Cadw eu geiriau
Casgliad arall o sylwadau yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.
Gan gychwyn gyda Magi Dodd yn dewis ei lle delfrydol am wyliau . . .
Casgliad arall o sylwadau yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.
Gan gychwyn gyda Magi Dodd yn dewis ei lle delfrydol am wyliau . . .
Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.
Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.
Bu Nia Lloyd Jones yn blogio o gefn llwyfan gydol yr wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, a'r Fro 2011.
Wel, mae'r amser wedi dod i lawer ohonom i feddwl am ddechrau pacio'r ces, tynnu'r adlen i lawr o'r garafan neu fwyta'n brecwast ola yn y gwesty a ffarwelio gydag ardal y Bers.
Rhys Iorwerth, Enillydd y Gadair
Mae wedi bod yn Eisteddfod lwyddianus iawn gyda'r ffigyrau ymwelwyr yn iachus eleni eto sy'n dda o beth gyda'r Å´yl yn dathlu ei phenblwydd yn 150 oed. Roedd dewis y Bers fel lleoliad i'r Eisteddfod yn benderfyniad da dwi'n meddwl ac yn fan hyfryd a gwledig. Roeddwn yn teimlo'r tyndra'n diflannu wrth i mi bererindota i mewn i'r Maes o faes parcio B1! Gyda digonedd o wyrddni a gofod, yr unig nigl bach sy gen i am y lleoliad, (ac roedd hyn yn wir am fy ngwesty hefyd ger Croesoswallt), oedd y diffyg WI-FI a signal ar fy ffon symudol. Wedi cael ein sbwylio sbo gydag argaeledd y fath dechnoleg yn y Brifddinas.
I mi, mae yna lawer o uchafbwyntiau wedi gwibio heibio dros yr wythnos a fu -yr emosiwn ar wyneb y Prifardd Geraint Lloyd Owen yn cipio'r goron ar Ddydd Llun; digrifiwch yr Arch-Dderwydd yn gofyn i enillydd y Fedal Ryddiaith, 'Sitting Bull' i 'sefyll', a ninnau'n darganfod mai ei wraig, Manon Rhys, oedd yn fuddugol. Ac wrth gwrs, does dim un Eisteddfod yn Steddfod go iawn heb fod Disgo Marc yn dangos ei ddoniau dawnstastig ar y llwyfan bob blwyddyn-Peter Pan yr Eisteddfod!
Roeddwn yn falch hefyd i weld Bardd ifanc, sef Rhys Iorwerth, yn cipio'r Gadair eleni, sy'n dangos bod y traddodiad barddol yn dal i flodeuo yng Nghymru sy'n holl bwysig wrth i'r Eisteddfod gamu ymlaen i'r dyfodol.
Ar y Maes, fe wnes i fwynhau fy ymweliad i'r Lle Celf unwaith eto eleni. Ac er nad oedd yr adeilad yn meddu ar wow ffactor lleoliad llynnedd, roedd yna ddigon i ddiddanu ymhlith gweithiau cyd-enillwyr y Fedal Aur am Gelf Cain, Bedwyr Williams a Helen Sear (er bod 'adar' Helen Sear yn codi braw arnaf!). Hoffais hefyd y deyrnged i'r ffotograffydd gwych, Geoff Charles, gydag arddangosfa arbennig o'i waith ac atgofion o Eisteddfodau a fu, yn cynnwys Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977, yn addas iawn ar gyfer nodi carreg-filltir bwysig yr Å´yl eleni.
Gwaith yn y Lle Celf
Un o fy hoff leoedd ar y Maes yw'r pafiliwn Celf a Chrefft. Dros y blynyddoedd diwetha rwy wedi ei heglu hi at y stondin sy'n gwerthu crochenwaith hyfryd Lowri Davies a phrynu llestr neu ddau. A chefais momento bach eleni eto i gofio Eisteddfod y Bers!
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.
Bu Nia Lloyd Jones yn blogio bob dydd o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Dyma sut ddiwrnod gafodd hi ddoe.
Dwi'n teimlo'n emosiynol braidd! Pam? Wel, dwi wedi treulio rhai oriau yn cerdded o gwmpas y maes yn ffilmio ambell i beth at raglen pigion yr wythnos ar S4C nos Sul, ac mae'r awyrgylch yn WYCH!
Dwi ddim yn cofio gymaint o deimlad o 'Å´yl' go iawn yn yr Eisteddfod ers tro byd.
Mae'r bariau yn llawn, a cherddoriaeth oddi ar y llwyfannau maes yn gefndir i brynhawn o fwynhau. Mae pawb yn brysur yn gwneud beth mae pobl yn ei wneud yn yr Eisteddfod - cyfarfod hen ffrindiau a rhoi'r byd yn ei le. Ond mae fel 'tae yn cael ei roi yn ei le efo mwy o wen a hwyl nac yr ydw i'n ei gofio ar faes y Brifwyl.
Mae pob man yn ymddangos yn llawn - ciw i'r Babell Lên, ciw i'r Pafiliwn ar gyfer seremoni'r Cadeirio, pob gweithgaredd plant yn brysur, Maes D yn llawn dysgwyr brwd, mi allaf glywed ryw gôr merched neu'i gilydd yn ymarfer yn y cefndir, ('sgwn i pwy ydyn nhw? - maen nhw'n dda!)... Mi allwn fynd ymlaen.
Sori os 'dwi'n ymddangos yn or-gamnoladwy, ond mae heddiw fel awyr iach yng nghanol cyfnod tywyll. Dewch draw os oes unrhyw obaith i chi. O, ie - mae'r haul yn tywynnu eto 'fyd.
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.
'Nid byd, byd heb wybodaeth' medden nhw ond i lawer ohonom, 'Nid byd, byd heb ddrama'. Ac mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn amlwg o'r un farn gyda digon o amrywiaeth dramatig i chi garwyr drama ar y Maes.
Yn y gorffennol roedd hi'n draddodiad i'r Eisteddfod Genedlaethol gomisiynu 'drama fawr' a lwyfannwyd mewn theatr gyfagos i'r maes. Ond yn y blynyddoedd diwethaf mae pethau wedi newid ac eleni mae'r Eisteddfod yn cyd-weithio gyda nifer o gwmnïau drama ar amryw o gyflwyniadau theatrig sy'n syniad da iawn am nifer o resymau. Mae'n cynnig arlwy llawer mwy eang o ddramâu, yn rhoi platfform i nifer o gwmnïau drama mawr a bychain i gyflwyno'u gwaith yn yr Eisteddfod ac yn rhoi cyfle i fwy o ysgrifenwyr hefyd i ddangos eu doniau.
Mae'r Theatr Genedlaethol ar y maes o dan arweinyddiaeth ei Chyfarwyddwr newydd, Arwel Gruffydd. Eleni mae'r Theatr yn cyflwyno sawl rhagflas o'i gwaith ar y Maes a sesiynau adrodd stori a gweithdai i'r cyhoedd yn ei 'Chaffi Theatr' newydd yn hytrach na chyflwyno un 'sioe fawr.'
Bob prynhawn mae yna ddramâu byrion yn cael eu cyflwyno yn Theatr y Maes am 5.30pm. Cwmni Theatr 3D o Gaerdydd oedd â'r llwyfan ddydd Llun gyda'r ddrama, 'Wyneb Dros Dro.' Tro'r Theatr Genedlaethol oedd hi ddydd Mawrth a Chwmni Drama Ynys Towyn oedd yn diddanu ddydd Mercher gyda pherfformiad o ddrama Wil Sam, 'Y Fainc'. Drama Emyr Edwards, 'Dringo yn yr Andes' oedd dewis Cwmni Hap a Damwain ddydd Iau.
Heno bydd criw o fyfyrwyr drama Prifysgol Morgannwg, 'Y Graddedigion' yn cyflwyno drama gan un o'u darlithwyr, Sera Moore Williams, 'Riff'. Mae 'Riff' yn ddrama heriol a chyfoes am Gymro ifanc ar ffin cymdeithas sy'n mynnu bod rhywun yn gwrando ar ei gri. Dyma gyfle da i arddangos talentau'r dyfodol yn yr Eisteddfod.
Mae'r gystadleuaeth ddrama wedi cael slot newydd hefyd - bob canol dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener gyda phum cwmni drama, Licris Olsorts, Theatr Fach Llangefni, Y Parc, Gwter Fawr a Cwm-ni yn cystadlu am Gwpan Gwynfor.
Dyw'r Eisteddfod heb anghofio'r plant chwaith gyda Chwmni Arad Goch yn cyflwyno 'Penbobi Hapus' ac yn rhoi cyfle i'r to ifanc i gwrdd â chymeriadau poblogaidd teledu, 'Bobinogi' yn fyw ar y llwyfan. Tra bod Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno 'Gardd Gerdd Hudol Iori'. Datblygwyd y sioe yn arbennig i'r rhai bach o dan bump oed ac mae'n gyfle iddynt fwynhau sioe gerdd ryngweithiol gyda chriw o gerddorion proffesiynol. Mae Cwmni'r Fran Wen hefyd wedi paratoi sioe i'r plant o dan bump, gydag addasiad o'r stori dylwyth teg, 'Little Beauty'.
Mae gan Gwmni Theatr Bara Caws hanes gref yn Eisteddfod Wrecsam gan iddynt berfformio am y tro cyntaf yn y fro yn Eisteddfod Genedlaethol 1977. I ddathlu'r garreg filltir hon, mae'r cwmni yn cyflwyno dwy sioe, 'Un Fach Flewog' ac 'X-Fod'.
Drama X-Fod
Sioe Glwb newydd gan y Ffarmwr Ffowc ei hun, Eilir Jones, yw 'Un Fach Flewog', gyda'r stori wedi'i lleoli mewn siop anifeiliaid anwes (sy'n dwyn atgofion o 'Pwsi' Mrs Slocombe gynt ar 'Are you Being Served?!'). Mae'n cael ei chynnal yng Nghlwb RAFA Wrecsam, ergyd carreg o'r Maes.
Mae'r Cwmni yn mentro i dir newydd yn yr Eisteddfod eleni hefyd gan gynnal 'gig' bob nos ar ôl perfformiad o'r sioe sy'n syniad gwych dwi'n meddwl. Bu Gai Toms a'i fand, John ac Alun a Wil Tân eisoes yn perfformio yr wythnos hon. Bryn Fôn a'r Band sy'n diddanu ar ôl perfformiad o'r ddrama heno.
Mae sioe deuluol Bara Caws, 'X-Fod' yn cael ei llwyfannu yn y Maes Carafannau ac yn anffodus ar nos Lun, fe wnaeth y glaw sbwylio'r sbri a bu'n rhaid gohirio perfformiad cyntaf y ddrama. Gydag 'hen stagers' poblogaidd fel Iwan John a Lisa Jên yn perfformio ynddi, ysgrifennwyd y ddrama gan Tudur Owen, Tony Llywelyn a Martin Williams.
Mae 'SgriptSlam' Theatr y Sherman yn ôl eleni eto hefyd. Dyma lle mae dramâu byrion gan ysgrifennwyr newydd yn cael eu perfformio 'sgript mewn llaw' gan actorion proffesiynol. Ar ôl pob perfformiad, mae panel o arbenigwyr yn rhoi eu hadborth gyda'r gynulleidfa'n dewis ei ffefryn.
Gan fod yr Eisteddfod yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed eleni, roedd hi'n amserol iawn i edrych yn ôl. Testun y Ddarlith Ddrama eleni oedd Hanes yr Arglwydd Howard de Walden gyda Hazel Walford Davies yn ei chyflwyno. Bu farw de Walden yn 1946 ac roedd yn noddwr a chefnogwr hael i'r Eisteddfod ac i ddatblygiad y Ddrama yng Nghymru. Cafodd y gynulleidfa gyfle i ymweld â chyn gartref De Walden ar ôl y ddarlith yng Nghastell Y Waun.
Mae'n ddigon amlwg felly bod byd y ddrama yn ddigon iachus o hyd yn yr Eisteddfod ac yng Nghymru a diolch fyth am hynny.
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.
Yr uchafbwynt i lawer o Eisteddfodwyr, ydy seremoni'r Cadeirio a gynhelir yn y Pafiliwn y prynhawn yma am 4:30pm. Gallwch wylio'n fyw ar ein gwefan Eisteddfod - fan hyn.
Eisoes yr wythnos hon, yn seremoni'r Fedal Ryddiaith ddydd Mercher, crewyd hanes pan gyflwynodd yr Archdderwydd, Jim Parc Nest, y fedal i'w wraig, y Priflenor Manon Rhys. Tybed a fydd digwyddiad hansyddol yn digwydd eto y prynhawn yma?
Roedd seremoni'r Cadeirio yn nodweddiadol y tro diwethaf i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Wrecsam, ym 1977, pan enillodd Donald Evans y Gadair. Yr oedd eisoes wedi ennill y Goron yn yr un Eisteddfod yr wythnos honno. A'r Prifardd Donald Evans yw un o'r tri beirniaid yng nghystadleuaeth y Gadair heddiw.
Clip fideo o Gadair Eisteddfod Wrecsam yn cael ei hadeiladu.
Gwyliwch glip o archif ´óÏó´«Ã½ Cymru o Donald Evans yn cael ei Goroni yn 1977.
Cadir Ddu a gafwyd yn Eisteddfod Wrecsam 1876. Roedd y bardd buddugol Thomas Jones (Taliesin o Eifion) wedi marw ychydig wythnosau ynghynt - dyma glip archif.
Os ydych wedi colli unrhyw un o seremonïau Eisteddfod Wrecsam yr wythnos hon, gallwch wylio uchafbwyntiau ar ein gwefan Eisteddfod - ³§±ð°ù±ð³¾´Ç²Ôï²¹³Ü
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.
Mae hi'n ddiwrnod mawr yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam heddiw gan ei bod hi'n amser am Seremoni'r Cadeirio prynhawn 'ma. Y cwestiynau mawr yw, a FYDD yna enillydd a bydd yna enillydd y 'dwbwl'? Mae hanes wedi'i greu eisioes yn Wrecsam yn y gorffennol gyda'r Gadair a'r Goron yn cael eu hennill gan yr un Bardd. Mae'r tensiwn yn cynyddu!
Wrth gwrs, mae'n ddiwrnod mawr hefyd i aelodau newydd Gorsedd y Beirdd. Cawsant eu croesawu bore 'ma gyda gwen yr haul yn tywynnu ar Gylch yr Orsedd wrth iddynt gael eu anrhydeddu. Roedd fy nghyn-brifathro ymhlith yr aelodau newydd. Llongyfarchiadau Mr Jones!
Fe wnes i fwynhau fy sgwrs gyda Sian Aman, Meistres y Gwisgoedd bore ma hefyd. Mae wedi bod yn edrych ar ôl gwisgoedd yr Orsedd ers 27 o flynyddoedd. Y seremoni prynhawn 'ma fydd ei hun olaf -mae'n ymddeol o'r gwaith ac yn cael hoe haeddianol.
Roedd hi wrthi'n smwddio'n brysur pan wnes i ei gweld hi! Dywedodd hi wrthof ei bod hi'n falch iawn ei bod wedi'i anrhydeddu i roi'r gwasanaeth yma i'r Eisteddfod. Yn 2012, bydd Ela Jones wrth y llyw ac mae wedi bod yn gweithio fel Prentis i Sian dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'n ddiwrnod prysur unwaith eto o gystadlu a dwi wedi bod yn siarad gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ar y llwyfan. Fe wnes i hefyd gael sgwrs sydyn gyda fy nghydweithwraig yn y ´óÏó´«Ã½, Betsan Powys, sy'n cystadlu yn y categori Cerdd Dant. Pob lwc Betsan!
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.
Mae Nia Lloyd Jones yn blogio bob dydd o gefn llwyfan yr Eisteddfod.
Fel rhan o ddathliadau penblwydd 150 mlynedd yr Eisteddfod fodern, mae 'na lu o weithgareddau i annog ymwelwyr i gofio Eisteddfodau'r gorffennol.
Yn y Ciwb - stondin ´óÏó´«Ã½ Cymru ar faes y Brifwyl - mae gweithwyr Casgliad y Werin yn dangos fideos archif ar sgrin fawr.
Pan gerddodd Ann Tegwen Hughes o Lanelian, Conwy, i'r Ciwb roedd hi'n teimlo fel bod Tardis Doctor Who wedi ei chario hi yn ôl i'r flwyddyn 1977, y tro diwethaf i'r Brifwyl ymweld â bro Wrecsam. Yn y flwyddyn honno, roedd Ann yn cystadlu fel aelod o Gôr Parti'r Ffin.
Ar gamera ffôn symudol, recordiodd Hazel Thomas o Gasgliad y Werin ymateb Ann wrth iddi gofio ei chyd-aelodau, gan gynnwys Mair Carrington Roberts, Llywydd yr Eisteddfod eleni.
Ìý
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit ´óÏó´«Ã½ Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Mae cyn-aelodau Côr Parti'r Ffin 1977 yn cael aduniad ar faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Iau, 4 Awst.)
Os am rannu eich atgofion chi, dyma linc at ffurflen ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol
Cofiwch hefyd am wefan Casgliad y Werin ei hun.
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.Do fe ddaeth y glaw y bore yma ond dyw e heb effeithio ar yr hwyl yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Dwi wedi bod yn pererindota ar hyd y Maes unwaith eto ac mae yna ddigon i wneud o dan gysgod y stondinau. Ces i gyfle i drin fy ewinedd yn stondin Gwallt a Phrydferthwch Coleg Iâl lle 'roeddwn yn ddisgybl blynyddoedd yn ôl. Roedd yna lu o gwmseriaid newydd yno -Eisteddfodwyr yn gwneud y mwyaf o'r cyfle o gael maldod i'r gwallt a'r ewinedd!
Dwi heb gael cyfle i fynd i siopa eto ond mae yna ddigonedd o stondinau ar gael. Fe wnaeth un stondin ddal fy sylw'n arbennig yn gwerthu pethau hyfryd i'r cartref. Ces i sgwrs sydyn gyda'r stondinwraig. Roedd yna fygiau, clustogau, canhwyllau a'r cyfan wedi eu cynhyrchu yng Nghymru. Fe allwn wedi gwario ffortiwn ond doedd fy mhwrs arian ddim gen i!
Nesa es i am dro i stondin Bro Morgannwg gan fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn y sir y flwyddyn nesa yn Llandow. Ces i sgwrs gyda threfnwyr yr Eisteddfod am y paratoadau, gyda'r tîm wrthi'n trefnu ar gyfer yr Ŵyl yn brysur yn codi arian ac yn gweithio'n ddyfal tuag at y digwyddiad mawr.
Yn hwyrach prynhawn yma, dwi'n mynd i wylio arddangosfa smeltio sy'n dathlu hanes yr ardal leol a'r gweithfeydd haearn. Mae'n cael ei chynnal ger y pafiliwn Celf a Chrefft a bydd yna dipyn o stêm medde nhw!
Mae yna chydig o awyr las yma nawr gyda'r ambarels o'r golwg am y tro. Dwi am ei throi hi yn ôl at y Maes.
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.
Newydd fod am dro o gwmpas y maes.
"Ydach chi yma am yr wythnos?" Y cwestiwn yn cael ei ofyn filgwaith. Mae sŵn Soprano yn canu yn dod o uchelseinydd gerllaw. Mae yna bobl mewn welingtons. Mae'n eisteddfod go iawn!
Es i draw i'r Lle Celf am y tro cyntaf yr wythnos yma, a braidd yn siomedig o'n i. Efallai mai cymharu'r arddangosfa â'r gampwaith y llynedd yr oeddwn i. Roedd y lleoliad ei hun bryd hynny yn mynd â'ch anad. Roedd wedi'i lleoli dan y ddaear mewn rhan o'r hen weithfeydd dur yng Nglyn Ebwy, ac roedd sawl darn o gelf yno oedd yn gwneud i rywun aros a sefyll a meddwl yn hir. Ac edmygu.
Heddiw, y ffotograffau wnaeth greu'r argraff fwyaf, ac un ohonyn nhw'n arbennig. Wn i ddim pam, ond roedd y llun o ddynes ifanc mewn gwisg wen yn gadael ei thŷ teras i fynd i ymuno a'r orsedd yn Eisteddfod Gwnedlaethol Caernarfon 1959 yn drawiadol. Mae ei diniweidrwydd hi yn fy nharo, ond fwy na hynny y balchder cynnil ar wyneb yr hen ŵr (ei thad, efallai) wrth ei hymyl. Mi af yn ôl i'r Lle Celf eto i weld beth fydd yn creu'r argraff ar yr ail olwg.
Yn y cyfamser, dyfodol darlledu ydi un o'r prif destunau trafod ar y maes heddiw, gyda Chymdeithas yr Iaith yn trefnu protest ynglyn â dyfodol S4C. Rwy'n edrych mlaen i fwrw golwg nôl ar weithgareddau'r dydd yng nghwmni Cadeirydd y sianel, Huw Jones, yn ein rhaglen uchafbwyntiau am naw heno, yn ogystal â'r bardd Menna Elfyn.
Rhyfedd meddwl bod Eisteddfod Wrecsam a'r Fro 2011 yn dechrau tynnu tua'i therfyn...
Does yna ddim byd gwell gan gynulleidfa na chlywed beirniad yn codi ar ei draed i a chychwyn traddodi gyda geiriau fel, "Fydda i ddim yn hir" neu "Mi fydda i'n fyr".
Ac yn wir wedi noson hir o gystadlu neithiwr dyna glywodd y gynulleidfa gan Ddafydd Lloyd Jones yn beirniadu cystadleuaeth y côr ieuenctid dan 25 oed tua'r hanner awr wedi deg yma - a rhoddwyd ochenaid ddiolchgar o ryddhad.
Mae Nia Lloyd Jones, ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru, yn blogio o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 bob dydd.
Ma'r Steddfod yn mynd yn ei blaen a 'dwi wrth fy modd yma yn Wrecsam. Ma'r croeso yn gynnes iawn eleni eto a digon trymaidd yw'r tywydd hefyd!
Ond dwi'n cael hoe o gyflwyno'r tywydd wythnos hon ac yn profi tipyn o amrywiaeth fel rhan o dîm cyflwyno'r Eisteddfod. Dwi'n cael crwydro'r maes, sgwrsio gefn llwyfan a hefyd cyfnod yn llywio'r cwch yn y stwidio! Ma' bod yn y stiwdio yn brofiad gymharol newydd i mi ond yn brofiad dwi'n ei fwynhau yn fawr hyd yn hyn, er nes i ddim bwyta llawer o frecwast fore Sadwrn! Ond whare teg ma Huw Llywellyn Davies a Morgan Jones wedi bod yn gofalu amdanaf.
Roedd hi'n noson o gystadlu cyffrous neithiwr gyda chystadlaethau'r ifanc yn cael ein sylw, Gwobr Richard Burton, Unawd allan o Sioe Gerdd, Tlws y Cerddor, Ysgoloriaeth W.Towyn Roberts a'r Corau Ieuenctid. Roedd hi'n noson a hanner ac yn noson hwyr. Edrych ymlaen nawr at ddiwrnod arall o fwrlwm!
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.
Anodd penderfynu pa reol iaith mae un gornel yn y Lle Celf yn ei thorri.
Y rheol iaith honno sy'n mynnu mai yn y Gymraeg yn unig mae cysadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ynteu'r rheol iaith gymdeithasol honno sy'n golygu bod y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio iaith gymen yn gyhoeddus.
Mae Nia Lloyd Jones, ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru, yn blogio o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 bob dydd.
Un teulu sydd wedi bod yn brysur iawn ar y llwyfan yr wythnos yma ydi teulu Rhys Meirion.
Roedd Rhys ei hun yn canu hefo'r ddau denor arall yn y cyngerdd agoriadol nos Wener.
Mae rhywbeth newydd ym mhob eisteddfod. Eleni, nod rhaglen 'Cefnlen' yn y Babell Len ydi annog pobl i ysgrifennu a barddoni.
Ìý
Ond bues i’n ddigon ffodus, yn fyw ar S4C neithiwr, i gael ‘masterclass’ cynganeddu gan ddau Brifardd, Mererid Hopwood a Dylan Iorwerth.
Ìý
Roeddem wedi gosod her iddyn nhw, ynghyd a’n dyddiadurwr fideo gwadd, Myrddin ap Dafydd i ‘sgwennu englyn yr un erbyn ddiwedd y dydd. Ond bu’n rhaid i’r cyflwynydd druan (ac alla’ i ddim englyna’, wir!) roi cynnig arni.
Ìý
Dyma, felly, ganlyniad ein hymdrechion. Myrddin ap Dafydd yn gyntaf, yn cyfansoddi englyn am yr eisteddfod drwy lygad plentyn:
Ìý
Cariaist o’r maes sticeri a beiros,
Ìýbeiros sbar, taflenni.
Mae hen drysor, hen stori
Ìýyn y stomp ar dy grys di.Ìý
ÌýÌý
Mererid Hopwood oedd nesaf, gydag englyn am bwysigrwydd mynd i’r eisteddfod yn hytrach na dim ond ei gwylio ar y teledu:
Ìý
I Wrecsam trowch eich camau -Ìý a rhedwch
i’r adwy. Dewch, ffrinidau –
Ìýy Gymraeg ddi-gamerau
yn siwr sy’n blasu orau.
ÌýÌý
Ac yn olaf, Dylan Iorwerth, ar yr etifeddiaeth o un genhedlaeth i’r llall drwy’r eisteddfod diwylliant Cymreig:Ìý
Ìý
Rhoddi dawn a rhoi cerdd dant - rhannu gair
yn goeth, rhoi diwylliant.
Rhoi o’n plith y wefr i’n plant -
dolenni ein diwylliant.
Ìý
A finnau? Wel wedi llawer iawn o newid a gwelliannau gan Mererid a Dylan ar y soffa yn ystod y rhaglen, dyma englyn longyfarch gan y tri ohonom ni i Geraint Lloyd Owen, Goronwyd b’nawn ddoe.
Ìý
 geiriau cest ti goron y seiri.
Wyt seren y noson!
A weli, yn dy galon,
fawl a chlod y sdeddfod hon?
Ìý
Diolch i Myrddin, Mererid a Dylan. Mae’n amser mynd am dro eto o gwmpas y maes....
Ìý
Mae Nia Lloyd Jones ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru yn blogio o gefn llwyfan bob dydd
Mi roedd hi'n brysur iawn gefn llwyfan bore ma wrth i'r Orsedd ymgynnull.
Glas, gwyn a gwyrdd ymhobman ac yn eu canol nhw ddau mewn piws a chorn gwlad yr un ganddyn nhw.
Cyrraedd y maes ychydig wedi saith y bore ma.
Ac i'w gywed yn o'rcaeau o gwmpas mae sŵn gwartheg yn brefu ac yn puo yn uchel.
Triawd y buarth yn ymarfer siŵr o fod.
Maen nhw wedi distewi erbyn hyn - y rhagbrofion wedi bod yn drech na nhw beryg.
Cael fy nghornelu rhwng llwyfan perfformio a stiwdio gerdd gan rywun yn nadu am y nodau, fel petai.
"Welsoch chi glawr Rhaglen y Dydd?" meddai hi.
A do'n wir, yr oeddwn wedi ei weld ac edmygu'n fawr y llun.
Llun ydi o geg corn neu drwmped neu rywbeth gyda dalen hen nodiant wedi ei gadw yno.
Ond lle'r oeddwn i'n gweld ffrwyth dychymyg a gwreiddioldeb holi wnaeth y fenyw gerddgar;
"Ond copi wedi ei ddyblygu o gerddoriaeth sydd yn y corn. Ac onid ydy dyblygu darnau cerdd yn groes i ddeddfau hawlfraint ac yn arferiad y dylai'r Eisteddfod o bawb ei anghymeradwyo."
Wel, os ydi HI'N dweud . . .
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.
Cychwyn yn gynnar bore ma ac i ffwrdd o'r Maes. Gwariais rai oriau yng nghwmni Phil Phillips, hanesydd lleol wnaeth fy nhywys ar daith gerdded trwy ganol tref Wrecsam. Treuliais flynyddoedd lawer yn byw yn Wrecsam ac mae'n rhyfeddol beth nad ydych yn ei sylwi ar stepen eich drws.
Gwnaethon ni ymweld â'r hen farchnadoedd a'r bragdai ac esboniodd Phil pa mor llewyrchus oeddent yn eu dydd. Doeddwn i fyth wedi sylwi ar y gloch yn y farchnad gig o'r blaen -ond ces i'r cyfle i'w chanu heddiw ac roedd hi dal yn gweithio! Esboniodd Phil fod y gloch yn cael ei defnyddio yn y dyddiau cyn dyfeisio'r oergell, er mwyn hysbysu'r bobol leol i dyrru i ddod i brynu'r cig rhad ar ddiwedd dydd. Roedd yn dipyn o gambl gan na fyddech yn gwybod beth oedd yn eich ymaros nes i chi dalu amdano! Ond roedd yn rhaid gwerthu'r cig cyn iddo droi. Mae'r teithiau cerdded yma'n boblogaidd iawn a gallwch chi weld fy siwrne ar raglen yr Eisteddfod ar S4C heno.
Wedi hyn roedd hi'n amser troi nôl i'r Maes ac roedd Wynne Evans, y Canwr enwog, yn eistedd wrth fy ochr yn blogio hefyd. Felly cawson gyfle am glonc fach! Pnawn ma dwi allan ar y Maes ac yn sgwrsio gyda'r cystadleuwyr tu ôl i'r llwyfan. Y Coroni yw uchafbwynt y dydd ac rydym ar bigau'r drain yn aros i weld os oes rhywun wedi dod i'r brig eleni -gobeithio bydd gennym fardd buddugol!
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.
Pe digwydd ichi fod yng nghyffiniau pabell mentrau Iaith Cymru mae gwahoddiad ichi chi gyfrannu at gerdd i'w rapio gan Aneirin Karadog.
Yn gyflwynydd Wedi 7, yn fardd ac yn rapiwr o fri gosododd Aneirin linell gyntaf cerdd 'Rap yr Eisteddfod' a gwahodd ymwelwyr â'r babell i ychwanegu llinellau.
I fi mae'r 'Steddfod wedi cychwyn ar ei huchafbwynt, efo deuddydd o gystadlu efo'r bandiau pres. Fel rhywun oedd bron bob blwyddyn yn cystadlu efo band Trefor, roedd dydd Sadwrn a ddoe yn llawn pleserau, a llongyfarchiadau i fandiau Melingriffth, Treherbert a Llanrug ar ennill eu hadrannau ddydd Sadwrn.
Ddoe cawsom wledd gerddorol o'r radd flaenaf wrth i bencampwyr Prydain a phedwerydd band gora'r byd- Tredegar roi perfformiad cwbl ryfeddol yn y Bencampwriaeth! Felly dechra da i'r brifwyl yn Wrecsam ac edrych ymlaen nawr at wledd weddill yr wythnos.
Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.
Cawod andros o drom gynnau yn gyrru'r Orsedd i fochel yn y Babell Lên yn hytrach na chyfarfod rhwng y meini - er iddi ddod yn haul unwaith eto ers hynny.
Ond fu na rioed ddrwg nad yw'n dda i rhywun ac mi ddweodd Gwenllian Carr, Pennaeth Cyfathrebu yr Eisteddfod, wrthyf i'r gawod honno fod yn hwb sylweddol i werthiant ambaréls y Steddfod (£7.50 yr un)!
Mae Nia Lloyd Jones yn blogio bob dydd o gefn llwyfan
Diwrnod da heddiw gan ddechrau hefo chydig o brocio a phryfocio yng nghornel y Wasg gefn llwyfan, lle roedd Gwilym Owen wrthi'n brysur yn sgwennu ei sgript foreol ar gyfer y Post Cyntaf.
Wrth i Steddfod arall gael gwynt dan ei hadenydd mae rhywun yn darllen yn y cylchgrawn WA-w! sydd ar werth ar y Maes beth oedd Prif Weithredwr yr Wyl - Y Mr Steddfod ei hun, Elfed Roberts - yn ei wneud mewn oes arall.
´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.