![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Geiriadur Deintyddiaeth Cur pen gyda geiriau'r geg
Mae geiriadur newydd a gyhoeddwyd yng Nghynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Ddeintyddol, Mehefin 18 2005, yn torri tir newydd yn y Gymraeg.
Y Geiriadur Deintyddiaeth dan olygyddiaeth J Elwyn Hughes yw'r casgliad cyntaf o dermau deintyddol i'w ei gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg.
Ar gyfer llunio'r geiriadur bu Mr Hughes yn cydweithio 芒 phanel yn cynnwys Dr Gareth Davies, Cadeirydd y Gymdeithas Ddeintyddol, William Parry, Orthodontegydd Ymgynghorol Ysbyty Gwynedd, a'r deintyddion Bryn Morris Jones a Carys Harper Lloyd gyda'r Dr Ieuan Parri yn ymgynghorydd meddygol.
Cyflwynir y copi cyntaf i Einir, gweddw T. Arfon Williams a roes sbardun i ddechrau'r holl waith drwy drosi cryn 400 o dermau.
"Erbyn hyn, tyfodd y 400 gan Arfon i fod rhwng 5,000 a 6,000 o dermau, a'r cyfan wedi eu croesgyfeirio er hwylustod i'r defnyddiwr, mewn 180 o dudalennau A5," meddai.
Un peth sy'n hanfodol i'r geiriadur newydd ydi croesgyfeiriadaeth lwyr er hwylustod i ddefnyddwyr.
Er enghraifft, gellir dod o hyd i gyfieithiad o acute necrotizing ulcerative gingivitis, dan y pedwar gair unigol.
Bydd copi o'r geiriadur yn cael ei anfon at yr holl fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy'n cael eu hyfforddi i fod yn ddeintyddion.
Gall rhai y tu allan i'r proffesiwn deintyddol archebu copi am 拢5.00 (拢6.50 drwy'r post) gan J. Elwyn Hughes, Bryn Ogwen, Bethel, Caernarfon. LL55 3AA.
Mae hwn yn gyfnod eithriadol o brysur i J. Elwyn Hughes. Fel rhan o'r lansiad traddododd Ddarlith Goffa T. Arfon Williams ar y testun, Pytiau Difyr yn hanes Caradog Prichard yn seiliedig ar yr ymchwil a wnaeth ar gyfer y llyfr cynhwysfawr y mae newydd ei gyhoeddi , Byd a Bywyd Caradog Prichard.
Ar ben hynny, mae yng nghanol ei orchwyl blynyddol o olygu cyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol .
Dewis geiriau - John Elwyn Hughes yn dweud nad oedd hi bob amser yn hawdd penderfynu ar y geiriau iawn. Cliciwch
Cysylltiadau Perthnasol
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Wil Ty Brics Siwr fod yna eiriau sy'n lond ceg o fewn y cloriau yna.
Oedd sgwennu'r llyfr fel tynnu dant neu'n dod a dwr i ddannedd JEH?
Dwi wedi danto ar y pyns ma rwan.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|