|
Stori Sara Dwy ochr ysgariad
Adolygiad Linda Edwards o Stori Sara gan Shoned Wyn Jones. Y Lolfa.
Hon yw pedwaredd nofel Shoned Wyn Jones i blant yn eu harddegau. Mae'n dilyn Fory Ddaw, Adlais a Gwirioni a enillodd wobr Tir na n-Og 2002.
Mae'r nofel gyfoes hon wedi cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn rhan o'r gyfres boblogaidd Pen Dafad ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3 Ysgolion Uwchradd.
Athrawes yw'r awdur ac yn Bennaeth Adran y Gymraeg yn ysgol John Bright, Llandudno, ac yn gwybod yn iawn sut mae plant yn adweithio i wahanol sefyllfaoedd.
Mae Stori Sara yn trin tor-priodas ac fel y dywed Shoned, "Roeddwn i'n meddwl y byddai pwnc y nofel yn apelio at yr arddegau, yn enwedig merched, gan mod i fel athrawes yn dod ar draws llawer o blant sydd yn yr un sefyllfa a Sara."
Mae rhieni Sara, disgybl blwyddyn deg, wedi ysgaru a Sara yn byw gyda'i mam. Mae ei thad ar fin priodi eto ac fel pe na byddai hynny'n ddigon drwg, ei ddarpar wraig yw Angela Harris, athrawes Fathemateg yn ysgol Sara!
Felly, daw Sara ar draws ei darpar lysfam newydd bob dydd.
Dydi Sara ddim yn derbyn y sefyllfa o gwbl ac mae'n datgelu llawer o'i theimladau a'i hemosiynau trwy sgwrsio ar y we gyda'i ffrindiau, Gareth a Manon, sy'n cydymdeimlo 芒'i sefyllfa yn y dechrau.
Ond pan fo Sara yn datgelu fod ganddi gynllwyn i ddifetha'r cwbl i'w thad a Miss Harris maent yn ceisio ei darbwyllo.
Ond a wnaiff Sara ymbwyllo - dim peryg. Yn hytrach, mae'n bwriadu defnyddio'i ffrind newydd Sean, bachgen Romani, er mwyn cyflawni ei chynllwyn.
Cred Sara mai ei thad oedd ar fai am y tor-priodas, am iddo adael cartre ond fel y datblyga'r nofel caiff wybod yn wahanol a daw i ddeall fod dwy ochr i'r stori ond dydi hynny'n gwneud dim gwahaniaeth i'w bwriad, fodd bynnag.
Oes yna ddiweddglo hapus i Sara, i'w mam, ac i'w thad a Miss Harris? Byddai datgelu hynny yn difetha'r nofel y credaf y bydd yn boblogaidd iawn gyda disgyblion oed Cyfnod Allweddol 3 Ysgolion Uwchradd.
Bydd llawer ohonynt yn uniaethu 芒 theimladau ac emosiynau Sara ac fel y gobeithia Shoned Wyn Jones "bydd yr ymdriniaeth yn helpu i ddangos fod dwy ochr yn aml mewn sefyllfa lle mae rhieni yn ysgaru".
Mae'n nofel fer a hawdd i'w darllen ac yn cynnwys negeseuon gwe sydd yn si诺r o fynd i lawr yn dda.
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Shoned Wyn Jones
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|