Diawl o hawl
Un o ganlyniadau diflannu o Gymru am sbel go hir oedd bod llwyth o wahoddiadau i annerch Cymdeithasau a Chylchoedd Cinio yn fy nisgwyl ar ôl cyrraedd adref.
Rwy'n tueddu gwrthod y rhan fwyaf ohonynt. Wedi'r cyfan mae Betsan a Dewi Llwyd gymaint yn well na fi yn y pethau 'ma ac wrth ei boddau'n rhannu teisen a phaned gyda chriw o ffans! Chi'n gwybod at bwy i ysgrifennu'r tro nesaf!
Serch hynny, rwyf wedi cytuno i gadeirio trafodaeth ar y Mesur Iaith arfaethedig i fudiadau dathlu'r Gymraeg.*
Fe wnes i hynny'n rhannol am ei bod yn golygu fy mod yn gallu gwrando ar ddarlith gan Gwion Lewis heb orfod talu ffeifar. Y rheswm arall am gytuno oedd fy mod eisiau clywed y dadleuon diweddaraf am gwestiwn sy'n achosi trafod brwd mewn cylchoedd cyfreithiol a llywodraethol.
Dyw'r ddadl ddim wedi cael llawer i sylw y tu hwnt i dudalennau Barn ond mae'n un ddifyr a phwysig gyda rhai'n dadlau y gallai un o ddyheadau ymgyrchwyr dros y mesur fod yn niweidiol i'r Gymraeg.
Cymal yn gwarantu hawl gweithwyr i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle yw asgwrn y gynnen. Mae'r egwyddor yn un sy'n apelio at wleidyddion y cynulliad ond mae llunio cymal sy'n cyflawni'r nod ond sydd hefyd yn caniatáu eithriadau ynghylch iechyd a diogelwch ayb yn anodd.
Y broblem, fel mae rhai yn ei gweld yw y gallai cymal gyda gormod o eithriadau neu un oedd wedi ei eirio'n llac fod yn gyfystyr a rhoi bwydlen o esgusodion i gyflogwyr oedd yn dymuno gwahardd y Gymraeg. Hynny yw, y cyfan y byddai angen i gyflogwr wneud i danseilio'r "hawl" oedd dweud ei fod yn gwhardd y Gymraeg am reswm pennodol yn unol a'r mesur. Faint o weithwyr fyddai'n fodlon mynd i gyfraith i herio gosodiad felly?
Mae ambell i eithriad ym marn y Llywodraeth yn hanfodol ond mae llunio'r union eiriad yn profi'n rhyfeddol o anodd. Fe fydd clywed barn y meddylwyr mawr yn ddifyr!
*10yb, Dydd Llun, Chwefror 8fed, Gwersyll yr Urdd, Bae Caerdydd.