Y pethau sy'n cyfri
Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen am dacteg ddiddorol yr SNP o fframio'r bleidlais ranbarthol fel y bleidlais i ddewis Prif weinidog yr Alban.
Mae'r dacteg, mae'n ymddangos, yn effeithiol. Cymaint felly nes iddi gorddi neb llai na David Cameron. Cyhuddodd yr arweinydd Ceidwadol y Cenedlaetholwyr o geisio troi'r etholiad yn un arlywyddol gan ddweud hyn.
"This is not a presidential system. Last time I looked it was a parliamentary system and El Presidente Salmondo needs to think again."
Gwnaeth yr SNP ymateb i sylwadau'r Prif Weinidog trwy ddweud bod Mr Cameron wedi dangos anwybodaeth ynghylch system etholiadol yr Alban.
Yn ôl y Blaid y bleidlais ranbarthol sy'n pennu'r nifer o Aelodau Seneddol Albanaidd sydd gan bob plaid a chan mae'r rheiny sy'n ethol y Prif Weinidog y bleidlais ranbarthol hefyd sy'n penderfynu pwy yw deiliad Bute House.
Mae'n anodd dadlau yn erbyn y rhesymeg yn enwedig o ddarllen bod un o lefarwyr plaid Mr Cameron wedi defnyddio'r un ddadl wrth geisio darbwyllo pleidleiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol i "gefnogi Annabel Goldie" yn y bleidlais ranbarthol.
Mae'r sefyllfa'n wahanol yng Nghymru lle nad oes 'na ddigon o seddi rhanbarthol i sicrhau bod cryfder y gwahanol bleidiau yn y Cynulliad yn adlewyrchiad o gyfanswm eu pleidleisiau. Yn 2007, er enghraifft enillodd Llafur dros 40% o'r seddi gydag ychydig dros 30% o'r bleidlais.
Mae hynny'n dod a ni at effaith lleihau'r nifer o etholaethau seneddol yng Nghymru. O ganlyniad i'r ymdrech i gysoni maint etholaethau ar draws y Deyrnas Unedig oddeutu 30 o etholaethau seneddol o hyn ymlaen ond beth fydd yn digwydd i etholaethau'r Cynulliad.
Fe fyddai'n bosib datgysylltu'r ddau ddosbarth o etholaeth. Dyna ddigwyddodd yn yr Alban yn 2005. Mae gan y wlad honno 59 o etholaethau San Steffan a 73 o etholaethau Holyrood.
Mae 'na ffordd arall o ddelio a'r sefyllfa sef trwy ddefnyddio'r un etholaethau i'r Senedd a'r Cynulliad a chynyddu nifer yr aelodau rhanbarthol i ddeg ar hugain. Mae 'na fanteision ac anfanteision mewn gwneud hynny ond fe fyddai'n sicrhau Cynulliad llawer mwy cyfrannol ac yn ei gwneud hi'n hyd yn oed anoddach i Lafur sicrhau mwyafrif.
Nawr, San Steffan gyda'i mwyafrif Ceidwadol / Democrataidd Rhyddfrydol sy'n penderfynu'r pethau yma ond pe bai canlyniadau Mai'r 5ed yn arwain at atgyfodi'r syniad o glymblaid enfys mae'n ddigon posib y byddai system bleidleisio'r Cynulliad yn rhan o'r trafodaethau.
Os ydych chi wedi anghofio sut mae'r gyfundrefn bleidleisio yn gweithio dyma fideo cŵl gan y Cynulliad i'ch atgoffa.
SylwadauAnfon sylw
Efallai dylai newid rhanbarthau y Cynulliad hefyd. Yn enwedig yr un hyrt "Canolbarth Cymru". Rhanbarth sydd yn ymestyn o Pen Llyn i Sir Benfro, i Powys - hollol hyrt!
"Fe fyddai'n bosib datgysylltu'r ddau ddosbarth o etholaeth." - a dyna mae'r mesur yn caniatau - yn wahanol i Ogledd Iwerddon gyda llaw
Oes yna unrhyw straeon, Vaughan? Mae hi'n dawel iawn y pen yna!
Yr etholiad mwyaf di-stori i mi gofio. Ni'n gwneud ein gorau!