John Dwi, Aled 'dio
Dyw pethau ddim yn aros yn gyfrinachol yn hir iawn yn y Cynulliad. Cyrhaeddodd y ddau gopi o'r cyngor cyfreithiol ynghylch sefyllfa John Dixon ac Aled Roberts swyddfa'r ´óÏó´«Ã½ o fewn munudau ddoe. Mae Betsan wedi blogio ynghylch y cynnwys ar ei thudalen newydd sgleiniog yn fan hyn. Does dim llawer o bwrpas ail-adrodd y cyfan yn y gornel fach dlawd a chyntefig hon o'r we.*
Yn y bôn dyw'r sefyllfa ddim mor gymhleth â hynny. Unig obaith Aled a John o gael sedd yw trwy bleidlais yn y Cynulliad. Mae holl ymdrechion y Democratiaid Rhyddfrydol wedi eu canolbwyntio felly ar sicrhau cynnal dwy bleidlais ynghylch yr achosion yn y Cynulliad cyn i swyddogion cyfri Gogledd a Chanol De Cymru ddarparu enwau'r ail ymgeiswyr ar y rhestr i swyddfa Clerc y Cynulliad. Efallai bydd modd cynnal pleidlais, efallai ddim.
Os ydy'r Democratiaid yn llwyddo yn eu hamcan gyntaf y dasg wedyn fydd darbwyllo mwyafrif i ganiatáu i'r naill ymgeisydd neu'r llall neu'r ddau ymuno a'r Cynulliad. Er y byddai'r bleidlais yn rhai rhydd dyw pethau ddim yn argoeli'n dda. Dydw i ddim wedi cwrdd ag un Aelod Cynulliad y tu hwnt i rengoedd y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n bwriadu cefnogi'r ddau. Mae 'na hen ddigon ar y llaw arall sy am weld y ddau'n cael eu cau allan.
Serch hynny fe ddylai'r aelodau sy'n wrthwynebus i'r ddau rhoi sylw manwl i un cymal arbennig yn cyngor cyfeithiol sef hwn.
"Any consideration of whether to disregard the disqualification is quasi-judicial in nature and cannot lawfully be influenced by party political considerations"
Y ddadl a glywir amlaf gan y rheiny sydd am gau'r drws ar John ac Aled yw hon; "mae pawb yn gwybod yn iawn beth fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud mewn amgylchiadau tebyg". I fod yn blaen am y peth mae gwleidyddion y pleidiau eraill sydd wedi eu cythruddo ers blynyddoedd gan dactegau ymgyrchu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweld cyfle am ychydig bach o ddial. Mae'r holl "rasys dau geffyl", y siartiau bar a'r honiadau mai " dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol all guro XXX yn fan hyn" wedi dychwelyd i frathu'r blaid ar ei thin.
Y cyfan ddywedaf i yw hyn. Efallai ei bod hi'n anorfod bod gwleidyddiaeth yn chwarae rhan mewn busnes fel yr un yma ond peth peryg iawn yw dweud hynny ar goedd. Os ydy gwrthwynebwyr John ac Aled am osgoi'r posibilrwydd o orfod mynd i gyfraith taw pia'i hi.
*Dydw i ddim yn eiddigeddus, onest. Mae technoleg y dudalen sgleiniog ymhell y tu hwnt i alluoedd fy Sinclair ZX Spectrum.