|
Stori Sydyn - cyfres i ddenu darllenwyr Kate Crockett yn bwrw golwg dros y gyfres o lyfrau byrion.
Ymhlith rhestr deg uchaf gwerthwyr gorau llyfrau Cymraeg y Cyngor Llyfrau ym mis Chwefror a Mawrth 2008 mae pedair cyfrol fer iawn - y cyfrolau diweddaraf yn y gyfres Stori Sydyn.
Dyma lyfrau sydd wedi'u hanelu at bobl "sydd wedi colli'r arfer o ddarllen neu sy'n cael anhawster i ddarllen llyfrau hir a chymhleth", yn 么l yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, un o'r cyrff sydd y tu 么l i'r fenter.
Rhyw 100 dudalen o hyd o brint bras yr un yw'r llyfrau, gyda'r iaith yn syml ond heb fod yn nawddoglyd.
Caryl Lewis Y llynedd cyhoeddwyd nofel fer gan Caryl Lewis yn y gyfres hon, Y Rhwyd, ac erbyn hyn mae honno'n cael ei haddasu'n ffilm ar gyfer y sgrin fach.
Mae ei nofel ddiweddaraf, Jackie Jones yn debyg o blesio'r un gynulleidfa.
Mae hi wedi defnyddio'r gyfres i gyhoeddi llyfrau gwahanol iawn i'w nofelau enwocaf, Martha, Jac a Shanco ac Y Gemydd.
Tra bod y ddwy nofel hir honno yn rhai i'w sawru'n araf, gan werthfawrogi'r haenau amryfal wrth eu blasu, byrbrydau yw Jackie Jones ac Y Rhwyd, i'w llarpio'n gyflym ar un eisteddiad ( yn y bath, yn fy achos i...).
Mae'r ddwy nofel yn gryf o ran plot, yn gyfoes ac yn ddinesig, ac yn debyg o apelio at y sawl sy'n hoffi stori sy'n gafael.
Llyfrau ffeithiol Tri llyfr ffeithiol yw'r gweddill i ddod o'r wasg eleni.
"Hanes chwalu cylch cyffuriau mwya'r byd," yw is-deitl dramatig cyfrol Lyn Ebenezer, Operation Julie, sef ymchwiliad yr heddlu wrth i griw o hipis gynhyrchu'r cyffur LSD yn ardal Tregaron ar ddiwedd y 1970au.
Er mai cyfrol fer yw hon mae'r awdur hefyd yn rhoi blas i ni o'r cefndir ehangach gan gynnwys cysylltiadau rhai o fawrion y byd pop fel Bob Dylan a'r Rolling Stones gyda Llanddewi Brefi, ymhell cyn i'r pentref ennill drwg enwogrwydd ar un o gyfresi comedi'r 大象传媒!
Mae'r hanes yn un cymhleth i'w ddilyn ar adegau gan fod cymaint o gymeriadau brith yn rhan o'r darlun ond mae'n stori ddifyr dros ben a chyda'r gyfrol yn agos at frig rhestr gwerthwyr gorau'r Cyngor Llyfrau mae'n amlwg bod digon o bobl yn awchu am gael darllen am y bennod ryfedd hon yn hanes cefn gwlad Cymru.
Cymharu'r gwledydd
Addasiad o gyfres ar Radio Cymru yw Y Gwledydd Bychain gan Bethan Gwanas ac fel yn achos ei gwaith darlledu, mae hi'n rhoi digon o'i phersonoliaeth hi ei hun yn y gwaith i sicrhau bod pwnc digon sych ar bapur - cymharu Cymru gyda Gwlad y Basg, Llydaw a Norwy - ymhell o fod felly.
Does dim ymgais ganddi i gelu ei hysfa i Gymru ddysgu o'r arferion gorau a welodd ar ei theithiau, ac mae'r gyfrol yn gorffen gyda Maniffesto Bethan.
Mae awdur y gyfrol Travels in an Old Tongue hefyd yn ei chael hi gan Bethan am ddiffyg parch at y Cymry tramor - dyma awdures sydd heb fod ofn siarad plaen!
Mewn syrcas Y llynedd cyhoeddodd Gary Slaymaker hunangofiant byr , Y Jobyn Gorau yn y Byd, yn y gyfres yma, a'r tro hwn, darlledwr arall, Derfel Williams, sy'n cael y fraint - ond hanesion brid cwbl wahanol i'r criw cyfryngol a gawn ni yma, gan i Derfel dreulio deng mlynedd yn gweithio ym myd y syrcas ym Mhrydain, ac ar un achlysur cofiadwy, yn Ffrainc.
Dyma godi cwr y llen ar fyd sy'n gwbl anadnabyddus i'r rhan fwyaf ohonom, ac mae gan yr awdur lond y lle o hanesion difyr am ei fywyd yn y ring ac am y cymeriadau lliwgar oedd yn gwmni iddo.
Yn llwyddo? Er bod ambell un o'r cyfrolau hyn yn teimlo fel talfyriad o lyfrau hirach mae'r goreuon - a'r nofelau yn arbennig - yn llwyddo fel gweithiau cyflawn.
O safbwynt darllenydd brwd, maen nhw'n llyfrau perffaith i'w darllen wrth deithio, neu ar ddiwedd diwrnod hir o waith os oes gofyn am lyfr sydd ddim am osod gormod o her.
Gan eu bod ar werth am 拢1.99 yr un, maen nhw'n rhatach na chylchgrawn a byddai'n dda eu gweld ar werth mewn gorsafoedd tr锚n, er enghraifft.
Ond y cwestiwn pwysicaf i'w ystyried mae'n debyg yw a yw'r llyfrau yma'n apelio at y gynulleidfa gywir? Ydy pobl sy'n swil o ddarllen fel arfer yn debygol o godi un o'r cyfrolau hyn?
Cynnal ymchwil Y llynedd cafwyd ymgyrch i ddosbarthu'r llyfrau mewn meddygfeydd, siopau trin gwallt, caffis a thafarndai mewn tair ardal yng Nghymru.
Eleni bydd y cyfrolau'n cael eu dosbarthu i rieni drwy ddisgyblion ysgol - gyda holiaduron i geisio casglu eu hymateb iddyn nhw.
Ni fyddwn yn gwybod a yw'r llyfrau hyn wedi cyrraedd y nod nes bod yr ymchwil hwnnw wedi ei gwblhau.
Cysylltiadau Perthnasol
Rhagor am Stori Sydyn
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|