|
Geiriadur deintyddol - dewis geiriau Chwilio am yr union air
Fel y gellid disgwyl, daeth y panel termau, fel y daethpwyd i'w alw, ar draws nifer o anawsterau wrth fynd ati i lunio'r geiriau.
- "Er enghraifft, doedd y gair 驳锚苍 ddim digon da i gyfieithu jaw a chin i'r Gymraeg.
"Gan fod angen dau air gwahanol, penderfynwyd ar 驳锚苍 am jaw a blaen yr 锚n am chin er ein bod yn ymwybodol bod genau, sef ffurf luosog 驳锚苍, hefyd yn air arall am y geg," meddai J Elwyn Hughes.
- "Yn yr un modd, oherwydd mai bwa a arferid am arch a bow, penderfynwyd defnyddio bwa am arch a chynnig gair 'newydd', sef crymyn, am bow," ychwanegodd.
- Bu'r gair dental ei hun yn destun cryn drafod gan fod yna yn y Gymraeg yn barod y ddau air, deintyddol a deintiol.
"Yn y diwedd ein penderfyniad oedd mabwysiadu deintiol mewn perthynas 芒 dant neu ddannedd a deintyddol i ddisgrifio'r maes neu'r wyddor yn gyffredinol - er bod gorgyffwrdd yn anochel o bryd i'w gilydd," meddai.
Weithiau bu'n rhaid bathu gair newydd sbon: "Gair a fu'n peri anhawster inni oedd appliance. Doedd celficyn ddim yn dderbyniol gan y deintyddion ond o ystyried y gair cyfarpar dyma fathu'r ffurf newydd cyferpyn a hwnnw'n lluosogi yn cyferpynnau," meddai.
- Cafwyd hefyd achosion o eiriau a ymddangosai yn rhai hawdd eu trosi dim ond i ddarganfod fod iddynt ystyr ddeintyddol cwbl wahanol i'r un amlwg, arferol,
"Y cair cure er enghraifft. Iachau, wrth gwrs. Ond na term am galedu yw hwn mewn deintyddiaeth," meddai.
"A dyna pam yr oedd hi mor bwysig ein bod yn cydweithio a'n gilydd fel t卯m gan ddibynnu ar arbenigedd ein gilydd," meddai J Elwyn Hughes.
- "Bu trafod hefyd ar yr angen i adlewyrchu ynganiad gair yn y ffordd y sillefid ef, a bod mor gyson ag y bo modd yn hynny o beth," meddai.
Cyfeiriodd at eiriau fel f[e]irws, ff[e]ibr, m[i]wcos, s锚l[i]wlos a t[i]wbercwl lle defnyddiwyd bachau petryal [...] i ddynodi bod dewis gan y defnyddiwr.
- "Weithiau, cafwyd bod dau air neu ymadrodd - ac weithiau dri - yn Saesneg yn golygu'r un peth yn union fel,, approximal, intraproximal a proximal felly, yn y Gymraeg, bodlonwyd ar un gair yn unig, sef cyffyrddol," meddai.
- "O safbwynt rhai termau cemegol, penderfynwyd yn ddigon anfoddog, y dylid dilyn y drefn arferedig yn Saesneg a dyna pam y gwelir trosi zinc oxide, er enghraifft, yn sinc ocsid er mai ocsid sinc fyddai gywiraf o ran ystyr," meddai.
Geiriadur Deintyddol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|