon yn prysur fynd yn Eisteddfod yr Ymweliadau Annisgwyl.
Mickey Mouse yn ei holl ogoniant Disneaidd ddoe.

Ond cyn hynny yr oedd ymwelydd mwy annisgwyl fyth wedi cyrraedd Canolfan y Mileniwm.
Tardis ar y to

Ac er nad yw Dr Who ei hun wedi cael ei weld ar na llwyfan na maes hyd yn hyn y mae ei 'gar' wedi ei barcio yng ngolwg pawb.

"A pharciwr sâl ydi o hefyd," meddai cyfaill. "Welsoch chi lle mae o wedi parcio?"

A dyna lle mae'r Tardis, ers tridiau bellach, ar do Canolfan y Mileniwm.

Yn ddigon diogel rhag y mwyaf brwdfrydig o wardeiniaid traffig debygwn i!

Croeso seneddol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:01, Dydd Mawrth, 26 Mai 2009

Sylwadau (0)

Bydd rhai yn cofio, yn nyddiau cynnar sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol, John Elfed Jones, fel cadeirydd y pwyllgor ymgynghorol oedd yn llunio'r rheolau sefydlog, yn cynnal cyfarfodydd ar hyd a lled y wlad i ddweud wrth y bobl sut beth fyddai senedd newydd.
Adeilad y Senedd

Ac un o'i ddymuniadau oedd y byddai'r Cynulliad neu senedd yng Nghaerdydd yn lle cartreol a chroesawgar. Yn lle na fyddai'n rhaid i werin gwlad deimlo'n chwithig neu'n ofnus wrth ymweld â'r lle.

Yn wir, rhagwelai le y gallai dinesydd fynd a dod iddo yn gwbl ddidramgwydd - fel cerdded i gartre cyfaill. Senedd y bobl fyddai hon heb ddim o rwysg a rhwystrau San Steffan

Doedd o ddim am i'r lle fod yn fawreddog nac yn grachaidd.

A chyda hynny yn fy nghof y piciais draw i adeilad y Senedd ddydd Sul i'w gweld nhw yn didoli ac yn gosod ymgeision cystadlaethau Celf a Chrefft Eisteddfod yr Urdd i'w harddangos.

Yn wahanol i freuddwyd John Elfed nid oedd i'r Senedd y rhyddfynediad yr oeddwn yn ei ddisgwyl.

Gorchymyn, yn Saesneg, yn gyntaf i wagio pocedi a chael sganio eich bag yn nhraddodiad cael mynediad i faes awyr neu i wlad ddieithr.

A swyddogion yn eich galw'n "Syr" - gair sydd bob amser a rhyw islais trahaus neu gyhuddgar iddo ar wefusau rhywun mewn iwnifform.

Fel mae'n digwydd, bu'r rhaid i mi adael cyllell boced gyda'r porthor i'w chasglu eto ar y ffordd allan a hynny'n rhywbeth a oedd yn rhywfaint o ddirgelwch.

Ai'r athroniaeth y tu ôl i weithred felly yw nad oes fiw ichi fod yn fygythiad o fewn y muriau ond unwaith yr ydych oddi allan waeth faint o beryg ydych chi i bobl eraill?

Diwrnod Mouse a Pws

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:16, Dydd Llun, 25 Mai 2009

Sylwadau (0)

Mickey Mouse, felly, oedd 'dyn y dydd' ddydd Llun yn Steddfod y Bae.

Ond Dewi Pws oedd fwyaf doniol gyda'i ymddangosiad fel Llywydd yr Eisteddfod yn llonni cynrychiolwyr y Wasg ar y Maes.

Byddai wedi bod yn hyfryd gweld sefydlu sioe Twm-Jeriaidd, Pws a Mouse ond doedd hynny ddim ar y cardiau mewn gwirionedd.

Mickey a'r Ddraig ar ei gefn

Hywel Gwynfryn wnaeth fy atgoffa mai'r wythnos diwethaf, Mai 20, y bu farw Wayne Allgwin yr actor a fu'n llais i Mickey am 32 o flynyddoedd - gyda'i wraig yn llais i Minnie Mouse.

Llais cyntaf y llygoden hudol, wrth gwrs meddai Hywel!, oedd Walt Disney ei hun ac fe glywyd Mickey yn siarad gyntaf yn y ffilm Steamboat Willy a wnaed 81 o flynyddoedd yn ôl - blwyddyn cyn Eisteddfod gyntaf yr Urdd yn 1939!

Temtio ffawd?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:26, Dydd Llun, 25 Mai 2009

Sylwadau (0)

Yr oedd rhywun yn ofni tybed bod y Prifardd Tudur Dylan Jones wedi temtio ffawd braidd pan yn siarad â'r Wasg mewn cyfarfod bnawn Sul

Yn gadeirydd y pwyllgor sy'n gofalu am eisteddfodau'r Urdd dywedodd y bardd y gallai ddweud â'i law ar ei galon na fu iddo ef erioed yn ystod ei yrfa ddwyn llinellau unrhyw fardd arall.

"Llên ladrad fyddai hynny," meddai ond gan fynd ymlaen i ddweud iddo ef hyd yn oed gael ei demtio i 'ddwyn' rhywbeth a ddywedwyd gan Bryn Terfel ychydig ynghynt.

"Am y tro cyntaf erioed mi rydw i yn mynd i ddwyn llinell," meddai.

"Mi ddeudodd o rywbeth, mai beth mae ei ysgoloriaeth yn trio'i wneud ydi 'Dal yr aderyn cyn iddo fo hedfan'.

"Wel, mi fydda i yn defnyddio hwnna mewn rhyw gerdd mewn 'chydig," meddai gan ddweud ei bod yn ddelwedd rhy dda i'w cholli.

Ond o gofio beth ddigwyddodd pan ymwelodd Eisteddfod yr Urdd a Chanolfan y Mileniwm ddiwethaf pan fu'n rhaid tynnu'r goron oddi ar yr un a goronwyd ar y llwyfan oherwydd iddi ddefnyddio gwaith rhywun arall - fe debygwn i mai'r peth olaf i sôn amdano ar gychwyn y Brifwyl bresennol oedd llên-ladrad!

Dim ond gobeithio na fydd yn ragwelediad o wae!

Pen-blwydd hapus Aled

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:24, Dydd Llun, 25 Mai 2009

Sylwadau (0)

Aled Sion.jpgMae'n ddiwrnod mawr ar Faes yr Eisteddfod yfory.

Dyma ddydd pen-blwydd cyfarwyddwr yr W^yl, Aled Sion.

Yn edrych cyn ieuenged ag erioedd bu pawb yn ddigon graslon hyd yn hyn i beidio â gofyn iddo faint yw ei oed.

Digon yw dweud; go brin bod ganddo hawl i gystadlu yn ei Steddfod!

Pen-blwydd hapus iawn iddo beth bynnag.
A llawn cystal fod y dathliad yn gynnar yn yr wythnos. Cyn iddo golli ei wynt i chwythu'r canhwyllau yna.

Teithiau trwy drafod yn y dyfodol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:09, Dydd Llun, 25 Mai 2009

Sylwadau (0)

Eva Gruffudd Jones

Cafwyd yr awgrym sicraf hyd yn hyn na fydd yr Urdd yn dychwelyd i Gaerdydd a Chanolfan y Mileniwm ymhen pedair blynedd.

Ac arwyddion hefyd nad yr Urdd ei hun fydd yn penderfynu i ble bydd yr Eisteddfod yn mynd o hyn allan.

Mewn cynhadledd i'r Wasg bnawn ddoe dyweddodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Mudiad, mai mewn ymgynghoriad â'r Cynulliad a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y penderfynir ar ymweliadau'r dyfodol.

"Yr ydych yn gwybod," meddai wrth ohebwyr, " bod gennym ni gytundeb ariannu newydd gyda Llywodraeth y Cynulliad a Chymdeithas Llywodraerth Leol Cymru sydd wrth gwrs yn rhoi sicrwydd ariannol i'r Eisteddfod ond sydd yn golygu y byddwn ni o hyn ymlaen yn gorfod trafod taith yr Eisteddfod gyda nhw a hefyd gyda gwyliau cenedlaethol eraill er mwyn cynllunio y daith eisteddfodol yn y dyfodol."

Ychwanegodd mai arwyddocad hyn yw "mai trwy drafodaeth" y trefnir ymweliadau'r Eisteddfod o hyn allan.

"A dwi'n credu y gallai ddweud wrthych chi ei bod yn annhebyg felly y byddwn ni yma [yng Nghanolfan y Mileniwm] mewn pedair blynedd," ychwanegodd.

Ond fe ddywedodd hefyd fod y mudiad yn gobeithio dychwelyd "mor fuan ac y gallwn" oherwydd yr adnoddau a phrofiad y mae'r Ganolfan yn eu cynnig i gystadleuwyr.

Croesawodd pennaeth y Ganolfan, Judith Isherwood, ymweliad yr Urdd hefyd gan ddisgrifio'r ymweliad eleni fel "kick start i ddathliadau pen-blwydd y Ganolfan yn bump oed.

'Lle i enaid gael llonydd'

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:46, Dydd Sul, 24 Mai 2009

Sylwadau (0)

Dim ond tafliad carreg o Faes yr Eisteddfod mae 'Gwarchodfa Gwlypdir Bae Caerdydd' - lle hyfryd i fynd am dro os am gefnu ar y dwndwr Eisteddfodol am ychydig.
Alarch yn gori

A go brin bod nunlle gwell yng Nghaerdydd gyfan i gollwr sâl synfyfyrio a llyfu ei friwiau mewn tawelwch.

Does ond angen cyfeirio eich camau tuag at westy Dewi Sant ac mae digonedd o arwyddion yn dangos y ffordd i ben eich taith.

Yn gynnar y bore ac ar ddiwedd dydd mae'n hynod dawel a digon o le i enaid gael llonydd.
Hwyaid a ieir dwr i'w gwylio ar eu nawf ac adar mân yn bwydo ymhlith yr hesg sy'n crynu'n yn yr awel lesg.

A gellir oedi i wylio o bell alarch ar ei nyth.

Yr union le i fardd y flwyddyn nesaf fynd am ysbrydoliaeth!

Wrth basio . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:45, Dydd Sul, 24 Mai 2009

Sylwadau (0)

  • Pethau ydych chi'n eu clywed ar faes Eisteddfod: Rhif 1.
Y cyntaf mewn casgliad o ddywediadau a glywir wrth fynd heibio ar y Maes.

Merch ifanc yn ei harddegau wrth gyfaill: "'Si mots am hynny - fe wnaiff Dad dalu . . ."

Steddfod seneddol ynteu Senedd steddfodol?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:36, Dydd Sul, 24 Mai 2009

Sylwadau (0)

'Maes' yr Eisteddfod, liw nos.jpg
Heb amheuaeth mae hon yn siwr o fod yr Eisteddfod gyntaf erioed i fod â senedd yng nghanol ei maes!

A go brin bod yna senedd slap bang yng nghanol unrhyw w^yl ddiwylliannol arall yn unman y byd ychwaith - oni gwyddoch chi yn wahanol!

Pan ymwelodd Eisteddfod yr Urdd â Chanolfan y Mileniwm ddiwethaf yn 2005 doedd adeilad Senedd y Cynulliad Cenedlaethol ddim wedi ei godi er bod cynlluniau ar ei gyfer ar y gweill.

Erbyn hyn mae'r 'Senedd' dros ddwyflwydd oed ac nid yn unig yng nghanol maes yr Eisteddfod ond hefyd yn cael ei ddefnyddio gan yr Urdd i arddangos goreuon cystadlaethau celf a chrefft yr W^yl.

Rhwng de a gogledd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:46, Dydd Sadwrn, 23 Mai 2009

Sylwadau (0)

Hyd yn oed cyn i'r Eisteddfod hon gychwyn yn iawn codwyd rhywfaint o amheuaeth a fydd yn dychwelyd yma ymhen pedair blynedd fel y gallai.

A fyddai hynny ddim yn newyddion drwg i rai.

Mae'r Urdd wedi ymateb yn sydyn iawn i gwynion o'r gogledd fod Caerdydd yn bell ac yn lle drud i deithio ac aros ynddo i gystadleuwyr.

Ond er bod trefniant mewn llaw i'r Eisteddfod ddychwelyd i Ganolfan y Mileniwm bob pedair blynedd dywedodd cyfarwyddwr yr Å´yl, Aled Sion, ar Radio Cymru y bore ma y gallai'r Urdd wyro oddi wrth y patrwm presennol o glwstwr o eisteddfodau deheuol a dychwelyd at drefniant gogledd / de bob yn ail.

"Da ni'n ymwybodol o'r problemau a gallaf ddweud efallai y bydd y patrwm gogledd de yn dod yn ôl i fodolaeth," meddai ar y Post Cyntaf.

Ond gydag Eisteddfod y flwyddyn nesaf yng Ngheredigion a'r un wedi honno yn Abertawe fydd hynny ddim yn digwydd yn sydyn gyda thair Eisteddfod ddeheuol un ar ôl y llall.

A phe byddai'n dychwelyd fel y gallai i Ganolfan y Mileniwm yn 2013 byddai hynny'n golygu cnwd eithaf anarferol o Eisteddfodau deheuol.

Yng ngeiriau'r papurau arholiad, Trafodwch.

Ond go brin fod angen dweud hynny, mae'r trafod wedi dechrau'n barod!

Cymru, Cyd-ddyn, Crist - a phawb

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:07, Dydd Iau, 21 Mai 2009

Sylwadau (0)

Ers tair neu bedair blynedd bellach mae'r amod o ffyddlondeb i Grist yn 'llw' yr Urdd wedi bod yn achos rhywfaint o grafu pen.

Pan sefydlwyd y mudiad gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn y Dauddegau doedd cynnwys y trydydd amod o ffyddlondeb i Grist ddim yn dramgwydd o gwbl.

Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae blant o ddiwylliannau a chredoau eraill yn llawer iawn mwy niferus yng Nghymru a bu mwy a mwy o holi dros y blynyddoedd diwethaf a yw'r trydydd cymal hwn yn llw ffyddlondeb y mudiad yn beryg o'u heithro hwy.

Dydi'r ddau gymal arall o dyngu ffyddlondeb i Gymru ac i gyd-ddyn yn drafferth i neb, beth bynnag eu cred neu ddaliadau crefyddol.
Triongl yr Urdd

Bydd gwasanaeth yng Nghanolfan y Mileniwm bnawn Sul ar thema 'newid hinsawdd' Neges Ewyllys Da 2009 y mudiad yn ymgais i fynd i'r afael a'r broblem hon gan i'r Urdd fod yn cydweithio â Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru.

Disgrifir y seremoni fel ffordd "anturus" o dynnu "deiliaid prif gredoau a diwylliannau eraill y genedl" i'r gweithgareddau ac ar yr un pryd fynegi "traddodiad Cristnogol Cymru" .

Meddai'r Parchedig Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn:

"O lwyfan cadarn traddodiad Cristnogol Cymru, bu'n bleser cael cydweithio â'r Urdd wrth groesawu traddodiadau a chredoau amrywiol Cymru heddiw i'r dathliad arloesol hwn."

Yn ystod y dathliad bydd cyflwyniad gan Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yr Arglwydd Elis Thomas, a chyfraniadau gan gôr CF1, band drymiau dur Ysgol Fitzalan - yr ysgol fwyaf aml-hiliol yng Nghymru - a chôr Ysgol Plasmawr.

Darlledwyd Neges Ewyllys Da yr Urdd ddydd Llun diwethaf ynghyd â chân oedd yn gysylltiedig â hi wedi ei llunio gan ddisgyblion o ysgolion Fitzalan a Phlasmawr yn y Brifddinas - y tro cyntaf i ddwy ysgol weithio ar y cyd i lunio'r Neges.

Diolch byth am lyfrau sâl . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:25, Dydd Mercher, 20 Mai 2009

Sylwadau (0)

Ydi pob llyfr yn haeddu adolygiad?
Nac ydynt yn ôl un adolygydd Saesneg.

Wrth fynd ati i adolygu rhyw lyfr neu'i gilydd mewn cylchgrawn yr wythnos o'r blaen agorodd Nigel Lawson gyda'r geiriau:

"Fel rheol gyffredinol dydw i ddim yn credu mewn adolygu llyfrau sâl."

Ei resymeg yw eu bod yn dwyn lle a ddylai fynd i lyfrau gwell sy'n haeddu cael eu cymell.

"Mae'r lle sydd ar gael ar gyfer adolygiadau yn brin ac mae'r nifer o lyfrau da sy'n cael eu cyhoeddi yn haeddu'r cynnig cyntaf ," meddai yn y Spectator.
Llyfrau

Mae'n ddadl gwerth oedi gyda hi a gwnaeth i mi feddwl, tybed faint o lyfrau Cymraeg fyddai'n cael eu taflu i'r fasged 'Dim gwerth eu hadolygu' pe byddem yn dewis dilyn yn ôl troed Lawson.

Wrth gwrs, gellid maddau i gyhoeddwr am amau bod canlyniadau'r yr egwyddor i'w gweld yn barod achos mae'n rhaid bod sawl llyfr Cymraeg yn llithro drwy'r rhwyd adolygiadol heb sylw o gwbl. Rhai yn llyfrau digon derbyniol.

Ond diffyg mawr 'Deddf Adolygu Lawson' yw bod yn rhaid ichi ddarllen llyfr i weld a yw'n un sâl. Mor fuddiol fyddai dyfais i ddarganfod hynny cyn darllen. Byddai'n fendith i bob un ohonom!

Ond tybed. Mae ochr arall i adolygu llyfrau sâl hefyd.
Maent yn rhoi yr hawl i adolygydd fwrw ei lach arnynt ac fel y gw^yr pawb mae rhyw bleser rhyfedd i'w gael o golbio a gorddio mymryn o awdur diamddiffyn.

Ac yn ogystal a bod yn llesol i enaid yr adolygydd mae adolygiad sy'n ffustio a chystwyo yn llawer difyrrach i'w ddarllen nag un gwerthfawrogol.

Diolch byth, felly am lyfrau sâl.
Hebddyn nhw fyddai yna ddim adolygiadau da!

Dechrau newydd gyda 'Terminator'

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:21, Dydd Mawrth, 19 Mai 2009

Sylwadau (0)

Christian Bale

Ar fin cyrraedd y sinemâu mae'r bedwaredd ffilm Terminator.

A chyda hon mae actor amlycaf y gyfres wedi ei - wel, wedi ei derminetio os maddeuwch y gair.

Fydd yna ddim Arnold Schwarzeneger y tro hwn, fel ag y bu yna ers y ffilm gyntaf yn 1984.

Arwr y bedwaredd ffilm fydd Christian Bale a wnaeth gymaint o argraff fel y Batman diweddaraf.

Bydd hynny o ddiddordeb arbennig i ni yng Nghymru.

Er nad yn Gymro o waed y mae o ran lleoliad - wedi ei eni yn Hwlffordd, Sir Benfro, yn 1974 yn fab i berfforwraig mewn syrcas a pheilot awyrennau.

Gyda'r fath bedigri - ac yr oedd ei daid o'u blaenau yn daflwr lleisiau, yn gonsurwr, yn focsar ac yn joci - dim rhyfedd iddo droi at actio.

A hynny'n gynnar iawn gan iddo ymddangos mewn hysbyseb meddalwr dillad Lenore pan yn wyth oed a rhannu'r llwyfan erbyn cyrraedd ei ddeg oed gyda Rowan Atkinson yn The Nerd yn West End Llundain.

Erbyn cyrraedd ei 13 yr oedd yn adnabyddus ar draws y byd yn dilyn ei ran yn Empire of the Sun Spielberg.

Yr oedd o wedi hen adael Cymru erbyn hynny gyda'r teulu wedi symud o Sir Benfro i Swydd Rydychen gyntaf, Portiwgal wedyn a Bournemouth ar ôl hynny lle dysgodd Bale ddawnsio bale a chanu'r gitâr.

Fel oedolyn ei strôc fawr oedd American Psycho wedi i Leonardo DiCaprio, y dewis cyntaf am y rhan, wrthod y cynnig.

Mae'n actor, ac fe ddangosodd American Psycho hynny, sy'n ymroi'n llwyr i'w rannau. Ar gyfer y ffilm ysgytiol The Machinist collodd bedair ston a hanner er mwyn chwarae rhan y gweithiwr ffatri hunllefus ar ei gythlwng. Erbyn gorffen ffilmio prin y gallai gerdded yr oedd mor wan.

Yn Tropic Thunder a saethwyd yng Ngwlad Tai collodd 35 pwys er mwyn mynd i ysbryd y darn fel petai.

Heb amheuaeth mae'n un o'r actorion galluocaf a adawodd Gymru. Trawsnewidiodd naws ac awyrgylch ffilmiau Batman yn llwyr yn chwarae'r brif ran yn Batman Begins gan droi ffilm gomics yn ffilm o sylwedd.

Parhaodd y trawsnewidiad gyda The Dark Knight. Ac er mai Heath Ledger dynnodd y sylw mwyaf yn honno actio Bale oedd yn rhagori mewn gwirionedd.

Yn ddiweddar gosodwyd ar y we 'berfformiad' answyddogol rhyfeddol gan yr actor lle mae'n cael ei weld yn rhegi am bron i bedwar munud aelod o'r criw a oedd wedi tarfu arno tra'n ffilmio. Llif o regfeydd sy'n cynnwys y gair Ff 37 o weithiau yn ôl y rhai hynny heb ddim gwell i'w wneud na'u cyfrif. Yr oedd yn bennod anffodus a gododd o'i ddwyster fel actor yn ôl ei gyfeillion ac fe ymddiheurodd wedyn am y digwyddiad. Beth bynnag am hynny, mae edrych ymlaen yn awr i weld beth wnaiff o gyda'r Terminator. Go brin y bydd yn ddiwedd taith. Cychwyn un arall mwyaf tebyg!

Batman Begins

'Maes' a stondinau yng Nghaerdydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 16:52, Dydd Mercher, 13 Mai 2009

Sylwadau (0)

Aled Sion

Gyda Steddfod yr Urdd yn agosáu'n gyflym y cwestiwn sy'n cael ei ofyn yw, A fydd yna 'Faes' gyda stondinau yng Nghaerdydd?

A'r ateb yw y bydd yna gyda rhyw 120 o stondiwyr wedi archebu lle.

Achos y pryder oedd fod adeilad y Senedd erbyn hyn wedi ei godi lle'r oedd tir agored pan ymwelodd yr Eisteddfod â Chanolfan y Mileniwm ddiwethaf yn 2005 a rhai yn amheus a fyddai lle yr wythnos nesaf i'r stondinau hynny sy'n rhan mor hanfodol o bob Eisteddfod.

Ond meddai 'Mr Steddfod', yr Urdd, Aled Sion sy'n trefnu'r Å´yl:

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu dros 120 o stondinwyr i'r Maes ym Mae Caerdydd eleni.

"Bydd rhai stondinau mawr yn y basn, ar Plass Roald Dahl, ond bydd y rhelyw o'r stondinau ar safle sydd ar hyn o bryd yn faes parcio, nesaf at y maes parcio aml lawr newydd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru â Chanolfan Red Dragon.

"Mae'r safle yn addas iawn gan fod tarmac o dan draed, a bydd yr ardal yn llawn bwrlwm gydol wythnos yr Eisteddfod.

"Hefyd eleni, fe fydd stondinau crefft bychan a welir yn aml mewn digwyddiadau ardraws Caerdydd, wedi'u lleoli ar y Maes."

Newyddion da felly - wel i bawb, amwni,  ond gwerthwyr welingtons!

A chyda llaw - yn adeilad y Senedd y bydd gwaith cystadleuwyr yr adran Gelf a Chrefft yn cael ei arddangos.


Wynebu'r Bae

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:40, Dydd Iau, 7 Mai 2009

Sylwadau (1)

Canolfan y Mileniwm

Gydag wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd yn dynesu mae ein gwefan Eisteddfod wedi ei chyhoeddi gyda rhai manylion am y paratoadau.

Wrth gwrs, byddwn yn ychwanegu at y wefan hon dros y dyddiau nesaf wrth i wybodaeth ddod i law.

Mae'n Eisteddfod y mae edrych ymlaen arbennig tuag ati a hithau yn ymweld am yr eildro â Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Pan ymwelodd yr Ŵyl â'r Ganolfan gyntaf yn 2005 cafodd eisteddfodwyr eu siomi o'r ochr orau a ac yng ngolwg yr Urdd bu'n llwyddiant mawr - pam arall dychwelyd yno eto eleni.

Bu newid mawr yn Y Bae - fel mae'r Docs yn cael eu hadnabod bellach - nid lleiaf codi adeilad Senedd y Cynulliad lle'r oedd stodinau a phebyll yn sefyll yn 2005.

Yn y Senedd y tro hwn y bydd arddangosfa Gelf a Chrefft yr Eisteddfod - arddangosfa sydd bob amser werth ymweld â hi gyda'i chymysgedd o'r difrif a'r doniol.

Ond hyd yn oed cyn i'r un nodyn gael ei ganu na'r un araith ei thraethu yng Nghaerdydd mae trigolion Ceredigion yn paratoi'n barod ar gyfer gweithgareddau cyhoeddi Eisteddfod 2010 yno ac mae gweithgareddau wythnos y cyhoeddi eisoes wedi eu cynnal.

Cartref yr eisteddfod fwy traddodiadol honno gyda'i maes a'i stondinau fydd tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron ger Aberaeron - maes a ddewiswyd o blith 11 o safleoedd a gynigwyd mewn gwahanol rannau o Geredigion.

Sefyllfa hapus iawn i fod ynddi fel y dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwyr yr Eisteddfod:

"Mae'r Urdd yn ffodus ac yn falch iawn bod cynifer o ardaloedd wedi dangos diddordeb a bod safleoedd o safon ar gael," meddai.

Er mai hwn fydd pumed ymweliad yr Eisteddfod â Cheredigion dyma'r tro cyntaf iddi gael ei chynnal yn Aberaeron.

Bu ddwywaith yn Aberystwyth a dwywaith yn Llanbedr Pont Steffan - y tro diwethaf mewn mwd yn 1999!

Am chwech nos Iau, Mai 14 yn y Llyfrgell Genedlaethol bydd cyfle i edrych yn ol dros y deugain mlynedd er pan ymwelodd yr Eisteddfod ag Aberystwyth gyda Peter Hughes Griffiths yn ein hatgoffa o'r Eisteddfod gythryblus honno yr ymwelodd 'Y Prins' a hi a lle cadeiriwyd Gerallt Lloyd Owen.

Cadeirydd y noson fydd yr Athro Elan Closs Stephens a phris y tocynnau yw £10 gyda gwin a ³¦³ó²¹²Ô²¹±èé²õ yn rhan o'r fargen.

.

Newid ddaeth . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:35, Dydd Iau, 7 Mai 2009

Sylwadau (0)

Yn anorfod, a Barack Obama newydd ddathlu ei gan niwrnod cyntaf yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae'r ymadrodd Wythnos gwas newydd yn mynnu dod i'r meddwl.

Ond er yr holl orfoledd a disgwyliadau cychwynnol dydi'r gwas newydd ddim wedi plesio pawb - gan gynnwys awdur colofn olygyddol Y Tyst, wythnos olaf Ebrill.

Yn ei sylwadau golygyddol yn newyddiadur Undeb yr Annibynwyr Cymraeg mae Guto Prys ap Gwynfor yn ein hatgoffa o'r modd y cymharwyd Obama â Martin Luther King.

A sut y bu'r gwleidydd "yn dyfynnu'n helaeth o anerchiadau grymus ac effeithiol y Cristion ymroddgar hwnnw."

Ond yn ystod can niwrnod cyntaf Obama yn ei swydd, dadleua Guto Prys ap Gwynfor mai ychydig iawn a wnaeth yr Arlywydd newydd yn ei swydd i hyrwyddo'r gymhariaeth a King.

"Yn wir y mae'n ymddwyn yn debyg iawn i'w ragflaenwyr yn y Tŷ Gwyn, yn enwedig yn ei bolisïau tramor," meddai.

Mae'n arbennig o feirniadol o bolisïau Obama mewn perthynas ag Affganistan ac Irac gan ddweud:

"Bradychu gwaddol Martin Luther King yw hyn; drwy weithredu'n gwbl groes i'r modd y gweithredodd ef. Sarhad ar yr arwr hwnnw yw bod yr Arlywydd Obama'n defnyddio'i eiriau wrth iddo ar yr un pryd orchymyn dinistrio bywydau a chreu dioddefaint i filoedd o bobol."

Gan ein hannog wedyn i ystyried cyngor y Bregeth ar y Mynydd i ochel "rhag gau broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus."

Gan brofi y gall can niwrnod fod ganmil hirach nag wythnos mewn gwleidyddiaeth.

Dalennau prysur

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:14, Dydd Iau, 7 Mai 2009

Sylwadau (0)

Cylchgronnau

Beth bynnag sy'n digwydd ar ddalennau'r wasg Gymraeg ar hyn o bryd mae digon o newyddion oddi ar y tudalennau - gyda newid yn sawl lle.

Ers pythefnos mae Y Cymro wedi ennill golygydd newydd wrth i William Owen drosglwyddo'r awenau i Dylan Halliday a fu gyda Phapurau'r Herald.

Dros yr un cyfnod collodd y papur ddau o'i golofnwyr, y pigog Colin B Jones a'r di-flewyn ar dafod Gwilym Owen.

Cafwyd olynydd i'r pigog ym Madog Mwyn ond hyd yn hyn ni chyhoeddwyd a ddaw rhywun mwynach yn lle Gwilym Owen hefyd.

Gwelodd Barn newidiadau hefyd wrth i Dyfrig Jones ymollwng â'r olygyddiaeth yn sgil cael ei benodi'n aelod o awdurdod S4C gan adael ei ddau gyd-olygydd, Vaughan Hughes a Menna Baines mewn gofal.

Fodd bynnag, penodwyd tua'r un pryd Bethan Mair - Gwasg Gomer gynt a Chwlwm Cyhoeddwyr Cymru bellach - yn "Gyfarwyddwr Cyhoeddi" Barn gan addo, yn Golwg y bydd yn "rhoi fy mys ym mhob briwes ynglŷn â'r cylchgrawn" gan ymresymu fod "pâr o lygaid newydd yn gallu goleuo pobol sydd wedi bod yn gwneud yr un peth ers amser i'r math o bethau alle gael eu gwneud yn well."

Mae rhywun yn teimlo fel ychwanegu ! at osodiad fel yna - ac efallai fod y golygyddion eisoes wedi gwneud - ond wna i ddim. Dim ond gwylio Barn am oleuni pellach.

A sôn am Golwg mae hi'n ddyddiau difyr yno hefyd gyda gwefan newydd y cylchgrawn yn gweld golau dydd Mai 15 - Golwg 360, a sefydlwyd gyda grant y Cynulliad. Arian, y mae rhai yn dal i feddwl ddylai fod wedi mynd i Ned Thomas greu Byd newydd.

A sôn am grantiau mae Taliesin eisoes yn teimlo'r esgid fach yn gwasgu yn dilyn dyfarniad diweddaraf y Cyngor Llyfrau i gylchgronau.

I wneud iawn am gwtogiad mewn grant bu'n rhaid codi pris y cylchgrawn o £4 i £6.95 gyda'r golygyddion yn "mynegi ein pryder ynghylch y penderfyniad i godi'r pris i'r fath raddau mewn un naid".

Ond y maen nhw hefyd yn ymrwymo i ymdrechu "fel erioed" i ddarparu'r gwerth gorau am arian ym mhob rhifyn - "o ran cynnwys a diwyg".

A chyda'r fath ymroddiad pwy a ŵyr na fydd cynnydd mewn cylchrediad a'r incwm newydd yn caniatáu gostyngiad yn y pris.

Dyna fyddai stori.

A thybed ai yn y cylchgrawn newydd o'r Lolfa y gwêl hi olau dydd.

Bydd y Lolfa yn treialu ei gylchgrawn newydd, Sylw, dros gyfnod yr Eisteddfod Genedlaethol gyda £3,000 o arian y Cyngor Llyfrau yn talu am yr ymarferiad. Y tro cyntaf i'r math yna o beth ddigwydd ac yn rhywbeth nad yw'n cael ei ystyried y ffordd decaf o weithredu yng ngwersyll Barn a'r cylchgrawn hwnnw yn ystyried ei fod ef wedi ei roi ar flwyddyn o brawf gan y Cyngor ac yn ben-ben a Sylw.

Ydi wir, mae'r wasg Gymraeg yn un i gadw llygaid arni - ond un cylchgrawn na fydd yn gwneud hynny eleni yn ôl y sôn ydi Dim Lol gan nad yw'n fwriad cyhoeddi un ar gyfer y Steddfod.

Dim Dim Lol efo ! yn bennawd sy'n cynnig ei hun .

A rhag i neb feddwl mai ond yn y Gymraeg mae cynyrfiadau. Mae Planet wedi datgan y bydd yn cael ei gyhoeddi bob chwarter o hyn allan.

Cyhoeddiad sy'n syndod arbennig i'r rhai hynny oedd yn meddwl mai chwarterol oedd o beth bynnag!

Y rhai fydd yn prysur bwyso . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 08:14, Dydd Mercher, 6 Mai 2009

Sylwadau (0)

John Fisher

John Fisher o Opera Cenedlaethol Cymru yw cadeirydd beirniaid y ddwy gystadleuaeth ac yn ymuno â beirniaid y brif gystadleuaeth am y tro cyntaf eleni bydd y soprano fyd-enwog o Bontnewynydd, Gwent, Y Fonesig Gwyneth Jones.

Camp fawr fydd dod o hyd i docyn ar gyfer y brif gystadleuaeth. Mae'n arferiad gan nifer o'r ffyddloniaid i archebu eu tocynnau ar gyfer y gystadleuaeth nesaf yn union ar derfyn yr un gyfredol.

Mae mwy o obaith am docyn i gystadleuaeth y Datganiad, yn arbennig y rowndiau hynny a gynhelir yn y Theatr Newydd ar brynhawniau Sul, Llun a Mawrth.

Byddai'n werth ymholi am rownd derfynol y gystadleuaeth hon, hefyd, yn Neuadd Dewi Sant, nos Wener, Mehefin 12.

O fethu hynny, bydd digon o gyfle i weld a chlywed y cystadlu ar ´óÏó´«Ã½2 Wales, ´óÏó´«Ã½ Two, ´óÏó´«Ã½ Four, ´óÏó´«Ã½ Radio 3, ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru, ´óÏó´«Ã½ Radio Wales ac arlein.

Y wlad leiaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 08:10, Dydd Mercher, 6 Mai 2009

Sylwadau (0)

Cynrychioli Andorra

O wlad fychan mae gan Gymru record bur dda yng Ngystadleuaeth ´óÏó´«Ã½ Canwr y Byd Caerdydd - ond eleni bydd gan wlad sydd dipyn yn llai na Chymru gynrychiolydd yn y gystadleuaeth.

Am y tro cyntaf bydd cystadleuydd o Andorra - poblogaeth 84,000 - sef paritôn o'r enw Marc Canturri.

Bydd enillydd y gystadleuaeth yn derbyn gwobr £15,000 sy'n rhoddedig gan Gyngor Dinas Caerdydd ynghyd â chynigion o rannau amlwg gyda'r ´óÏó´«Ã½ ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Yn cyfeilio i'r cystadleuwyr yng nghystadleuaeth ´óÏó´«Ã½ Canwr y Byd Caerdydd fydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y ´óÏó´«Ã½ a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.

Yng nghystadleuaeth y Datganiad y cyfeilyddion fydd Simon Lepper a'r ddau bianydd disglaer o Gymru, Phillip Thomas o Gastell Nedd a LlÅ·r Williams o Rosllannerchrugog.

Bydd yr enillydd yn derbyn £5000 a chynnig cyngerdd yng ngyfres Datganiadau yn St John's, Smith Square, Llundain ac o bosib yn cael y cyfle i fod yn rhan o Gynllun Artistiaid y Genhedlaeth Newydd ´óÏó´«Ã½ Radio 3.

Cynrychioli Cymru

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 08:05, Dydd Mercher, 6 Mai 2009

Sylwadau (0)

Cynrychioli Cymru

Cynrychiolydd Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009 fydd y soprano 22 oed, Natalya Romaniw o Dreforys, sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr yn y Guildhall, Llundain.

Ymysg ei hymddangosiadau diweddar roedd y Messiah yn Abergwaun, datganiad o ganeuon Rachmaninov yn St Luke's a'r Barbican a datganiad yng Ngŵyl Abertawe.

Mae hi'n unawdydd cyson gyda chorau meibion Treforys, Pontarddulais a'r Dyfnant a hefyd wedi canu Hen Wlad Fy Nhadau cyn gemau pêl-droed Cymru yn Stadiwm y Mileniwm.

Ymhlith ei pherfformiadau operatig canodd ran Anne Truelove yn The Rake's Progress yng Nghanolfan y Mileniwm.

Bydd yn dilyn yn ôl troed sylweddol Bryn Terfel, enillydd y Wobr Lieder - bellach Gwobr Datganiad - yn 1989.

Ni lwyddodd Bryn, hyd yn oed, i gipio'r brif wobr. Enillwyd honno yn 1989 gan Dmitri Hvorostovsky o'r hen Undeb Sofietaidd ym mrwydr enwog y ddau faritôn.

Enillodd Cymro arall, Neal Davies, y Leider yn 1991.

Cantorion eraill o Gymru a ddisgleiriodd a chyrraedd y rownd derfynol oedd Anne Williams-King (1985) a Gwyn Hughes Jones (1997). Dymuniadau gorau felly i Natalya.

Edrych ymlaen at ´óÏó´«Ã½ Canwr y Byd Caerdydd 2009

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 07:59, Dydd Mercher, 6 Mai 2009

Sylwadau (0)

Bydd cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009, y gystadleuaeth a gydnabyddir yn gyffredinol fel "cystadleuaeth leisiol orau'r byd" yn dychwelyd i'r brifddinas ddechrau Mehefin gan gyrraedd yr uchafbwynt godidog y daethom i arfer ag e nos Sul, Mehefin 14.

Baneri

Nid un gystadleuaeth ychwaith ond dwy yn cydredeg o fewn yr un wythnos - cystadleuaeth ´óÏó´«Ã½ Canwr y Byd Caerdydd a chystadleuaeth Gwobr Datganiad.

Bydd yr wythnos yn cychwyn ar nos Sadwrn, Mehefin 6, yn Theatr Newydd Caerdydd, gyda rownd gyntaf y gystadleuaeth am Wobr Datganiad.

Yna, bydd y brif gystadleuaeth yn cychwyn yn Neuadd Dewi Sant y noson wedyn.

Bydd rownd derfynol cystadleuaeth y Datganiad nos Wener, Mehefin 12, yn Neuadd Dewi Sant.

Hon yw'r bedwaredd gystadleuaeth a'r ddeg yn hanes ´óÏó´«Ã½ Canwr y Byd Caerdydd, cystadleuaeth a gynhelir bob yn ail flwyddyn a chydnabyddir mai Caerdydd yw'r lle am gipolwg ar dalentau'r dyfodol, y lle i weld a chlywed sêr disgleiriaf y llwyfannau opera a'r neuaddau cyngerdd ymhen ychydig flynyddoedd.

Hon yw'r wythnos pan fydd cyfarwyddwyr tai opera'r byd a'r asiantiaid yn heidio i'n prifddinas eu llyfrau sieciau a'u cytundebau yn dwym yn eu dwylo.

Mae Caerdydd - fel y gelwir y gystadleuaeth ym myd y canu clasurol - yn rhoi'r hwb ychwanegol yna fyny'r ysgol i gantorion ifainc sydd ar fin croesi'r trothwy i'r llwyfannau enwocaf a'r mwyaf godidog.

Er y gwrandawyd ar dros 600 o gantorion o 68 o wledydd ar gyfer cystadleuaeth 2009 dim ond 25 ohonynt wahoddwyd i Gaerdydd ac mae wythnos galed yn eu haros.

Disgwylir i bob un ddarparu pedair rhaglen ugain munud yr un, rhaglen yr un ar gyfer y ddwy gystadleuaeth a dwy raglen rhag ofn iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol.

Rhy galed?
"Ddim o gwbl," meddai'r soprano o'r Iseldiroedd oedd yn un o feirniaid y Wobr Datganiad bedair blynedd yn ôl. "Mae'r cantorion hyn wedi cyrraedd man lle mae angen rhoi tipyn o bwysau arnyn nhw."

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.