´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth

Archifau Chwefror 2011

Ac wedi elwch

Vaughan Roderick | 14:49, Dydd Iau, 24 Chwefror 2011

Sylwadau (2)

Oce mae'n hanner tymor yn y Cynulliad ond mae 'na refferendwm wythnos nesaf ac etholiad ar y gorwel. Pam felly y mae pethau mor rhyfeddol o dawel o safbwynt gweithgaredd a straeon - cymaint felly nes i un arweinydd plaid ddiflannu o'r wlad am hoe fach?

Efallai mai diffyg ymgyrchoedd swyddogol sy'n gyfrifol am y diffyg cyffro ynghylch y refferendwm. Mae'r ´óÏó´«Ã½ wedi darlledu digonedd o eitemau yn ei gylch ond eitemau esboniadol a chefndir yw'r rhan fwyaf o'r rheiny. Ychydig iawn sydd wedi digwydd oedd yn haeddu sylw fel eitem newyddion.

Yr ail ffactor, dybiwn i yw bod y rhan fwyaf o bobol ym mybl Bae Caerdydd yn credu y bydd yr ochor 'Ie' yn sicrhau buddugoliaeth gymharol hawdd wythnos nesaf. Roedd hyd yn oed Syr Eric Howells a Bill Hughes yn darogan hynny ar "Pawb a'i Farn" neithiwr.

Mae dadl y rheiny sy'n credu hynny'n weddol syml. O gymryd mai oddeutu hanner miliwn o bobol fydd yn bwrw eu pleidlais, rhyw 250,000 o bleidleisiau sydd angen ar yr ochor 'Ie' i gario'r dydd. O gofio bod Plaid Cymru wedi ennill 219,000 o bleidleisiau yn etholiad 2007 ac mae ei chefnogwyr hi yw'r mwyaf tebygol i droi allan mae'n anodd gweld unrhyw ffordd na fydd y trothwy yn cael ei gyrraedd.

Does 'na ddim arwydd chwaith bod unrhyw beth wedi digwydd yn ystod yr ymgyrch i newid y patrwm cyson sydd wedi bod yn amlwg ym mhob un arolwg barn ers tro byd.Yn y saith arolwg i'w cynnal ers Medi llynedd (a rheiny gan dri gwahanol gwmni) mae mwyafrif yr 'Ie' wedi amrywio rhwng 19% a 33%. Mae hynny'n gythraul o fynydd ac ychydig iawn o amser sydd ar ôl i'r ymgyrch 'Na' ei ddringo.

Ydy'r gêm ar ben felly? Fe gawn ni wybod hyd sicrwydd wythnos nesaf ond efallai nad yw'n syndod bod llygaid y pleidiau'n troi at etholiad Mis Mai.

Llafur Caled

Vaughan Roderick | 15:49, Dydd Mawrth, 22 Chwefror 2011

Sylwadau (1)

Doeddwn i ddim yn y Gynhadledd Lafur dros y Sul ond yn ol pawb fuodd yno roedd y cynrychiolwyr mewn hwyliau da. Dyw hynny ddim yn syndod. Wedi'r cyfan am y tro cyntaf ers blynyddoedd mae Llafur Cymru yn wynebu etholiad heb orfod gofyn y cwestiwn 'pa mor wael fydd pethau'r tro hwn?'

Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o bobol Llafur yn derbyn esboniad Rhodri Morgan am ganlyniadau hanesyddol wael y blaid yn etholiad 2007, yr etholiadau lleol ac etholiad Ewrop sef mai'r etholiadau hynny oedd y rhai cyntaf i'r blaid ei hymladd gyda Llywodraeth Lafur yn ei thrydydd tymor yn San Steffan. Roedd yr efengyl yn ôl Rhodri yn proffwydo y byddai'r gefnogaeth i Lafur yn dychwelyd i'w chryfder arferol ar ôl i gefnogwyr llugoer oddef dos o foddion chwerw gan Lywodraeth Geidwadol.

Mae ambell i academydd ar y llaw arall wedi awgrymu bod y pum mlynedd diwethaf wedi gweld newid mwy parhaol i strwythur gwleidyddol Cymru. Dyw'r academyddion hynny ddim yn dweud bod hi'n amhosib i Lafur ennill 40% neu hyd yn oed 50% mewn ambell i etholiad ond bod y dyddiau lle'r roedd y blaid yn gallu cymryd cefnogaeth felly'n ganiataol wedi darfod.

Yn bersonol rwyf rhywle rhwng y ddwy stôl ond rwyf am nodi un peth. Fe gynlluniwyd system etholiadol y Cynulliad yn y gred y byddai Llafur yn amlach na pheidio yn gallu ennill mwyafrif. Dyna'r rheswm am y nifer cyfyngedig o seddi rhestr nad ydynt yn ddigon i sicrhau Cynulliad cwbwl gynrychiadol.

Mae'r ffaith bod strategwyr Llafur yn cyfaddef y bydd hi'n anodd ennill mwyafrif eleni yn awgrymu eu bod yn derbyn bod y bleidlais graidd yn llai nac y buodd hi.

Mae 'na broblem arall gan Lafur. Yn wahanol i etholiadau San Steffan mae llwyddiant mewn etholiad Cynulliad yn dibynnu ar allu trefniadol pleidiau i gymell eu cefnogwyr i droi allan.

Fel y pleidiau eraill mae'r drefniadaeth Lafur yn dibynnu i raddau helaeth ar gynghorwyr. Yn y rhan fwyaf o lefydd mae'r pleidiau i gyd erbyn hyn yn dibynnu ar rwydweithiau teuluol a chymdeithasol cynghorwyr unigol yn hytrach nac ar ganghennau traddodiadol i ymgyrchu.

Yn y maes hwnnw mae'r fantais enfawr oedd gan Lafur dros y pleidiau eraill o safbwynt nifer ei chynghorwyr wedi derbyn cythraul o glec dros y ddegawd diwethaf. Yn 2008 fe enillodd Llafur 342 sedd cyngor. Mae hynny'n fwy, ond ddim cymaint â hynny'n fwy na Phlaid Cymru (205), y Ceidwadwyr (174) a'r Democratiaid Rhyddfrydol (162). Ar lawr gwlad felly fe fydd Llafur yn cystadlu ar delerau llawer mwy cyfartal nac yn etholiadau'r gorffennol.

Mae 'na hen ddigon o bobol Llafur sy'n deall hyn oll ac mae'r rhan fwyaf yn credu mai cael a chael fydd hi i ennill mwyafrif gweithredol.

Yn wyneb hynny ydy hi'n gall i Carwyn fod cweit mor sarhaus ynghylch y Democratiaid Rhyddfrydol ac i Peter Hain geisio achosi i Ieuan Wyn Jones dagu ar ei goco-pops?

Yn y doc

Vaughan Roderick | 11:13, Dydd Gwener, 18 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Ar y cyfan mae gwleidyddion yn eithaf da ar gadw cyfrinachau - os ydyn nhw'n wirioneddol dymuno gwneud hynny. Ond ambell waith mae 'n amhosib osgoi'r temtasiwn i rannu clecs os ydy'r stori yn un ddigon gafaelgar.

Yn sicr mae sylw gan un o weision sifil pwysicaf Whitehall yn disgyn i'r dosbarth hwnnw ac o fen byr o dro i'w sylw mewn cyfarfod preifat mi oedd y sibrydion ar led yn y Bae ac , am wn i, yn Hollyrood a Stormont hefyd.

Ar ôl cyfarfod hynod o stormus rhwng Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig honnir i'r gwas ddweud rhywbeth i'r perwyl hwn - os oedd y Deyrnas Unedig yn cwympo'n ddarnau fe fyddai hynny'n digwydd oherwydd agwedd ac anwybodaeth Llywodraeth Prydain yn hytrach nac o ganlyniad i genedlaetholdeb neu unrhyw weithred gan y Llywodraethau datganoledig.

Yn sicr dyw'r berthynas rhwng Llywodraeth David Cameron a Llywodraeth Carwyn Jones yn ddim byd tebyg i'r hyn oedd hi yn nyddiau Gordon Brown. Mater o liw gwleidyddol yw hynny'n rhannol wrth reswm ond mae 'na ffactor arall hefyd.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymddangos yn fwyfwy fel un ar ruthr, un sy'n fyrbwyll bron. Gan gymryd sylw Tony Blair ei fod yn edifar na gyflawnodd fwy yn nyddiau cynnar ei lywodraeth fel eu mantra mae Gweinidogion wrth eu gwaith fel lladd nadroedd.

Canlyniad hynny yw bod camgymeriadau'n digwydd - rhai'n fawr fel y cynllun i werthu coedwigoedd Lloegr ac eraill yn rhai cymharol bitw ond yn ddigon i dynnu blew o drwynau llywodraethau eraill y Deyrnas.

Un esiampl o hynny yw penderfynniad sydd yn sicr wedi gwylltio Carwyn Jones. Cymaint felly nes bod y Prif Weinidog yn cyfeirio ato byth a hefyd er nad yw'r stori wedi cael rhyw lawer o sylw.

Peth amser yn ôl cyhoeddodd Llywodraeth y DU gronfa o drigain miliwn o bunnau i ddatblygu porthladdoedd. Gan nad yw porthladdoedd yn fater datganoledig doedd na ddim elw i Gymru o'r cyhoeddiad yn nhermau fformiwla Barnett. Serch hynny cyhoeddwyd mai porthladdoedd Lloegr yn unig fyddai'n manteisio o'r gronfa Brydeinig.

Nawr dyw hwn ddim yn beth mawr, son am ryw £3 miliwn o bunnau ydym ni yn fan hyn. Ond fel mewn unrhyw berthynas neu briodas mae'r pethau bychan yn cyfri a gormod o bwdin dagith gi.

Oinc

Vaughan Roderick | 15:13, Dydd Mercher, 16 Chwefror 2011

Sylwadau (2)

Dwn i ddim os ydy 'Gwir Gymru' wedi dewis enw i'w mochyn eto. "Porci" oedd awgrym un ymgyrchydd 'Ie' gan fod yr ymgyrchwyr 'Na', yn ei dyb ef yn hoff iawn o ddweud "porky pies"

Ta beth am hynny syniad wedi ei fachu o ymgyrch 'Na' Gogledd Ddwyrain Lloegr yw'r mochyn. Yn y refferendwm hwnnw yn 2004 fe brynodd yr ochor 'Na' falwn enfawr af ffurf eliffant gwyn ac roedd mynd a hwnnw o un digwyddiad 'Ie' i'r nesaf yn rhan fawr o'u hymdrech.

Yn yr ymgyrch hwnnw roedd symbolaeth y "white elephant" yn gwbwl amlwg dyw hynny ddim yn wir am y mochyn. Mae arweinwyr yr ymgyrch 'Na' yn gwadu mai gwneud ensyniadau ynghylch aelodau'r Cynulliad yw'r bwriad. Yn hytrach ceir rhyw fwmian annelwig ynghylch 'Animal Farm'.

Beth bynnag oedd y bwriad yn ol y rheiny sydd wedi gwylio'r mochyn wrth ei bethau mae'r stynt yn denu pobol draw i siarad a'r ymgyrchwyr. Yn hynny o beth mae'n gweithio.

Serch hynny mae'n anodd credu y bydd y mochyn yn 'game-changer'.

Mae'n werth nodi Ladbrokes newydd gyhoeddi eu prisiau ar y refferendwm. 1/10 yw pris 'Ie'. 5/1 yw pris 'Na'. Os ydy'r bwcis yn gywir mae angen mwy na mochyn ar Wir Gymru.

Dau Fwystfil

Vaughan Roderick | 10:53, Dydd Mawrth, 15 Chwefror 2011

Sylwadau (3)

Rwy'n gobeithio y bydd Dafydd Elis Thomas a Ron Davies yn maddau i mi am eu galw'n fwystfilod ond dyma, am wn i, yw'r cyfieithiad gorau o'r term 'big beast' - y cymeriadau hynny sydd yn gallu bod yn fendith neu'n bla i'w pleidiau.

Does wybod pa blaid neu bleidiau fydd yn ffurfio'r Llywodraeth nesaf ac yn achos Ron wrth gwrs does dim sicrwydd y bydd e'n Aelod Cynulliad ond fe fyddai presenoldeb y ddau yn cynnig cyfleoedd a chreu problemau posib i Blaid Cymru - yn enwedig os oedd hi mewn llywodraeth.

Yn achos Dafydd El mae'n bosib y byddai'r Llywodraeth nesaf yn dymuno ei weld yn parhau fel Llywydd - am gyfnod o leiaf. Fe fyddai na ddadl gref dros hynny os oes 'na bleidlais 'ie' ar Fawrth 3ydd. Ar y llaw arall mae sawl Aelod Cynulliad yn credu nad yw'n beth iach i un person ddal y swydd cyhyd.

Nid beirniadaeth bersonol yw hynnya does na ddim awgrym o gwbwl bod Dafydd ei hun wedi diflasu a'r swydd. Mae'n rhai mynd yn ôl i ddyddiau'r ail ryfel byd i ganfod Llefarydd yn Nhŷ'r Cyffredin yn gwasanaethu am gyfnod mor hir ac mae Dafydd eisoes wedi gwneud ac Alex Ferguson yw trydydd Llywydd Senedd yr Alban.

Ar ben hynny oll mae 'na sibrydion bod Dafydd a'i fryd ar fod yn weinidog. A fyddai ei blaid yn beiddio peidio ildio i'r deheuad hwnnw - yn enwedig o gofio'r drafferth y gallai fe achosi ar y meinciau cefn?

Dyna'n union wnaeth Ron Davies yn ystod y Cynulliad cyntaf. Roedd gwylio Ron yn croesholi (neu groeshoelio) Rhodri Morgan yn y Pwyllgor Datblygu Economaidd yn adloniant penigamp neu'n artaith llwyr gan ddibynnu ar eich chwant.

Roedd Ron wedi cwympo mas a'i blaid ar y pryd, wrth gwrs. Dyw hynny ddim yn wir y tro hwn. Dim eto, o leiaf.

Ar y llaw arall fe fyddai 'pensaer datganoli' yn disgwyl rhywbeth. Go brin y byddai Llafur yn orawyddus i'w weld yn y cabinet a dweud y lleiaf.

A fyddent yn fodlon ei oddef fel Llywydd? Dim ond gofyn.

Na Dros Gymru

Vaughan Roderick | 10:57, Dydd Gwener, 11 Chwefror 2011

Sylwadau (5)

Rwyf wedi bod o dan y doctor yn ystod y dyddiau diwethaf gan boeni mwy am fy mhỳls fy hun na phỳls y genedl!

Dyma fi yn ôl yn y gwaith ar gyfer dau o'r bae a beth sy fy nisgwyl? Gwahoddiad bach i barti "Diolch am ddweud Ie" ym Medwas. Mae'n addo bod yn noson dda hefyd gyda ymddangosiad olaf Meic Stevens a'r band. Fel ffan o Meic byswn yn cael fy nhemptio - onibai fy mod yn gweithio ar raglen ganlyniadau S4C ar y pryd.

O leiaf mae ymgyrchwyr 'Ie' Caerffili'n teimlo'n hyderus. Nid felly ym mhob man. Rwyf wedi clywed gan sawl gwleidydd rwy'n parchu eu bod yn canfod talcen caled wrth ymgyrchu. Clywaf son am "genedlaetholwyr pybyr sy'n llugoer", "ffermwyr sy'n grac am Glastir" a bod "pobol y Gogledd yn colli amynedd".

Nawr rwyf wedi clywed pethau fel hyn o'r blaen. Y tro diwethaf oedd yn ystod y ras i ddewis arweinydd newydd Llafur Cymru. I mi roedd hi'n amlwg o'r cychwyn y byddai Carwyn Jones yn ei cherdded hi a nad oedd gobaith caneri gan Edwina Hart neu Huw Lewis.

Dyna oedd y dystiolaeth i gyd yn ei dweud ond ar sawl achlusur clywais gan wleidyddion a chyd-newyddiadurwyr eu bod nhw'n amau y bydd ai "pethau'n agos" neu eu bod nhw'n "teimlo yn eu dŵr" bod cyfle gan un o'r ymgeiswyr eraill i gipio coron Carwyn.

Nid dyna ddigwyddodd wrth gwrs ac mae'n brawf nad yw bod yn geffyl blaen yn safle cysurus.

Oes lle i'r ochor 'Ie' boeni felly?

Wel, mae'n wir i ddweud nad yw pethau wedi mynd arbennig o dda i'r ymgyrch yn y dyddiau cynnar. Fe achosodd Peter Hain embaras gyda'i sylwadau mewn cyfweliad a ´óÏó´«Ã½ Cymru ac mae 'na amheuon cynyddol am allu Roger Lewis fel prif ladmerydd yr ymgyrch - yn enwedig wrth fynd benben a seren ymgyrch ceiniog a dime Gwir Gymru, Rachel Banner.

Pethau bach yw'r rheiny mewn gwirionedd ac mae'r llugoerni y mae ymgyrchwyr yn canfod yn debycach o arwain at bleidlais isel nac at bleidlais 'na'.

Nes i'r arolygon barn awgrymu'n wahanol does 'na ddim rheswm i'r ochor 'Ie' fynd i banig.

Efallai.

Ar y trothwy

Vaughan Roderick | 11:48, Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2011

Sylwadau (1)

Rwyf wedi bod ar dipyn o 'grand tour' o Gymru dros y dyddiau diwethaf. Roeddwn i yng Nghaernarfon dros y Sul i recordio rhaglen Tudur Owen. Dwedai ddim byd mwy am hynny ac eithrio fy mod wedi joio mas draw ac y byddai S4C mewn llawer gwell cyflwr pe bai ganddi ragor o raglenni o'r un safon a rhai Tudur.

Cyn hynny fe wnes i alw draw i Aberystwyth i holi Elystan Morgan ar gyfer rhaglen yn edrych yn ôl ar refferendwm 1979. Er gwaetha'r nosweithiau hirion roedd Elystan yn mwynhau'r frwydr ynghylch y mesur AV yn Nhŷ'r Arglwyddi. Lleihau nifer y seddi Cymreig sy'n ei boeni nid y refferendwm wrth reswm ond roedd e'n ddigon parod i ddefnyddio pob arf posib i rwystro'r mesur.

Un o'r arfau hynny oedd cyflwyno gwelliant digon tebyg i 'welliant Cunningham' wnaeth osod trothwy yn refferendwm 1979. Roedd hwnnw'n golygu bod yn rhaid i ddeugain y cant o'r etholwyr gefnogi datganoli cyn i gynulliad gael ei sefydlu. Yn y diwedd doedd y trothwy ddim yn berthnasol yng Nghymru ond fe ohiriwyd datganoli yn yr Alban am ugain mlynedd gan nad oedd y mwyafrif o'i blaid yn ddigonol.

Mae'r trothwy a gynigiwyd yn y Refferendwm AV ychydig yn wahanol. Deugain y cant o'r etholwyr yn bwrw eu pleidlais y naill ffordd neu'r llall yw'r trothwy y tro hwn. Yn ddamcaniaethol felly fe allai 20%+1 o'r etholwyr yn ddigon i sicrhau'r newid.

Fe dderbyniwyd y gwelliant yn NhÅ·'r Arglwyddi o fwyafrif o un. Mae'n sicr bod Elystan ei hun yn mwynhau'r eironi fod pleidlais arweinydd 'Ie' 1979 yn allweddol i'r fuddugoliaeth honno.

Mae 'na eironi arall wrth gwrs. Fe fyddwn i'n betio fy nhÅ· na fydd y bleidlais ar Fawrth y 3ydd yn cyrraedd y trothwy a osodwyd ar gyfer y refferendwm AV. Ni fydd hynny'n gwneud unrhyw wahaniaeth gan brofi, os oedd angen prawf, bod pleidleisiau o'r fath ym mhell o fod enghreifftiau o 'ddemocratiaeth bur'.

Hap a damwain

Vaughan Roderick | 14:19, Dydd Iau, 3 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Mae'r erthygl yma hefyd yn ymddangos ar safle lle gewch gyfarfod a'r unigolion fydd yn datblygu'n leisiau cyfarwydd yn ystod y misoedd nesaf.

Mae sylw Ron Davies fod datganoli yn broses yn hytrach na'n ddigwyddiad bron yn ystrydebol bellach.

Mewn gwirionedd roedd yr honiad mewn sawl ffordd yn gamarweiniol gan awgrymu bod 'na rhyw fath o uwch-gynllun cyfansoddiadol. Y gwir amdani yw bod y 'broses' wedi dibynnu i raddau helaeth ar hap a damwain, lwc ac anlwc ac ymroddiad a dylanwad unigolion.

Roedd maes llafur eang a phwerau grymus Ysgrifennydd Cymru yn ganlyniad i ddylanwad deiliad cyntaf y swydd Jim Griffiths. Fel cyn ddirprwy arweinydd y blaid Lafur roedd aelod Llanelli yn gallu sicrhau nad rhywbeth symbolaidd oedd y Swyddfa Gymreig ond adran â'r gallu i lunio'i pholisïau ei hun a'r gallu i wella bywydau pobl Cymru.

Yn yr un modd oni bai am gynsail refferendwm Ewrop yn 1975 a doniau carismataidd Neil Kinnock mae'n ddigon posib y byddai llywodraeth Jim Callaghan wedi gallu sefydlu Cynulliad yn 1979 heb gynnal y refferendwm wnaeth ddryllio'r cynllun.

Mae'n debyg mai'r cyfnod rhwng y ddau refferendwm yw'r cyfnod mwyaf allweddol yn hanes datganoli. Yn sgil crasfa 1979 roedd hi'n ymddangos yn debygol bod y 'broses' wedi dod i ben, ac na fyddai pethau'n mynd yn bellach.

Yn wir roedd rhai yn 1979 yn rhagweld y byddai pwerau'r Swyddfa Gymreig yn crebachu yn sgil dyfarniad clir etholwyr Cymru. Y gwrthwyneb ddigwyddodd.

O ganlyniad i ddirywiad cyflym y diwydiannau trymion a chynhyrchu yn y 1980au fe ddechreuodd Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol dorri cwys llawer mwy annibynol o Lundain na'u rhagflaenwyr.

O ganlyniad i'r un newidiadau economaidd, dechreuodd rhai o fewn y mudiad Llafur godi eu llais dros sefydlu cynulliad etholedig ac fe ddwysaodd y galwadau hynny yn ystod Streic y Glowyr gyda'r Undeb hyd yn oed yn sefydlu ei 'Gynulliad Cenedlaethol' ei hun.

Serch hynny roedd angen storom berffaith wleidyddol hyd yn oed i gael y mwyafrif tila o blaid cynulliad yn 1997. Ac eithrio efallai sefydlu'r Swyddfa Gymreig, y canlyniad hwnnw oedd y cam mwyaf allweddol yn hanes datganoli a chan fod unrhyw gorff o wleidyddion, o reddf bron, yn chwennych grym, gellid dadlau mai 'proses' trwy ddatblygiad yw datganoli ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999.

Er y 'mwyafrif tila', canlyniad 1997 'oedd y cam mwyaf allweddol yn hanes datganoli'
Yn sgil cymeradwyo dwy Ddeddf Llywodraeth Cymru yn 1998 a 2006 mae Llafur wedi cychwyn trwy amddiffyn y setliad cyn cytuno i'w adolygu fel rhan o drafodaethau i glymbleidio. Fe arweiniodd y glymblaid â'r Democratiaid Rhyddfrydol at Gomisiwn Richard a deddf 2006. Cytundeb â Phlaid Cymru sydd wedi arwain at y refferendwm hwn.

Mae'r newidiadau cyson ers 1999 yn deillio'n rhannol o agweddau carbwl y setliad gwreiddiol. Serch hynny yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle'r oedd y cynlluniau cyfansoddiadol yn llawer mwy eglur, cafwyd newidiadau hefyd, er bod y rheiny'n llai sylfaenol nac yn achos Cymru. Y tebygrwydd felly yw y bydd y wasgfa am ragor o bwerau yn parhau ar ôl y refferendwm - beth bynnag yw'r canlyniad.

Pwll anobaith

Vaughan Roderick | 13:13, Dydd Mercher, 2 Chwefror 2011

Sylwadau (3)


Ychydig wythnosau yn ôl sgwennais o blogbost bach ynghylch cau capel y Tabernacl yng Nghwm-gors, Gorllewin Morgannwg. Fe ofynnodd Y Tyst am ganiatâd i'w ail-gynhyrchu ac roeddwn i'n ddigon parod i weld fy enw yn cael ei ychwanegu at restr hir o aelodau fy nheulu sydd wedi cyfrannu at y papur hwnnw.

Mae'n rhaid bod yr erthygl wedi ymddangos erbyn hyn gan fy mod wedi derbyn ambell i nodyn yn ei chylch gan gynnwys un sy'n codi cwestiwn diddorol.

'Rwyf yn byw yng Nghwm Gwendraeth erbyn hyn... ardal glofaol, fel y Waun ond mae na wahaniaeth mawr na fedraf ddeall y rheswm pam! Capel Seion yn dathlu tri chan mlynedd yn 2012 a'r Tabernacl yn cau ar ol dim ond canrif.'

Er nad oes gen i ystadegau wrth law mae 'na ganfyddiad cyffredinol bod y Gymraeg yn yr ardaloedd glofaol ar y ffin rhwng Morgannwg a Sir Gar mewn trwbl ac nad yw'r iaith mor wydn yng ngwm Aman, er enghraifft ac yw hi yng Nghwm Gwendraeth.

Mae Carwyn Jones wedi son wrtha i droeon am y newid ieithyddol ym Mrynaman dros y ddegawd ddiwethaf gan awgrymu bod datganoli ei hun wedi lleihau pwysigrwydd y Gymraeg fel bathodyn o genedligrwydd. Dyw hynny ddim yn esbonio'r gwahaniaeth rhwng gwahanol ardaloedd.

Mae'r ffaith bod y pentrefi hyn yn prysur droi'n rhyw fath o faestrefi ar wasgar i Abertawe'n fwy o ffactor yn fy nhyb i. Mae'r un ffenomen i'w gweld o gwmpas Caerdydd mewn pentrefi glofaol cwm Taf a chwm Rhymni. Yr unig wahaniaeth yw nad yw hynny'n cael effaith ieithyddol.

Yn y cyd-destun hwnnw mae'n ddiddorol darllen rhan o'r cofnod o gwestiynau'r Prif Weinidog ddoe.

Gareth Jones: A fyddech yn cytuno bod gwarchod yr iaith Gymraeg yn ei hanfod yn golygu gwarchod cymunedau Cymraeg yn ogystal, a bod angen rhoi llawer mwy o sylw i hyrwyddo datblygiad economaidd a chynaliadwyedd cymunedau o'r fath, yn enwedig cymunedau gwledig Cymraeg sydd o dan fygythiad mawr ar hyn o bryd? Onid un ffordd o wneud hyn fyddai i'r Cynulliad ymdrin a'r iaith a chymunedau Cymraeg fel mater trawsbynciol, yn hytrach nag fel rhywbeth sy'n dod o dan yr Adran Dreftadaeth yn unig?

Y Prif Weinidog: Credaf eich bod yn gywir, Gareth. Gwyddoch, wrth gwrs, ein bod wedi datblygu ardaloedd penodol ar gyfer hybu'r Gymraeg. Ardaloedd o arwyddocad ieithyddol arbennig yw'r rhain, lle mae'r Gymraeg yn brif iaith bywyd beunyddiol. Yr ydym am sicrhau ein bod yn helpu'r cymunedau hyn i dyfu yn y dyfodol, o ran defnyddio'r Gymraeg. Gwn am sawl cymuned--yn enwedig yn y de, ond nid yn unig yn y de--sydd wedi newid iaith yn weddol gyflym dros y ddegawd ddiwethaf. Mae hyn yn fy mhoeni i a sawl Aelod arall yn y Siambr hon."

Fe wnewch chi sylwi bod Carwyn Jones wedi osgoi ateb y pwynt ynghylch gwneud y Gymraeg yn bwnc trawsffiniol. Os cofiaf yn iawn roedd hynny rhan o gytundeb "Cymru Gyfan" (yr enfys) ond yn absennol o gytundeb "Cymru'n Un" sef rhaglen y llywodraeth bresennol.

Fe fyddai llywodraeth enfys wedi gosod cyfrifoldeb am yr iaith yn nwylo'r Prif Weinidog. Mae'n bosib bod Plaid Cymru wedi ail-feddwl ynghylch hynny wrth ystyried pwy fyddai'n arwain llywodraeth "Cymru'n Un"!

Ta beth, mae'n ddiddorol bod y pwnc yn codi ei ben ar drothwy etholiad Cynulliad. Ydy cwestiwn Gareth Jones yn awgrymu y gallai newid o'r fath bod yn un o amodau Plaid Cymru mewn trafodaethau clymblaid? Mae hynny'n ddigon posib.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.