Dilyn fy nhrwyn
Peth peryg yn y busnes yma yw greddf. Efallai eich bod yn cofio fy ymateb i - a phob wan jac arall oedd yn darlledu ar noson etholiad 2010 i ganlyniad yr arolwg barn a gyhoeddwyd wrth i'r gorsafoedd pleidleisio gau.
"Dim ffiars o beryg!", "Y Democratiaid Rhyddfrydol am golli seddi, does bosib". Fe ddaeth y corws o stiwdio radio a theledu ar hyd a lled y Deyrnas wrth i ni wrthod derbyn bod yr wythnosau o Cleggofrwydd (h. V Roderick 2010) wedi arwain at ddim byd llawer yn y diwedd.
Yr arolwg oedd yn gywir wrth gwrs. Fel y dywedais i mae greddf yn beth peryg. Ar y llaw arall byddai 'na fawr o bwynt i'r blog pe bawn i ond yn ail adrodd esgryrn sychion ffeithiol y tudalennau newyddion yn fan hyn.
Gyda phythefnos i fynd felly beth mae fy ngreddfau'n dweud? Wel y teimlad sy gen i yw nad yw Llafur yn gwneud cystal ac mae'r arolygon barn - yn sicr arolwg RMG Clarity - yn awgrymu. Yr arolwg hwnnw wnaeth ganfod cefnogaeth Lafur o dros 50%. Mae'n werth darllen beth sy gan UK Polling Report i ddweud amdano.
"Looking at the demographics, something very odd appears to be going on with age - of a sample of 1,040 there are only 42 respondents under 35, and the tables imply they were only weighted up to 80 people, which seems a very low target. That said rmg:clarity did perfectly well in the recent Welsh referendum, getting exactly the same figures as YouGov and ICM."
Beth am ffigurau YouGov/ITV Wales felly? Mae'r rheiny'n dangos Llafur ychydig yn is. Amser a ddengys pa mor gywir yw'r darlun cenedlaethol ond y broblem yn fan hyn yw mai darlun cenedlaethol yw'r un sy'n cael ei gyhoeddi.
Chwi gofiwch efallai bod Llafur wedi gwneud llawer iawn yn waeth yn ei chadarnleoedd nac yr etholaethau ymylol traddodiadol yn 2007 a 2010. yn 2007, er enghraifft 37% wnaeth gefnogi Llafur ym Merthyr a 36.4% yng Nghaerffili. Os ydy'r cynnydd yn y bleidlais Lafur yn digwydd yn bennaf yn y cadarnleoedd fe fydd e o fawr o fudd i'r blaid yn nhermau seddi.
Beth sy'n digwydd yn y llefydd sy'n cyfri felly? Wel, mae'n ymddangos nad yw'r pleidiau eraill wedi rhoi'r gorau iddi yn un man ac mewn ambell i le megis Gogledd a Chanol Caerdydd mae Llafur yn ymddangos yn fwy petrusgar na'i gwrthwynebwyr.
Mae gwleidyddion yn gallu twyllo eu hun ac yn gallu twyllo newyddiadurwyr wrth reswm!
Y cyfan dywedaf i yw bod y frwydr yma'n bell o fod ar ben - yn enwedig o gofio bod yr arolygon Prydain gyfan diweddaraf (heb sôn am rai'r Alban) yn awgrymu bod pethau'n llai ffafriol i Lafur nac oedden nhw rhai wythnosau yn ôl.
SylwadauAnfon sylw
Unpeth perygl gyda' arolygon yw darogan y nifer y rhai sydd yn ymateb fydd yn pleidleisio go iawn ffactor sy'n dylanwadu yn fwy ar Lafur. Er efallai fod pobl yn gwyro tuag at Lafur, deued y dydd faint ohonnynt fydd yn bwrw pleidlias.
Dwi'n amau po hiraf mae'r ymgyrch yma y gwaetha fydd hi i lafur.
Mae pobl yn clywed y neges Llafur = gwrth-Tori. Mae hynny'n iawn am wythnos neu ddwy ond yna mae pobl yn dechrau holi, wel, beth sydd gan Lafur yn ei lle? O'r hyn wela' i, ychydig iawn sy'n cael ei gynnig ganddynt ac mae whilbera Milliband draw yma - y dyn na fydd byth yn Brif Weinidog Prydain - ddim yn ennyn llawer o gefnogaeth na hyder.
Neges Llafur yw cadw'r status quo yng Nghymru. Bydd hynny'n apelio i lawer ond bydd eraill yn dechrau holi am fwy o sylwedd.
Hyd yn oed os fysa Llafur yn mynd ar wlad i fewn i dirwasgiad, codi trethi i'r tlawd i helpu bancwyr. Fysa pobol lawr yn y Cymoedd dal i gefnogi Llafur dwi'n tybio.
OH? be ddigwyddodd rhai misoedd yn ol!!.
Ta waeth, un cadair yn fy marn i sydd yn allweddol i Llafur ydy Aberconwy. Wan bod Gareth wedi eistedd i lawr, tydy pobol ddim am droi i Plaid (oherwydd Gareth oedd yr un oedd yn hel y pledleisiau am ei waith). Felly gall hwn fod yn sedd reit bwysig.... gan gofio bod nhw'm hefo gobaith yn y seth Rhanbarthol. Yn y de un pwysig fydd Gog Caerdydd, ac a fydd pledleisiau Mr Morgan yn aros i fyny. Os ma nhwn cael y ddau le yma, dwi'n tybio fydd yna fwyafrif i Llafur. Lwc a pwy syn dod allan fydd Cam/S.Pem, ag os ma Llafur yn enill- neith nhw'm colli y sedd rhanbarthol? Tra os mae Plaid/Ceid yn enill mae mwy tebyg neith nhw cadw'r sedd rhanbarthol.... yn dibynol sut mae y Dem's yn gwneud. IESGOB, mae'n gymleth!
Un lle dwi ddim wedi clwad lot am yw Ron Davies a Caerffili. Dim gobaith canery meddai rhai. Ydy hyn yn wir? ydy Ron yn boblogaidd yno?. Dwin teimlo bod pawb yn edrych ar Carm/S.Pem a ddim yn edrych ar Caerffili- ydio'n 'dead cert' i Llafur?
Ond unwaith eto, dwi'n meddwl hen etholiad ddiflas arall fydd o yng Nghymru. Dim newid mawr rhwng y pleidliau fel sydd yn yr Alban!
Oes unrhywun yn edrych ar Ddwyrain Caerfyrddin?
Mae yna suon nad yw Rhodri Glyn Thomas yn saff yn fanno. Y bleidlais Lafur yn mynd nol i'w gwreiddiau, efallai.
I think Carms/South Pembs IS important in many ways.
It will demonstrate whether and how much voters will be voting on Westminster politics... and yet if they do, how much at odds they will therefore be with the candidates on the ground.
You have what I think (having met and challenged her) is a tory incumbent who's roots seem entrenched in traditional labour values. She appears out of sync with her Party in London and seems to be a very principled politician. Her labour opposition is old school, a protege of the well respected Nick Ainger, but very much a low wattage performer. In Plaid's corner you have a very personable but not very clever (again I've met her) candidate who's youth and vigour in the social media arena has won her many friends amongst the younger voters. The LibDem is the only one I have not met but he appears very attuned to issues in the countryside.
I may not share her politics but Burns is a strong performer and if Carms West/Pembs boots her through anger at the ConLib govt, the area will be losing one of Wales's most talented politicians... and they are in short supply....