Adolygiad Nia Alaw Owen o carirhys@hotmail.com gan Mari Stevens. Cyfres Pen Dafad. Y Lolfa.
Prif gymeriad y llyfr hwn yw Cari Rhys, fel mae'r teitl yn awgrymu.
Yr awgrym arall yw ei bod yn stori yn ymwneud 芒'r rhyngrwyd.
Cyfres o negeseuon e-bost rhwng ffrindiau yw'r cynnwys - Cari Rhys, Mags, Tomos, Spynci, Saffi a Katz.
Mae Katz yn wael mewn ysbyty ers bron i flwyddyn a'i ffrindiau yn ceisio meddwl am ffordd o gasglu arian er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad o'r gofal ohoni gan y meddygon a'r nyrsys.
Yr unig awgrym a geir o natur salwch Katz yw ei bod yn colli ei gwallt - felly galwn gasglu ei bod yn dioddef o ganser.
Yn y diwedd mae Spynci yn cael y syniad o gynnal ocsiwn adduned ac fe welwn ni yr ocsiwn drwy lygaid Katz ei hun sy'n disgrifio popeth y mae hi'n ei gweld drwy gamera am ei bod yn rhy wael i fod yn bresennol.
Digwyddiad arall yn y llyfr yw bod Cari Rhys yn derbyn neges e-bost gan rywun sy'n ei hedmygu ac yn galw ei hun yn Caru Cari ac yn defnyddio'r cyfeiriad carucari@sgwarnog.com.
Mae Cari yn benderfynol o ddarganfod pwy yw caru cari gan ddyfalu mai un ai Gaz Tom, capten t卯m rygbi blwyddyn 9, Rhys ap Seimllyd ap Siencyn neu Mr Gorjys Porjys yr athro Cymraeg, yw'r awdur ac mae Cari yn trio gwahanol ffyrdd o geisio darganfod pa un.
Wna i ddim datgelu dim - os ydych chi am wybod pwy yw'r edmygydd rhaid ichi ddarllen y llyfr eich hun!
Mae'n llyfr hynod o ddifyr y mwynheais ei ddarllen - ac ni chymerodd lawer i wneud hynny.
At ferched y bydd yn apelio'n bennaf.
Er mai tafodiaith y de a ddefnyddir nid yw hynny yn achosi unrhyw broblem o safbwynt deall.