大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Harri Parri - meistr ar ei grefft
John Ogwen yn dweud beth sy'n gwneud straeon Harri Parri mor arbennig
Wedi saith llyfr a 42 o straeon mae Harri Parri yn bygwth cau'r drws ar Borth yr Aur - y Gaernarfon ddychmygol a greodd ar gyfer cymeriadau fel Shamus Mulligan, Oli Paent, Cecil Siswrn a'r gweinidog mawr ei faich, Eilir Thomas. Clawr y llyfr

Daeth y cymeriadau hyn a grewyd gan y gweinidog a'r llenor o Ben Ll欧n yn ffefrynnau nid yn unig mewn print ond hefyd ar lafar diolch i ddarlleniadau dyddiol John Ogwen ym Mhabell L锚n yr Eisteddfod Genedlaethol ers deng mlynedd bellach gan gychwyn yn Eisteddfod Meirion 1997.

Harri Parri ei hun fyddai'r cyntaf i dalu teyrnged i John Ogwen am yr hyn a wnaeth yr actor gyda'i straeon - ac ar yr un pryd John Ogwen yw'r cyntaf i gydnabod hefyd ei ddyled yntau i Harri Parri.

Ar achlysur cyhoeddi Er Budd Babis Ballybunion, y seithfed gyfrol yn y gyfres bresennol - mae Harri Parri wedi cyhoeddi dros 15 o lyfrau i gyd - pwy well i ofyn iddo na John Ogwen i s么n am y berthynas hynod o lwyddiannus rhwng yr actor a'r llenor diwyd a ffraeth o weinidog . . .

Meddai John Ogwen:
John Ogwen yn darllen Wedi darllen 42 o straeon Harri Parri yn gyhoeddus medraf ddweud i mi fwynhau pob un ohonynt.

Daeth y penllanw cyflwyno eleni ym Mhabell L锚n Eisteddfod yr Wyddgrug pan ddaeth oddeutu pedair mil o bobl i wrando.

Erbyn hyn mae'r gynulleidfa yn adnabod y cymeriadau cystal 芒 mi a does ond rhaid dweud enw Shamus, Cecil, Howarth, John James o James, James a'i Fab, Cyfreithwyr - neu yn wir unrhyw un o'r cymeriadau lliwgar sy'n britho'r stor茂au - a chlywaf ymateb y gwrandawyr yn syth.

Adnabod y cymeriadau. A dyna i mi gyfrinach yr awdur. Mae o yn adnabod pobl.
Yn adnabod eu cryfderau ac, yn arbennig, eu gwendidau.

A chlust arbennig i roi geiriau ei gymeriadau ar bapur. Pan fydda i yn meddwl am leisiau gwahanol i'r gwahanol gymeriadau y ddeialog sy'n rhoi yr allwedd imi bob tro.

Mae'r ffordd y mae Harri yn ysgrifennu yn awgrymu sut lais sydd gan y cymeriad a thrwy hynny y daw y gynulleidfa i rannu yr adnabyddiaeth.

Y maent nid yn unig yn adnabod cymeriadau'r stori ond cymeriadau tebyg o'u bywyd nhw'i hunain.

Mae i bob ardal rywun tebyg i Shamus a Cecil. A rhai tebyg iawn i Howarth a John James!

Harri Parri yn arwyddo copi o'i lyfr

A'r gwendidau yna.
Pluen, nid gordd, sydd gan Harri. Mae yn dychanu wrth reswm ond mae yna gynhesrwydd yn y portreadau.

Mae'r ffaith fod ei brif gymeriad, Eilir Thomas, y gweinidog, yn ei ddiniweidrwydd yn amlach na pheidio, yn fwy cyfrifol na neb am ei helbulon, yn rhoi rhwydd hynt i Harri wedyn fynd i'r afael 芒 phawb arall.

Mae gan Harri y ddawn hynod o adeiladu at uchafbwynt digwyddiad. Anrheg arbennig i actor sydd yn perfformio'r gwaith.

I nodi dim ond un enghraifft - tudalen 60 o'r gyfrol newydd Er Budd Babis Ballybunion a stori Y Festri Blastig .
Un o'm hoff gymeriadau i, yr hen flaenor byddar Ifan Jones, yn trafod anrhegu Miss Jones, T欧 Capal, am flynyddoedd o wasanaeth i'r 'organ'! Mae wyth punch-line anfarwol o fewn un dudalen. A'r adeiladwaith at bob un yn berffaith.
Profodd ymateb cynulleidfa'r Babell L锚n hynny!

Mi fyddwn yn derbyn y stor茂au drwy'r post o leiaf chwe mis cyn dyddiad eu darllen ac ar waelod y nodyn byddai'r frawddeg; "Os ti'm yn licio un o'r rhain gei di neud un o'r hen rai".

Wnes i erioed. Wrth lansio'r gyfrol uchod - y seithfed - a'r olaf yn 么l yr awdur - fe ddywedodd Harri fod creu yn waith caled. Nid ysgrifennu ond 'creu'. Ar 么l creu 42 o straeon ardderchog am Porth yr Aur mae yn haeddu seibiant.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad o Miss Pringle a'r Tat诺

  • Harri Parri - sgrifennu yn ddihangfa, geiriau yn wyrth

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy