Gormod o ddim nid yw'n dda
Beth yw lluosog y gair "refferendwm"? Refferendymau? Refferwendwms? Refferenda? Rwy'n yn amau taw'r olaf sy'n iawn ond mae'r ffaith bod y term yn anghyfarwydd yn arwydd o ba mor anarferol ac estron oedd pleidleisiau poblogaidd o'r fath cyn refferendwm Ewrop yn 1975.
Yr unig enghreifftiau y medra i feddwl amdanyn nhw cyn hynny oedd y rhai ynghylch agor tafarnau ar y Sul yng Nghymru a'r "option polls" yn yr Alban oedd yn caniatau i gymunedau wahardd y ddiod gadarn yn gyfan gwbwl. Mewn geiriau eraill, doedd San Steffan ddim yn fodlon gofyn am farn y bobol ar faterion o dragwyddol bwys ac eithrio materion oedd o dragwyddol bwys i Bresbyteriaid yn unig!
Rhyw wythnos yn ôl sgwennais i bwt am y refferendwm yn y Swistir ynghylch gwahardd minarets rhag cael eu codi. Roeddwn i'n gweld y peth yn ddiddorol er nad oedd yr ymdrech wedi cael rhyw lawer o sylw. Y rheswm am hynny, mae'n debyg, oedd bod pawb (gan gynnwys fi a llywodraeth y Swistir) yn cymryd yn ganiataol y byddai'r syniad yn cael ei wrthod. Y gwrthwyneb wnaeth ddigwydd.
Roedd 57% o'r pleidleisiau o blaid y cynnig. Dyna ni. Dyna yw democratiaeth wedi'r cyfan. Pa ots os ydy'r peth yn creu cur pen i'r llywodraeth a loes calon i leiafrif? Pa wahaniaeth os ydy'r canlyniad yn gwneud bywydau lleiafrifoedd Cristnogol mewn gwledydd Mwslimaidd yn fwy anodd? Barn y bobol sy'n bwysig wedi'r cyfan ac mae gan bobol y Swistir berffaith hawl i dynnu dirmyg rhyngwladol ar eu pennau os mai dyna yw eu dymuniad.
Wrth i'n gwleidyddion ni drafod ffyrdd o adfer hyder yn ein system wleidyddol ni mae un syniad yn codi ei ben yn gyson. Rhoi'r hawl i ddinasyddion orfodi refferendwm ar unrhyw bwnc dan haul trwy ddeiseb ac arni digon o enwau yw hwnnw. Mae'r hyn wnaeth ddigwydd yn y Swistir yn enghraifft o ganlyniadau posib system o'r fath. Mae 'na esiampl arall sy'n werth ei ystyried hefyd sef California.
Roedd y dalaith honno arfer brolio bod ei heconomi ymhlith y rhai mwyaf yn y byd. Pe bai hi'n wlad annibynnol fe fyddai hi ymhlith y deg uchaf oedd yr honiad. Roedd hynny'n wir ar un adeg ond nid erbyn hyn. Pe bai California'n annibynnol heddiw fe fyddai'n yn byw ar gardod yr IMF. Mewn rhannau o'r dalaith mae tai wedi colli 70% o'u gwerth. Mae diweithdra (swyddogol) yn 12.5% a does dim arian yn y coffrau i dalu . Mae'r llywodraeth daleithiol a llywodraethau lleol yn ychwanegu at nifer y di-waith trwy dorri ar wasanaethau craidd a diswyddo gweithwyr.
Does dim dewis arall, mewn gwirionedd. Yn ôl yr mae gan sector gyhoeddus y dalaith ddyledion o $600 biliwn yn barod. Fe fyddai ychwanegu at y ddyled ond yn gohirio dydd y farn.
Mae 'na ateb syml ond poenus i'r broblem sef codi trethi ond yng Nghalifornia mae hynny bron yn amhosib. Mae dwylo'r gwleidyddion wedi eu clymu gan "" gwelliant cyfansoddiadol a basiwyd mewn refferendwm yn 1978 sy'n golygu bod yn rhaid i gyllideb y dalaith gael mwyafrif o ddwy ran o dair er mwyn pasio. Mae hynny'n wleidyddol amhosib os ydy'r gyllideb yn codi trethi.
Y gwir amdani yw bod California mewn twll a does neb yn gwybod y ffordd mas. Hi yw'r Dubai nesaf, o bosib. Yn y byd real fe fyddai cryts Beverley Hills 90210 wedi mudo i dalaith arall i chwilio am waith erbyn hyn a byddai'r "Hollywood Wives" yn hawlio !
Mae hon yn frawddeg anhygoel i sgwennu ond yn rhannau o Galifornia mae newyn yn broblem ddifrifol. Darllenwch y pennawd yma o un o bapurau'r dalaith a meddyliwch am y peth am eiliad; "".
Cofiwch hynny y tro nesaf mae rhywun yn galw am roi rhagor o rym yn nwylo'r etholwyr.
"Be careful what you wish for" fel maen nhw'n dweud!
SylwadauAnfon sylw
Pam son am hwn?
Allai'm blydi disgwl tan y canlyniad arweinydd y blaid lafur,
allai blydi ddim disgwl(!!)
Eh?! Oherwydd fod y gwleidyddion am amser maith wedi bod yn gwario arian nad oedd ganddyn nhw....rwyt ti'n awgrymu y dylent amddufadu'r etholdwyr o'u grym.....er mwyn eu plingo nhw fel bod y gwleidyddion yn gallu parhau fel yn flaenorol. Rwyt ti Vaughan yn byw mewn swigen sy'n arnofio ar lefel uwch na'r plebs. Mae hynny'n gwbwl amlwg. A llawer os nad mwyafrif o wleidyddion hefyd. "Be Carefull what you wish for" :-))
ON
Efallai taw'r rheswm y gwnaeth pobl y Swisdir bleidleisio yn erbyn codi fwy o Finarets oedd oherwydd y ffordd mae Cristinogion wedi cael eu trin mewn ambelll i wlad Mwslemaidd?