大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Pryfeta
Gormod o gatalogio - ond newydd-deb i'w groesawu

  • Adolygiad John Gruffydd Jones o Pryfeta gan Tony Bianchi. Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2007. Y Lolfa. 拢8.95. 251 tud.
  • Fel y dywed Harri Pritchard Jones yn ei feirniadaeth eleni, "stori sy'n gafael ac yn cadw diddordeb" yw hanfod nofel dda ac yn 么l yr hyn a nodwyd yn y testunau roedd disgwyl i'r gwaith buddugol fod a "llinyn stor茂ol cryf".

    Sut mae Pryfeta yn ffitio i'r patrwm yna tybed ?

    Clawr y llyfr Yn bendant mae yma stori hunangofiannol ddiddorol am Jim yr entomolegydd sydd hefyd a diddordeb mewn darllen llenyddiaeth, ond sydd braidd yn aflwyddiannus yn ei berthynas a merched, heblaw am ei fam.

    Yn ei ganol oed mae'n ymuno a chwmni eithriadol o od sy'n ymwneud 芒 chymwynasgarwch ac arbrofi ar feddyliau, ac o fewn y gwmn茂aeth yma mae'n gallu yn rhannol guddio'i orffennol tryblys.

    Dyna fframwaith y stori, stori sydd felly'n ffitio'n daclus i ofynion y gystadleuaeth eleni ac yn sicr yn faes newydd i'r nofel yng Nghymru. Ond a yw'n cadw diddordeb ?

    Llesteirio diddordeb
    Rhaid cyfaddef i fy niddordeb gael ei lesteirio yn amlach na pheidio gan y rhestru manwl a diddiwedd o bryfetach, ac er y gwneir hynny mewn iaith wyddonol gywir, tybed faint o ddiddordeb sydd gan ddarllenwyr yn y pentwr o enwau a welir yma ?

    Rwy'n sylweddoli mai dianc i fyd y pryfetach mae Jim er mwyn dianc oddi wrth ei fyd cythryblus ac yn yr obsesiwn yna y cawn gyfle i adnabod a cheisio deall cymhlethdod ei gymeriad.

    Defnyddio obsesiwn Jim i geisio profi nad yw popeth fel mae'n ymddangos yw'r bwriad mae'n debyg ond mae'r gorddefnyddio'r manylder am sawl rhywogaeth o bryfetach yn arafu taith y stori mewn sawl man, yn enwedig felly ar ddiwedd y rhan gyntaf..

    Cymeriadu lliwgar
    Cryfder amlwg y gwaith yw'r cymeriadu lliwgar sydd yma, ac mae'r dafodiaith yn cryfhau sawl sefyllfa - yn wir, yn achub ambell un.

    Mae Cerys yr eneth ddall yn gymeriad cryf a phendant ac yn ei dallineb yn gweld a deall mwy na llawer, ac yn sicr mae mam Jim ynghanol ei gwendid atgofus yn dangos cryfder tu hwnt i'w sefyllfa fregus.

    Y defnydd cyfrwys o'r cymeriadau sy'n ein galluogi i ddeall peth ar gymeriad cymhleth Jim, ac yn y fan yna mae crefft y nofelydd yn cael ei amlygu.

    Bywiocach
    Fe gefais ail ran y gyfrol yn llawer iawn bywiocach ac fe lwyddwyd i greu sawl sefyllfa sy'n creu awydd am ddarllen ymlaen, ac mae'n rhaid edmygu coethder y dweud yn y cyfanwaith.

    Methais a gweld pwrpas y lluniau sydd ar sawl tudalen gan nad ydynt yn ychwanegu dim at y cymeriadau na chwaith at rediad y stori gref yma, ond mae'r diweddglo fel y dywed Annes Glyn yn ei beirniadaeth, yn iasol.

    Y gor gatalogeiddio sydd wedi arafu peth ar rediad y nofel i mi, ond mae ei newydd-deb i'w groesawu'n fawr.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Pryfed yn drysu'r beirniaid

  • Adolygiad o Esgyrn Bach, Tony Bianchi

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy