´óÏó´«Ã½

Archifau Hydref 2009

Gorddio'r Academi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 15:18, Dydd Gwener, 30 Hydref 2009

Sylwadau (0)

D Ben rees ar faes Eisteddfod Yr Wyddgrug 2007
Daeth yr Academi a'r hyn sy'n cael ei alw yn "elite Cymraeg" dan ordd golygydd papur bro o'r tu draw i Glawdd Offa yn ddiweddar.

Y Parchedig Dr D Ben Rees sy'n sgrifennu yn Yr Angor, y papur Cymraeg sy'n gwasanaethu ardal Lerpwl.

"Mae'n amlwg iawn i bawb ohonom sy'n cymryd diddordeb yn ein llenyddiaeth fod yr Academi a'r elite Cymraeg o feirniaid wedi penderfynu mai'r unig fath o lenyddiaeth sydd yn dderbyniol yn y Gymru gyfoes yw nofelau," meddai Mr Rees sy'n awdur ac yn gyhoeddwr ei hun yn ogystal â bod yn weinidog a fu'n gwasanaethu yn Lerpwl ers blynyddoedd lawer.

"Yn ôl y polisi presennol, ac mae'r polisi yma wedi bod mewn bodolaeth ers deng mlynedd ar hugain a mwy, ni fyddai gobaith gan Morgan Llwyd i gael gwobr am ei gampwaith Llyfr y tri Aderyn, ni fyddai Charles Edwards wedi cael ei wahodd i'r Gelli Gandryll i glywed y beirniaid yn doethinebu, na William Williams Pantycelyn, chwaith wedi cael gwahoddiad gyda'i lyfr Cyfarwyddwr Priodas, ac ni fyddai gobaith anrhydeddu yr athronwyr R I Aaron, J R Jones a Dewi Z Phillips am eu campweithiau hwythau," meddai.

Yn amlwg yn ddyn sydd wedi'i wylltio ychwanega: "Cafodd yr hyn a ellir ei alw yn 'grachlenyddiaeth' ormod lawer o sylw yn y cylchgronau fel Taliesin a Golwg."

Ac mae'n diffinio crachlenyddiaeth fel "cerddi concrid, nofelau di-gyswllt a gaiff eu galw yn nofelau arbrofol, y sothach na ellir gwneud pen â chynffon ohonynt."

Mae'n drueni ond dydi'r Dr Rees ddim yn mynd cyn belled ag enwi na llyfr nac awdur sothach ond mae'n amlwg i mi bod rhai o enillwyr cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn ymhlith y rhai a ddaw dan ei lach.

Cystadleuaeth y mae mwy nag un yn anhapus ynglŷn â'r ffordd y dewisir y llyfrau sy'n addas i'w hystyried ar ei chyfer gyda beirniaid ambell i flwyddyn yn ymwrthod â hunangofiannau er enghraifft ond rhai blwyddyn arall yn ystyried y rheini'n gymwys i redeg y ras.

A does dim amheuaeth mai cefn llaw i'r Academi trwy ensyniad yw cwyn Dr Rees oes gennym yng Nghymru "sefydliadau i gydnabod gwaith graenus" awduron y mae ef yn eu hystyried yn rhagorol.

Mae'n cau pen y mwdwl ar ei druth trwy enwi rhai o'r llyfrau dros y blynyddoedd sy'n cyrraedd ei safon; yn eu plith; Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis; Un Nos Ola Leuad, gan Caradog Prichard, O Law i law gan T Rowland Hughes, Cofiant O M Edwards gan W J Gruffydd, Edrych yn ôl gan R T Jenkins, Bywgraffiadur Cymreig, Cerddi Cyflawn R Williams Parry gan Alan Llwyd, Gwynfor gan Rhys Evans, Meistri'r Canrifoedd gan R Geraint Gruffydd a gweithiau T Llew Jones.

"Ni allwn adnabod ein hunain heb lenyddiaeth gwir bwysig fel ag a nodwyd," meddai gan awgrymu nad yw'r Academi na'r beirniaid elite yn hyrwyddo hynny.

Ydi o'n iawn? A pha lyfrau fyddech chi'n eu cynnwys ar restr oesol fel un D Ben Rees. Anfonwch air.

Stori amser gwely?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:37, Dydd Iau, 29 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Syr Emyr Jones-Parry
Gweld bod yna dipyn o ddyfalu y dyddiau hyn am gynnwys adroddiad Syr Emyr Jones-Parry yn dilyn trafodaethau Comisiwn Cymru Gyfan a gadeiriwyd ganddo Y cyfeiriodd fy nghyd-flogiwr Vaughan Roderick ato y dydd o'r blaen..

Wn i ddim sut dderbyniad fydd i'r adroddiad ond rwy'n gobeithio y bydd yr ymateb yn well na'r ymateb i anerchiad a draddodwyd dro'n ôl gan Syr Emyr.

Ef ei hun gyfaddefodd yn ystod darlith flynyddol Undeb Cymru a'r Byd a draddododd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala iddo anfon rheng o filwyr i gysgu!

"Fe fues i'n siarad mewn cinio i filwyr nodedig yn ddiweddar," meddai.

"Syrthiodd y rhes flaen i gysgu yn fuan iawn ac fe wnes i ofyn i'r cadeirydd ymyrryd.

"Dywedodd e; 'Chi wnaeth iddyn nhw gysgu, gallwch chi eu deffro'!"

Gobeithio nad llyfr amser gwely fydd yr adroddiad.

Cynghorion gwirion i'r anghall!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:13, Dydd Mercher, 28 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Cefais gerydd yn dilyn y pwt am y comic Viz y dydd o'r blaen oherwydd na wnes i grybwyll o gwbl un o eitemau difyrraf y cylchgrawn.

Y casgliad o awgrymiadau buddiol gan ddarllenwyr a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd.

Maen nhw'n math o beth sy'n boblogaidd mewn sawl cylchgrawn wrth gwrs. Pethau fel; os ydych chi'n colli gwydraid o win coch ar garped tywalltwch lond pwced o win gwin drosto i gael gwared â'r staen neu rywbeth tebyg.

Ta beth mae awgrymiadau darllenwyr Viz, fel y gallech feddwl, yn go wahanol i rai call a buddiol darllenwyr eraill.

Dyma ichi ddetholiad - a gwahoddiad agored ichi ychwanegu rhai gwreiddiol eich hun atyn nhw.

  • Rhag gwastraffu dŵr poeth gwagiwch y dŵr o'r bath ar ôl ichi orffen i fflasg Thermos er mwyn ei ddefnyddio eto.
  • Cariwch lysieuyn gwahanol yn eich poced bob dydd i'ch atgoffa pa ddiwrnod yw hi. Moronen ddydd Llun, taten ddydd Mawrth ac yn y blaen.

  • Rhag teimlo cywilydd ar ôl baglu yn y stryd gwnewch yr un peth eto nifer o weithiau fel bo pobl yn meddwl mai dyma eich ymddygiad arferol.

  • I'w gwneud yn haws dod o hyd i'ch car mewn maes parcio mawr fel un y Steddfod gollyngwch y gwynt o bob olwyn. Eich car chi fydd yr un isaf yn y maes parcio wedyn.

  • I ddiogelu'ch hun rhag boddi y tro nesaf y byddwch ar gwch neu long; rhowch lodrau eich trowsus yn eich sanau a llenwi'r coesau gyda chymaint o beli ping pong a phosibl.

  • I wneud i'ch blwch adar edrych fel tÅ· to gwellt hoeliwch ddau Shredded Wheat i'w do.

  • Gwnewch i gawl bara'n hirach trwy ei fwyta efo fforc.

  • Pan yn gwneud paned; os gwnewch chi gynhesu'r dŵr mewn sosban gyntaf fe fydd yn berwi'n gynt ar ôl ichi ei dywallt i'r tegell.

  • Beth am beintio croes goch ar waelod eich cwpan de er mwyn ichi fedru gweld pan fyddwch chi wedi gorffen yfed eich paned?

  • Defnyddiwch ebill i dorri twll bychan yn nrws eich cwpwrdd rhew er mwyn ichi weld bod y golau bach yn diffodd pan fyddwch chi'n cau'r drws.

  • I rwystro wyau rhag rowlio oddi ar fwrdd y gegin gosodwch nob un mewn smotyn o driagl.

  • I arbed arian; bob tro yr ydych am brynu afalau prynwch nionod yn eu lle. Maen nhw'n llawer rhatach.

  • Er mwyn arbed arian ar gwm cnoi cnowch hen lastig wedi ei orchuddio â sebon dannedd. Mae'r un mor flasus ac yn para'n hirach os rhywbeth.

  • Trwy osod drych yn y nenfwd gallwch gadw golwg ar eich traed heb blygu i edrych i lawr.

  • Er mwyn gwneud i bobl feddwl eich bod yn gwisgo sbectol ac wedi ei anghofio defnyddiwch lwy boeth bob bore i wneud marc dros bont eich trwyn.

  • Prynwch yr un math o set deledu'n union â'r bobl drws nesaf. Yna pan yw hi wedi tywyllu sefwch y tu allan i'w ffenest yn newid eu sianel. Fe fyddan nhw'n methu deall beth sy'n digwydd.

  • I gael mynediad am ddim i sinema cariwch hambwrdd gyda hufen iâ arno.

  • Os na allwch fforddio pythefnos o wyliau - ewch am wythnos a pheidio mynd i gysgu o gwbl.

  • Y tro nesaf y byddwch yn cael parti rhowch fotymau plastig efo gwahanol rifau arnyn nhw i bawb eu llyncu gan gofnodi rhif ac enw pawb. Wedyn byddwch yn gwybod yn union pwy sydd wedi taflu fyny tu ôl i'r soffa.

  • I gadw'r plant yn ddiddig rhowch becyn o sglodion wedi rhewi iddyn nhw o'r rhewgist a chynnig gwobr i'r cyntaf i greu taten.


Difyrrwch dychrynllyd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 18:30, Dydd Sadwrn, 24 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Yr oes fabi mam hon dydi o ddim yn syndod fod rhai yn cwyno am gynnwys ffilmiau fel
Fantastic Mr Fox sydd yn y sinemâu dros y Sul 'ma a Where the Wild Things Are sydd ar fin ymddangos.

Y naill yn addasiad o nofel gan Roald Dahl, The Fantastic Mr Fox, a'r llall o lyfr Maurice Sendak.

Cwyn rhai yw fod y ffilmiau / llyfrau yn beryg o ddychryn plant, Mr Fox oherwydd y portread o natur fel ag y mae, a'i dant a'i chrafanc yn goch.

'Mr Fox' yn y ffilm newydd

O glywed am y pryderon am Mr Fox aeth meddwl rhywun, yn naturiol iawn, yn syth at ein llwynog arwrol ninnau, Siôn Blewyn Coch gan geisio dyfalu tybed faint o'r cynnwys fyddai'r plismyn cyhoeddi wedi ei lastwreiddio pe byddai'r teipysgrif yn syrthio ar eu desgiau heddiw.

Diau y byddai sawl gair anodd wedi cael ei hepgor a rhywfaint o'r dafodiaeth hefyd.

Ond beth am rai o'r disgrifiadau cignoeth? A fyddai'r rheini yn dychryn cynheiliaid Gwlad y Babis Mam?

Tybed a fyddai'r disgrifiad o'r ymrafael rhwng Siôn a Chorcyn y Ceiliog yn cael ei ysytyried yn "anaddas" ar gyfer darllenwyr gwleidyddol gywir yr unfed ganrif ar hugain:

"Gw - gw - gw, gw- gw," meddai Corcyn wedyn, a sefyll fel sowldiwr ar ben y cwt ieir.
"Mi gei di 'Gw - gw - gw, gw- gw' yn y munud," meddai Siôn, ac yn symud yn nes, nes o hyd. Yn sydyn , dyma roddi sbonc drwy'r awyr, ac fel yr oedd Corcyn yn agor ei big i roi "Gw - gw - gw" arall, yr oedd ceg Siôn Blewyn Coch yn cau fel gefail am ei gorn gwddw, a'r eiliad nesaf roedd y ceiliog yn disgyn yn daclus ar war Siôn."

Ac mewn helfa arall:
"Cyn pen pum munud yr oedd deuddeg cywen Eban Jones yn gelain ar lawr y cwt. Yr oedd yr olaf yn mynd i agor ei phig i weiddi, ond dyma ddannedd Siôn Blewyn Coch yn gafael am ei gwddw nes ei bod hi'n gwneud sŵn fel sŵn dwr yn gwagio o botel."

Dim rhyfedd i un awdur alw'rcadno cyfrwys yn Seicopath!

Rhwng hyn a goliwog yn hoff lyfr y genedl mae'n syndod i blant Cymru fod cystal ag y bu nhw byth wedyn!


Tlodi'r Cymry

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:16, Dydd Gwener, 23 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Gydol y blynyddoedd bu'n faes hynod ddiffaith yn y Gymraeg.
Comics, maen nhw'n brinnach na thail ceffyl pren.
Fe allwch chi rifo ar fysedd un llaw y rhai Cymraeg.

Mae rhai ohonom yn cofio Hwyl Ifor Owen Llanuwchllyn. Yna, yn y Chwedegau torrodd Gerallt Lloyd Owen gŵys go arbennig gyda Hebog ac fe gafodd Sboncyn hoedl fach fer tua'r Wythdegau.

A heddiw, diwrnod dathlu pen-blwydd y comic oedolion Viz ni ellir enwi unrhyw gyhoeddiad Cymraeg o gwbl i gymharu â hwnnw . Ac mae hynny'n rhywfaint o syndod a ninnau'n genedl sydd, at ei gilydd, yn mwynhau ei hiwmor tŷ bach gymaint â neb.

Ond fu yna erioed Viz Cymraeg i oglais y mannau hynny nad yw'n chwaethus i Hogyn Ysgol Sul hyd yn oed eu henwi.

Efallai bod hynny'n rhinwedd. Dydw i ddim mor siŵr.

Fat Slags.jpg

Daeth Viz i enwogrwydd oherwydd ei hiwmor amharchus, amrwd, budr a dichwaeth gyda chymeriadau fel y Fat Slags, Sid the Sexist, Millie Tant and her Radical Conscience, Billy the Fish yr hanner pysgodyn a hanner golgeidwad, Major Misunderstanding, Roger Irrelevant, 8-Ace yr alcoholig sy'n methu dal ei ddŵr ac a alltudiwyd i fyw mewn cwt gan ei wraig.

Mae'n rhyfedd meddwl mai yn ystod teyrnasiad cyntaf Margaret Thatcher yn Brif Weinidog yn 1979 y daeth y comic i oedolion i'r fei gyntaf o swyddfa yn Newcastle .

O ran cylchrediad ugain mlynedd yn ôl yr oedd y pinacl gyda miliwn o gopïau'n cael eu prynu ac er gwaethaf llithriad ers hynny mae'r gwerthiant yn dal yn eithaf parchus - sy'n fwy nag y gellir ei ddweud am gynnwys y cylchgrawn rhyfeddol hwn.

A fyddai'r fath gylchgrawn wedi llwyddo yn y Gymraeg? Beth bynnag arall byddai wedi cadw Stondin Sulwyn fel ag yr oedd yr adeg honno i fynd am wythnosau a byddai'r tampan yn fyddarol ar Daro'r Post mwy na thebyg.

Faint tlotach ydym ni o fod wedi bod hebdd? Fel hyn y disgrifiodd un o'i gynheiliad yr un Saesneg:

"Yr ydym yn ymfalchïo yn y ffaith nad oes neb ddim mwy clyfar ar ôl darllen Viz. Efallai ichi chwerthin dipyn ond fyddwch chi ddim wedi dysgu dim."

A phe digwydd ichi fod yn Llundain wedi'r pedwerydd o'r mis nesaf mae arddangosfa Viz yn y Cartoon Museum tan fis Ionawr.

Cyswllt modern

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:17, Dydd Mercher, 21 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Arwydd o'r amserau.

Yr olygfa amser brecwast ffrwcslyd - ystrydebol o arferol - ym mhennod gyntaf y gyfres deledu newydd Modern Family.

Mam ym mhen ei helynt yn y gegin ac yn-gweiddi-ar-i-bawb-godi-neu-mi-fyddwch-chi'n-hwyr.

A'r ferch yn gweiddi'n ôl o'r llofft:

"Pam 'da chi'n gweiddi arnom ni a ninnau i fyny'r grisiau - pam na wnewch chi'n tecstio ni?"

Troi '³§Ã©²¹²Ô³¦±ð' yn opera!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:54, Dydd Mercher, 21 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Ffilm yr oedd mynd mawr arni ganol y Chwedegau oedd ³§Ã©²¹²Ô³¦±ð on a Wet Afternoon efo Kim Stanley a Richard Attenborough - a enillodd wobr actor gorau BAFTA - yn y prif rannau.

Er i Kim Stanley gael ei henwebu am Oscar yr actres orau collodd y dydd i Julie Andrews fel Mary Poppins.

Kim Stanley

Ta beth, mae'r stori yn y ffilm yn ymwneud â chyfrinwraig, Myra Savage (Stanley) sy'n perswadio ei gŵr (Attenborough) i gipio plentyn fel y gall hi ymddangos ei bod yn defnyddio ei doniau cyfrin i ddod o hyd iddi a hawlio'r wobr am ei darganfod.

Mae hi a'i gŵr yn carcharu'r ferch fach mewn ystafell yn eu cartref sydd wedi'i gwneud i edrych fel ystafell mewn ysbyty gyda Myra yn smalio ei bod yn nyrs.

Ond mae'r cynllun yn mynd ar chwâl wrth i'r gyfrinwraig fynd o'i cho.

Gyda Bryan Forbes yn cyfarwyddo yr oedd yn ffilm seicolegol iasol y bu mawr drafod arni pan gyrhaeddodd y sinema ond pwy feddyliai yr adeg honno y byddai hi erbyn heddiw wedi ei haddasu'n opera?

Ac y byddai premier byd yr opera honno gan Stephen Schwartz, awdur Godspell, yn Santa Barbara, Califfornia, gyda'r diva o Efrog Newydd, Lauren Flanigan, yn canu'r rhan a chwaraewyd gan Kim Stanley yn y ffilm wreiddiol a seiliwyd ar nofel o'r un enw gan Mark McShane.

Nid Stanley oedd y dewis cyntaf ar gyfer y rhan yn y ffilm a gobaith Forbes ac Attenborough a oedd yn gyd gyfarwyddwr oedd denu Deborah Kerr neu Simone Signoret ond i'r rheini wrthod y gwahoddiad.

A'r gred erbyn i'r ffilm ddod allan oedd iddi fod ar ei hennill oherwydd hynny gan i Kim Stanley roi perfformiad gwefreiddiol.

Actores theatr a theledu oedd hi'n bennaf a dim ond mewn un ffilm arall yr ymddangosodd cynt, The Goddess - er iddi fod â rhan llais na chafodd ei gydnabod ar gychwyn a diwedd To Kill a Mockingbird.

Ac yn dilyn ei rhan yn ³§Ã©²¹²Ô³¦±ð yn 1964, er cystal oedd hi ni chymerodd ran mewn ffilm wedyn tan 1982 - yn y ffilm fywgraffyddol, Frances, am yr actores Frances Farmer.

Gyda Jessica Lange yn y brif ran Kim Stanley chwaraeodd ran ei mam.

Wrth wylio Butch a Newman

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 11:57, Dydd Llun, 19 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Dangoswyd o leiaf ddwywaith ar y teledu dros y Sul y ffilm Butch Cassidy and the Sundance Kid - un o hoff ffilmiau sawl un ohonom.

Er mai'r llygatlas Paul Newman sy'n chwarae Cassidy yn y ffilm ar gyfer rhan Sundance y dewiswyd ef yn wreiddiol - nes i'r un mor llygatlas Robert Redford gael ei ddewis yn Sundance a chreu un o bartneriaethau mwyaf eiconig y sinema Americanaidd wrth i'r ddau ddihiryn yn y byd go iawn gael eu rhamanteiddio'n arwyr mewn chwedl.

Sundance a Butch

O'r ddau maen nhw'n dweud mai Newman, a fu farw'n 83 oed fis Medi y llynedd, oedd y mwyaf cysetlyd a chyn dechrau ffilmio gofynnodd i'w wraig wneud sampler yn arbennig i'w chyflwyno i Redford gyda'r geiriau "Prydlondeb yw cwrteisi brenhinoedd" arni.

Mae'r stori honno mewn cofiant sydd newydd ei gyhoeddi gan Shawn Levy, Paul Newman : A Life flwyddyn union ers ei farwolaeth.

A'r darlun a gawn yw o ddyn agos iawn, iawn, i'w le a chanddo gydwybod cymdeithasol hynod effro.

Yn sgil llwyddiant Butch Cassidy and the Sundance Kid sefydlodd yn 1988 y Paul Newman's Hole in the Wall Gang Camp yn cynnig gweithgareddau i 15,000 o blant rhwng saith a 15 oed yn dioddef o ganser ac anhwylderau difrifol eraill.

Roedd hefyd yn un o sefydlwyr cwmni bwyd Newman's Own yr oedd ei holl elw yn cael eri rannu rhwng elusennau.

Ac wedi marw ei fab Scott, o'i briodas gyntaf, yn dilyn anghaffael â chyffuriau sefydlodd y Scott Newman Centre for Drug Abuse.

Yr oedd yn ddyn egwyddorol iawn hefyd ac ar gychwyn ei yrfa gwrthododd awgrym un cyfarwyddwr dylanwadol y dylai newid ei enw i un llai Iddewig.

Er iddo fod yn briod ddwywaith yr oedd ei briodas hirhoedlog a Joanne Woodward yn rhan o chwedloniaeth Hollywood wedi parhau o Chwefror 1958 tan ei farwolaeth.

Fe fu yna sibrydion o 'grwydro' - yn ystod ffilmio Butch Cassidy er enghraifft - ond ei ymateb ffraethaf ef i'r cyhuddiadau hynny oedd: "Pam mynd allan am hambyrger a chwithau â stecen yn y tŷ!"

Fo hefyd ddywedodd fod pobl yn aros yn briod "oherwydd eu bod nhw eisiau nid oherwydd bod y drysau wedi'u cloi"!

Yn ôl ei gofiant yr oedd yn actor cydwybodol tu hwnt yn ymaflyd ei hun i'r gwahanol rannau. Hynny, yn ogystal â bod yn un o actorion mwyaf golygus Hollywood .
Yn wir, dywedodd ei fam amdano ei bod yn rhywfaint o drueni i'r fath brydferthwch gael ei wastraffu ar fachgen!

Ac at y llygaid glas yna y cyfeiriodd yntau, ei hun, wrth lunio beddargraff dychmygol ar ei gyfer ei hun:

"Yma y gorwedd Paul Newman a fu farw'n fethiant oherwydd i'w lygaid droi'n frown!"

Moli heb gicio

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:23, Dydd Iau, 15 Hydref 2009

Sylwadau (0)

"Mae dyfodol llenyddiaeth Cymru mewn dwylo da."

Dyna ymateb Peter Finch, Prif Weithredwr yr , yn dilyn gwaith a gynhyrchwyd pan ddaeth 58 aelod o sgwadiau sgwennu'r ifanc o dde Cymru at ei gilydd yn y Senedd a ThÅ· Hywel i ddathlu deng mlynedd y Cynulliad.

Y maes llafur, fel petai, oedd creu cerddi am y Senedd dan arweiniad Ceri Wyn Jones yn y Gymraeg a Robert Minhinnick a Gillian Clarke yn y Saesneg.

Ty Hywel a'r Senedd

Bydd casgliad o'r cerddi yn cael eu cyhoeddi mewn pamffled maes o law yn ôl Mr Finch ond yn y cyfamser mae'n cynnwys tamaid i aros pryd yng nghylchlythyr diweddaraf yr Academi.

O ddarllen, mae rhywun yn gweld beth sy'n peri iddo fod mor obeithiol am ddyfodol sgrifennu yn y Gymraeg.

Ond un peth a'm trawodd - ac a'm siomodd i - oedd pa mor ganmoliaethus o'r Cynulliad a llawn edmygedd yw'r tameidiau.

O blith yr ifanc, yn fwy na neb, byddai rhywun wedi disgwyl rhywfaint - os nad llawer - o sinigiaeth iach ac o gicio yn erbyn tresi cyfundrefnol.

Mwy o ddychannu nag o ddelfrydu.

Ond nid dyna awgrym yr hyn a gyhoeddir yn y cylchlythyr fel y gwelwch:


Yn y pren fe deimlaf oel hanes yn craffu
Trwy'r llechi gwelaf ofal am dreftadaeth
Ar y botymau gwelaf yr iaith Gymraeg yn carlamu.
Trwy'r ffenestri caiff rhyddid lifo
Manon Angharad Gwynant, Bl.9
Sgwad Caerffili


Yn y Senedd mae annibyniaeth yn teyrnasu
Yn y llechi clywaf leisio barn
Yn y gwydr gwelaf dryloywder teg
Yn y bobl teimlaf falchder.
Miriam a Mari
Sgwad Sir Gaerfyrddin


Yn y Bae caiff annibyniaeth ei fagu
Yn y Bae mae llais i Gymru yn tyfu
Yn y seddi mae brwydr yn dechrau
Brwydr enfawr dros ein hawliau.
Anna Richards, 12
Sgwad 'Sgwennu Pen-y-bont

Be feddyliwch chi?

Yn Nhalysarn heddiw - nid ers talwm

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:03, Dydd Mawrth, 13 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Yr oedden nhw'n ddau gefnder ac yn ddau o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru.

A rhwng Hydref 31 a Tachwedd 1 fe fydd yna benwythnos i ddathlu T H Parry-Williams ac R Williams Parry gyda dwy daith yn rhan o'r gweithgareddau.

Bwriad Gwyl T H Parry-Williams ac R Williams Parry a drefnir dan nawdd yr ydi "dathlu cyfraniad arbennig y ddau fardd i ddiwylliant leol (sic) a chenedlaethol gan edrych yn arbennig ar ddylanwad tirwedd Eryri a'r cyffiniau ar eu gwaith."

Ar y Sadwrn bydd Twm Elias a'r prifardd Iwan Llwyd yn arwain taith hanes a natur o gwmpas Rhyd Ddu.

Y Sul bydd y Dr Gwynfor Pierce Jones a David Gwyn yn arwain taith o amgylch Talysarn gyda Karen Owen yn sgwrsio am R Williams Parry. Tybed welan nhw lwynog?

Hefyd yn rhan o'r penwythnos bydd Talwrn nos Sadwrn yng Nghaffi Gwynant, Nant Gwynant, gyda Mei Mac yn meuryna.

Esgus, pe byddai angen un, i estyn am gyfrolau'r ddau fardd ar y silff lyfrau a mwynhau unwaith eto gerddi sy'n rhan o'n gwead.

Beth am rannu rhai o'ch hoff linellau . . .

Planhigion bendithiol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:25, Dydd Mawrth, 13 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Mae'n nhw'n siŵr o fod gyda'r llinellau agoriadol enwocaf i emyn:

Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthrych teilwng o'm holl fryd

Ond beth yn union ydi'r myrtwydd yna yn emyn Ann Griffiths?

Trown at Y Goleuad am ateb achos dyma destun yr erthygl gyntaf mewn cyfres newydd gan Bethan Wyn Jones, Planhigion y Beibl.

Llwyn myrtwydd

Bethan yn adnabyddus fel awdur, colofnydd ac yn un o gyfranwyr y rhaglen radio Galwad Cynnar.

Llwyn bytholwyrdd gyda dail sgleiniog a blodau gwynion ag arogl melys arnyn nhw ydi myrtwydd yr emyn - ac mewn sawl cyfeiriad ato yn y Beibl yn ôl Bethan.

Gyda rhinweddau meddygol iddo fe'i defnyddiwyd i drin heintiau'r croen, penaddynod ac i ladd llau pen!

"Roedd pobl yn arfer cnoi'r aeron er mwyn codi archwaeth at fwyd ac yn Corsica a Sardinia, mae diod yn cael ei gwneud drwy fwydo'r aeron mewn alcohol," meddai Bethan.

Ond go brin fod hynny ym meddwl Ann Griffiths wrth iddi gyfansoddi ei hemyn bythgofiadwy - mwy na'r gred yn rhai o wledydd Môr y Canoldir fod trwyth myrtwydd yn gwneud i'r gwallt dyfu yn gyflym!

Edrychaf ymlaen i weld pa blanhigion eraill fydd yn cyrraedd dalennau'r Goleuad.

Biff, wham, bang i'r meddwl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 15:18, Dydd Iau, 8 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Pe byddech chi am gael eich goleuo ynglÅ·n ag astrus bethau athroniaeth, rhesymeg a sylfeini mathemateg go brin mai at gomic y byddech chi'n troi.

Ond, yn wir, trwy gyfrwng comic y mae dau wyddonydd wedi mynd ati i ddadberfeddu ac egluro syniadau astrus un o athronwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif, Bertrand Russell.

Yr oedd i Russell gysylltiadau Cymreig amlwg iawn. Yn Nhrellech, Mynyw, y'i ganwyd ac ym Mhlas Penrhyn, Minffordd ger Penrhyndeudraeth, y bu farw - o'r ffliw - Chwefror 2 1970.

Bu'n cwyno ers deuddydd neu dri ac yr oedd yn ganol dydd arno'n codi Chwefror 2. Erbyn y gyda'r nos ac yntau'n darllen yn ei gadair cafodd bwl drwg arall ac er i feddyg gael ei alw yr oedd yr henwr 98 oed a enillodd Wobr Nobel am Lenyddiaeth yn 1950 wedi marw cyn i hwnnw gyrraedd.

Fe'i hamlosgwyd dridiau wedyn ym Mae Colwyn ac yng Nghymru y gwasgarwyd ei lwch hefyd.

TÅ· gwyliau iddo oedd Plas Penrhyn heb fod ymhell o Bortmeirion - mae rhai yn cymysgu mai Plas Brondanw sy'n awr yn westyn oedd ei gartref - ac un o'r pethau a hoffai am y tÅ· oedd y gellid gweld ohono, ar draws y dyffryn, Tanrallt lle bu'r bardd Saesneg Shelley yn byw - a lle ceiswyd ei saethu oherwydd ffrwgwd leol.

Yr oedd yr Arglwydd Russell yn cael ei gyfrif yn un o feddylwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif yn athronydd, rhesymegwr a mathemategwr. Yr oedd hefyd yn anffyddiwr ac yn heddychwr ac fe'i carcharwyd fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yr oedd iddo ran amlwg yn ymgyrch ddiarfogi y Chwedgeau ac hyd yn oed yn 90 oed fe'i harestiwyd mewn gwrthdystiad! Bu'n gohebu am Vietnam ac argyfwng y Dwyrain Canol.

Er yn anffyddiwr hoff adnod ei nain o'r o'r Beibl oedd ei arweiniad yntau mewn bywyd, "Paid a dilyn y lliaws i wneud drwg nac ochri gyda'r mwyafrif i wyrdroi barn . . ." (Exodus 23:2).

Ond i ddod at y comic na.
Newydd ei gyhoeddi mae "nofel graffig" o'r enw Logicomix gan Apostolos Doxiadis a Christos H Papadinmitriou y naill yn nofelydd a mathemategydd a'r llall yn wyddonydd cyfrifiadurol.

Comic meddylgar - un o luniau 'Logicomix'

Mae'r ddau yn defnyddio ffurf comics o stribedi lluniau i ddadberfeddu ac egluro ymdrech Russell i greu damcaniaeth resymegol a fyddai'n sail i bob gwir ddatganid mathemategol. Ei ymchwil am wirionedd mathemateg.

Barn yr adolygwyr yw iddynt lwyddo yn rhyfeddol gyda'u comic o ystyried mor astrus y pwnc - cawn weld. Os gwnaethant mae'n gryn gamp achos dydi Russell ddim yn enwog am fod yn hawdd i'w ddeall. I'r gwrthwyneb.

Mae llyfr a sgrifennodd gydag Alfred North Whitghead lle mae'r ddau yn cymryd 360 dalen i brofi 1+1=2 yn cael ei ystyried y llyfr anoaddaf erioed i'w sgrifennu gan enillydd gwobr Nobel.

Yn wir, yr oedd mor anodd bu'n rhaid i'r ddau dalu am ei argraffu eu hunain oherwydd na allai Gwasg Prifysgol Caergrawnt ddod o hyd i neb a'r gallu i'w bwyso a'i fesur!

Darllenaf mai un o gyfraniadau mwyaf adnabyddus Russell ym maes rhesymeg yw'r hyn a elwir yn "Russell's paradox" sy'n mynd rywbeth yn debyg i hyn:

Dychmygwch bod yna dref gydag un barbwr ynddi a bod yno ddeddf sy'n dweud fod pawb sydd ddim yn eillio'i hun yn cael ei eillio gan y barbwr.
Pwy sy'n eillio'r barbwr?
Os nad yw'n eillio ei hun mae'n eillio ei hun ac os yw'n eillio ei hun nid yw'n eillio ei hun.

Dywedir fod gosodiad o'r fath yn sylfaenol i ddeall gwirionedd mathemateg.

Rwy'n rhyw amau y bydd angen mwy na chomic i'm goleuo i - ond os ydych chi'n fwy hyderus cyhoeddir Logicomix gan Bloomsbury. 347 tudalen. £16.99.

Twts o golociwm

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 14:01, Dydd Iau, 8 Hydref 2009

Sylwadau (1)

Rhyfedd ac od y duedd sydd yna mewn pobl i ddefnyddio geiriau anodd er bod rhai syml, hawdd eu deall ar gael.

Gwleidydd ar y radio y bore ma yn defnyddio'r erthylair sgrwtineiddio nifer o weithiau er y byddai edrych neu ymadrodd fel bwrw golwg dros wedi gwneud y tro yn iawn.

Sgrwtineiddio, gyda llaw, yn air nad yw hyd yn oed wiriwr sillafu y cyfrifiadur hwn yn ei adnabod - ond gallwch fentro y bydd y tro nesaf y bydd ei raglen yn cael ei diweddaru!

Ac ydych chi wedi sylwi does neb bellach yn dewis rhwng un peth a'r llall. Na, wynebu opsiynau mae siaradwyr Cymraeg heddiw.

"Mae ganddo ddau opsiwn." Faint fydd hi nes bydd y gem yn newid i "Opsiwn, opsiwn, dau ddwrn . . ." ac yn y blaen?

Hyn yn dod a fi ar fy mhen i gyfarfod sydd i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor Tachwedd 7, 2009.

Cyfarfod ddwedais i? Dim o'r fath beth.

Yn hytrach, "colociwm".

Nid hyd yn oed cynhadledd sydd radd yn grandiach na chyfarfod - ond "colociwm" sydd ymhell tu draw i raddfa richter arferol crandrwydd er ei fod y'n swnio fwy fel cyflwr meddygol go ddifrifol na chasgliad o bobol yn malu awyr.

"Ma'r cr'adur yn cael traffarth ddychrynllyd efo'i golociwm wchi. Dydio'n cael dim winc o gwsg run noson."
Neu
"Mae o'n rhosbitol efo'i golociwm ers pythefnos."

Ond na phoenwch fydd dim rhaid i neb fynd tu nôl i unrhyw sgrin na thynnu ei ddillad i ymuno â "Y pedwerydd colociwm ar lenyddiaeth Gymraeg fodern a chyfoes," gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor lle bydd y tusw dela welsoch chi rioed o ysgolheigion yn mynd i'r afael â dylanwad refferendwm 1979 ar lenyddiaeth Gymraeg a'r meddwl Cymreig.

Ac ymhlith y rhai fydd yn colocio - o gymharu â chloncio? - bydd y darlithwyr Dr Simon Brooks, Yr Athro Richard Wyn Jones, Yr Atho Peredur I Lynch a'r Dr Pwyll ap Siôn ac yn cymryd rhan mewn trafodaeth dan gadeiryddiaeth Vaughan Hughes, Cynog Dafis, Meg Elis, Iwan Llwyd, Menna Machreth a Gareth Miles.

A'r pris - dim ond £15 yn cynnwys cinio.
Dim ond gobeithio na chaiff neb golic.

Actorion diffygiol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:21, Dydd Llun, 5 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Mae'r geiriau Meic Povey a Drama dda yn rhai sy'n cydorwedd yn gwbl gyfforddus mewn brawddeg.

A chyda drama newydd ganddo ar fin cychwyn ar daith o amgylch Cymru mae gobeithion rhywun yn uchel am gynhyrchiad o bwys gan Gwmni Theatr Genedlaethol Cymru o Tyner yw'r Lleuad Heno .

Meic Povey

Yn enwedig pan sylweddolwn mai'r awdur sydd hefyd sy'n cynhyrchu.

Ond mewn erthygl yn rhifyn Hydref o mae'r dramodydd yn awgrymu wrth sôn am ei ddrama newydd nad ydi pethau'n hawdd i gynhyrchydd yn y Gymru Gymraeg.

Ac un o'r meini tramgwydd ydi actorion fe ymddengys.

Cwynodd wrth Menna Baines, a fu'n ei holi, ei bod yn mynd yn anos ac yn anos dod o hyd i actorion Cymraeg all lefaru'r ddeialog y mae'n ei llunio.

Meddai Menna Baines:
"Mae'n cyfaddef bod un peth yn bryder mawr iddo yng nghyswllt actio. Mae'n mynd yn gynyddol anoddach, meddai, i gael hyd i actorion Cymraeg sy'n abl i lefaru'r ddeialog y mae'n chwysu cymaint uwch ei phen gan fod cynifer o actorion Cymraeg heddiw heb y cefndir a'r adnoddau ieithyddol i wneud hynny."

Mae Menna Baines yn ymhelaethu:
"Nid yw'r rhan fwyaf ohonynt chwaith wedi derbyn unrhyw hyfforddiant mewn gwneud gwahanol acenion - rhywbeth sy'n rhan anorfod o hyfforddiant actorion sy'n ennill eu bara menyn yn Saesneg."

Celpan go hegar gan ddramodydd mor flaenllaw sydd hefyd yn actor ei hun.

Gallai ymateb rhai o'r actorion anghymwys hyn fod yn dipyn o ddrama ynddi ei hun! Edrychwn ymlaen.

Rhodriadau lliwgar

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 22:52, Dydd Iau, 1 Hydref 2009

Sylwadau (0)

YN awr bod Rhodri Morgan wedi rhifo ei ddyddiau fel Ein harweinydd mae cystal adeg a'r un i ddwyn i gof rai o'i ebychiadau cofiadwy.

Y mae peryg, wrth gwrs, i'r darpar brif-weinidog-a-fu gael ei gofio'n unig fel gwleidydd yr hwyaid ungoes.

"Ydi hwyaid ungoes yn nofio mewn cylch?" oedd ei gwestiwn yn ateb i Jeremy Paxman pan holodd hwnnw a fyddai yn sefyll am arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru yn dilyn "serious error of judgment" Ron Davies.

"Do one-legged ducks swim in a circle?" meddai a Phaxman yn holi wedyn ai dyna'r ffordd Gymreig o ddweud 'Ie'.

Rhodri Morgan

Nid dyna unig ddywediad lliwgar Rhodri Morgan dros y blynyddoedd, fodd bynnag, felly dyma ddetholiad byr - rhai ohonyn nhw yn anghyfieithadwy i'r Gymraeg ac yn cael eu trysori yn eu Saesneg gwreiddiol:

"Mae perthynas y Torïaid â Chymru wedi ei sylfaenu ar ymddiriedaeth a dealltwriaeth. Dydy ni ddim yn ymddiried ynddyn nhw a dydy nhw ddim yn ein deall ni," meddai wrth grynhoi'r berthynas rhwng y Cymry a'r Ceidwadwyr..

Wedyn; "To say it is a dog's breakfast is an insult to the pet food industry" meddai am amhendantrwydd ynglŷn â lleoliad y Cynulliad yng Nghaerdydd.

Ac wrth ddisgrifio enbydrwydd y wasgfa economaidd yn y Nawdegau dywedodd bod ton o fethdaliadau yn llifo drwy Gymru "fel General Sherman drwy Georgia!"
(A wave of bankruptcies passing through Wales like General Sherman through Georgia)

Weithiau roedd yn rhaid pendroni a dadberfeddu cymalau i ganfod beth oedd ei bwynt:

"I think that Elin Jones made the point that that £450 million could have gone on health or anything else, but obviously the issue is that if you had another £450 million from somewhere else, you have got another £450 million, but what does that tell you? That is like saying, if my aunty was a bloke, she would be my uncle."

Dro arall roedd yn gweld pethau'n hynod o eglur:
"Rwy'n dweud wrth y Cynulliad ac wrth y bobl nad y fi ydi'r bos. Nhw, y bobl ydi'r bos."

Ac mae'r bos bob amser yn berson anrhydeddus wrth gwrs. Neu fel y dwedodd Rhodri:
"Mae mwy o debygrwydd i Ian Paisley fod y Pab nesaf nag i mi gytuno i drefnu stitch-up."

Adegau eraill dydi pethau ddim mor eglur a hynny - dyna ichi bleidleisio cyfrannol er enghraifft:

"Mae'n deg dweud bod llawer o bobl mewn dryswch ynglÅ·n ag ef," meddai.

Ond efallai mewn mwy o ddryswch ynglŷn â gosodiad fel hwn ganddo ef pan yn trafod newidiadau posibl mewn plismona:

"The only thing which isn't up for grabs is no change and I think it's fair to say, it's all to play for, except for no change."


Dros y blynyddoedd ni phylodd ei ddawn i ddod o hyd i ffordd gofiadwy o ddweud rhywbeth ac mae rhai o'r farn iddo fod ar ei orau yng Nghynhadledd y Blaid Lafur yr wythnos hon yn crynhoi trafferthion presennol Llafur mewn ffordd na allai neb arall wella arni:

"We have temporarily mislaid that magic recipe for blending the mushy peas of old Labour with the guacamole of new Labour."

Enillodd ei hwyaden ungoes y gyntaf o ddwy wobr iddo gan y Plain English Campaign ac mae rhywun yn amau y bydd ei bys slwts a'i gwacamoli ar y rhestr fer o leiaf y tro nesaf.

A fydd neb wedi ei blesio'n fwy na Rhodri ei hun os digwydd hynny.

Fel y dwedodd o ar ôl ennill yr eildro:

"Yr ydw i wrth fy modd fod y Plain English Campaign yn tiwnio'i mewn i'r Cynulliad ar gyfer sesiwn fy holi bob dydd Mawrth gan ddisgwyl gweld hwyden ungoes arall."

Ninnau hefyd.

Anfonwch eich hoff Rhodriadau i'w hychwanegu at y rheinia . . .


Nefi bliw - am newid!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 12:24, Dydd Iau, 1 Hydref 2009

Sylwadau (0)

Wedi imi dynnu sylw ddoe yn Grymoedd Golygyddol at ffrae golygu a newid gweithiau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol cyn eu cyhoeddi tynnodd cyfaill fy sylw at erthygl yn y Times ddydd Sadwrn diwethaf, Medi 26 2009.

Erthygl yw hi am Raymond Carver un o awduron mwyaf blaenllaw yr Unol Daleithiau ac un y mae sgrifenwyr creadigol ifainc yn baglu ar draws ei gilydd i'w ddyrchafu a'i efelychu.

Rhinwedd arbennig Carver fel awdur oedd ei gynildeb a'i ddarbodusrwydd gyda geiriau. Arddull a ddaeth i gael ei hadnabod fel un "Less is more" ac yn un y mae sgrifenwyr ifainc yn cael eu hannog i'w hefelychu trwy naddu eu cynhyrchion i'r fath raddau nad oes gair na choma y gellid eu hepgor o'r 'campwaith' gorffenedig.

Mewn casgliad o straeon byrion dan y teitl gwych What We Talk About When We Talk About Love y dangosodd Carver ei ragoraeth gyntaf - ond erbyn hyn y mae'n wybyddus, fel y dengys Toby Litt yn ei erthygl yn y Times, nad Carver ond ei olygydd sy'n gyfrifol am ardderchowgrwydd cynnil y straeon hyn.

Ar ôl bod trwy law y golygydd, Gordon Lish, nid oedd y gyfrol a gyhoeddwyd ac a ddaeth a chymaint o fri i Carver ond hanner maint y teipysgrif gwreiddiol.

Nid yn unig hynny Lish biau'r teitl trawiadol hefyd wedi ei dynnu o un o'r straeon.

Ac ef gyda'i bensil las newidiodd nid yn unig deitlau rhai o'r straeon ond enwau cymeriadau a diwedd a naws rhai straeon.

Er i'r holl newid frawychu Carver i ddechrau caniataodd gyhoeddi'r llyfr fel y'i golygwyd gan Lish a thrwy hynny y dyrchafwyd Carver yn eilun cenedlaethau o sgrifenwyr ers yr Wythdegau.

"Nid gormodedd yw dweud fod Carver yn sgrifennwr rhyddiaith mwyaf dylanwadol ac uchaf ei barch y chwarter canrif ddiwethaf. Yn cael ei ddyrchafu'n aml yn sant neu hyd yn oed dduw," meddai Toby Litt sy'n diwtor ysgrifennu creadigol yn Birkbeck, Prifysgol Llundain.

Sgrifennodd ei erthygl i gyd-fynd a phenderfyniad gweddw Carver, a fu farw yn hanner cant oed ym 1988, i gyhoeddi'n awr y straeon yn union fel y bwriadai ei gŵr iddynt ymddangos fel y gall darllenwyr benderfynu eu hunain ai bendith ynteu melltith fu pensil las Lish.

Y farn yw mai bendith fu hi a hynny yn wyneb y ffaith na chyflawnodd Carver, medden nhw, gystal gwaith wedi iddo dorri ei gysylltiad â Lish.

Ac yn y cyswllt Cymreig, un peth sy'n sicr, byddai fflyd o olygyddion "less is more" yn wir werth eu halen - ond mwy am hynny rywdro eto.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.