|
Cyfres Pen Dafad I fyd yr ifanc
Adolygiad Caron Wyn Edwards o Cyfres Pen Dafad. Lolfa. 拢2.95 yr un.
Ar gyfer darllenwyr
fy nghenhedlaeth i, roedd darpariaeth gref o lyfrau i blant a phobl ifanc gyda Chyfres y Corun a theitlau fel Cyfrinach Betsan Morgan, Sbectol am Byth a Chastell Norman, i'r rhai ieuengaf, a hanesion Jabas a Delyth Wyn (Tydi Bywyd yn Boen) yn rhan o gyfres o nofelau ar gyfer rhai yn eu harddegau.
Dwi'n cofio imi dreulio oriau bwygilydd yn darllen yn helaeth o'r ddwy garfan, a'r mwynhad yr arferwn gael o wneud hynny.
Mae'n braf gwybod y gall plant heddiw hefyd fwynhau'r un profiad, gyda Chyfres Pen Dafad, a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa.
Cyfres arloesol Dyma gyfres arloesol i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n trafod ystod eang o bynciau - hanesion am ralio ceir, am ddwyn ceir, am fleidd-ddyn -werewolf - Cymreig.
Straeon am gariad cynta, twyll, bwlio, salwch, hiliaeth.
Ers cyhoeddi'r llyfr cyntaf, Ceri Grafu gan Bethan Gwanas, n么l yn 2003, rydym wedi gweld cyhoeddi straeon gyda theitlau fel Iawn Boi? gan Caryl Lewis, Sbinia gan Bedwyr Rees ac Mewn Limbo gan Gwyneth Glyn.
Bellach, ychwanegwyd saith teitl arall.
Mae Aminah a Minna, eto gan Gwyneth Glyn yn nofel sy'n trafod hiliaeth a bwlio, ac yn gwneud hynny mewn ffordd dreiddgar iawn trwy lais Matthew Parry.
Bwlio yw them芒u Uffar o Gosb gan Sonia Edwards hefyd, ond y tro hwn tad y prif gymeriad sy'n penderfynu tynnu bwlis yr ysgol i'w ben - tra bo'r plentyn yn gwaredu!
Hanes Colin a gawn yn Sgwbid诺 Aur gan Caryl Lewis, sydd wedi ei enwi ar 么l y ral茂wr Colin McRae, ond sy'n cas谩u'r enw.
"Cym on... Cols. Dyw e ddim yn enw i dynnu'r laydeez, odi e?"
Mae Colin yn ceisio paratoi car gyda'i dad ar gyfer rali geir, ond tra'i fod yn breuddwydio am enwogrwydd a llwyddiant, mae'n byw mewn hunllef.
Bedwyr Rees yw awdur Isho Bet? sy'n adrodd hanes criw o ffrindiau, pob un yn haeddu ASBO, sy'n gosod d锚rs dwl i'w gilydd - ond buan mae chwarae'n troi'n chwerw.
A dyna i chi Pen Dafad gan Bethan Gwanas sy'n adrodd hanes Dewi Lloyd, hogyn cyffredin sy'n mynd i'r ysgol, yn cwyno, yn diogi ac yn chwarae drygau fel unrhyw fachgen arall. Hynny yw, nes iddi dywyllu!
Dwy awdures newydd i'r gyfres sydd wedi sgrifennu carirhys@hotmail.com a Ca va Safana? Mae'r gyntaf, gan Mari Stevens, yn adrodd hanes Cari Rhys trwy gyfrwng e-byst tra bo'r ail, gan Cathryn Gwynn, yn s么n am Rob sy'n chwarae i fand, a'r modd y caiff ei fywyd droi wyneb i waered yn sg卯l ymweliad o Lydaw.
Yr olaf yn y gyfres hyd yma yw Noson Wefreiddiol i Mewn sef casgliad o straeon byrion gan Owain Meredith, Llinos Dafydd, Gwenno Mair Davies a Fflur Dafydd.
Yn ifanc Mae'n debyg mai un o'r rhesymau tros lwyddiant y gyfres yw bod yr holl awduron nail ai'n eithaf ifanc neu'n eithaf ifanc eu hysbryd - hynny yw, eu bod yn gallu deall ac yn gallu disgrifio pethau mewn modd sy'n taro deuddeg 芒'u darllenwyr yn ogystal 芒'u hargyhoeddi.
Dwi'm yn credu fod pobl yn sylweddoli cymaint o grefft yw sgwennu i bobl ifanc yn eu harddegau. Yn wir, ar un wedd, hon yw'r gynulleidfa sydd anoddaf i'w phlesio a hawdd iawn, dybiwn i, fyddai llithro i arddull sy'n ymylu ar fod yn nawddoglyd.
Mae Cyfres Pen Dafad, fodd bynnag, yn llwyddo i gydio yn y darllenydd a thanio'r dychymyg, tra ar yr un pryd yn ymdrin 芒'r pynciau llosg hynny sy'n effeithio ar bobl ifanc.
Yn ogystal 芒'r nofelau eu hunain, mae darpariaeth hefyd ar gyfer athrawon gyda chanllawiau arbennig i gyd-fynd 芒'r testunau, a phecynnau o gryno ddisgiau yn cynnig fersiynau llafar o ddwy nofel.
Gwybodaeth ar Teipio "Pen Dafad" yn y blwch chwilio ar y safle.
Cysylltiadau Perthnasol
carirhys@hotmail.com
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|