Bet un ffordd (bron)
""Yn fy ugain mlynedd o osod prisiau ar gyfer etholiadau Cymru dydw i ddim wedi gweld dim byd tebyg!"
Nid fy ngeiriau i ond rhai Karl y bwci. Mae Karl wedi sylwi bod modd betio ar ganlyniad un etholaeth yng Nghymru a allai gynhyrchu elw sylweddol iawn heb beryglu'ch waled.
Yr etholaeth yw Aberconwy a'r cyfan sydd angen gwneud yw gosod betiau gyda dau gwmni sy'n cynnig prisiau tra gwahanol i'w gilydd.
Dyma brisiau Victor Chandler
Llafur 10-11
Plaid Evs
Ceid. 12-1
Dem Rh. 100-1
A dyma rai Paddy Power
Plaid 1-10
Llafur 7-1
Ceid. 10-1
Dem Rh. 125-1
Ffeifar yr un ar Plaid a'r Ceidwadwyr gyda Victor Chandler, a ffeifar ar Lafur gyda Paddy Power yw'r cyngor. Buddsoddwch pymtheg punt felly ac fe fyddwch yn colli ffeifar os ydy Plaid Cymru yn ennill, fe fyddai'r elw yn £35 os oedd Llafur yn fuddugol a £120 os oedd y Ceidwadwyr yn cipio'r sedd.
SylwadauAnfon sylw
Faelu credu pa mor wael mae ods y Tories. Wnaeth Guto ennill yn eithaf hawdd flwyddyn diwethaf er fod ymgeisydd nhw tro yma i fod yn eithaf wael.
yn eithaf da o ymgyrch y Blaid yn Aberconwy (enwedig cameo Dafydd - el am 3:50).
Annwyl Vaughan,
tybio ydwi hefo'r hype ynglyn a UKIP a fydd y ´óÏó´«Ã½ yn edrych ar eu polisiau?. Newydd weld ei PPB a dyma yw'r argymhellion:
- cael gwared a'r 60 ACau, a cael ASau Cymru yno
- ymateb i toriant mewn gwario o fewn yr army
- tori lawr ar mewnfydwyr i Gymru a tori ei "giro's"
Pam na all y ´óÏó´«Ã½ ddeud wrth bobol na fydd hyn yn gallu digwydd (fel da chin neud hefo addewidion Plaid, y Tori's ayyb).
- i gael y cyntaf fysan rhaid newid deddf 2006 ac yn amlwg mae hwn yn cael ei reoli o Lludain.
- tydy defence ddim wedi'i ddatganoli felly dwnim sut sa nhwn gwella hyn
- tydy y pwynt olaf chwaith ddim wedi'i datganoli.
Efallai, dylai pobol Cymru cael gwybod am hyn, oherwydd dio'm werth DIM!