| |
|
|
|
|
|
|
|
Shoned Wyn Jones Awdur llyfrau plant
Enw: Shoned Wyn Jones
Beth yw eich gwaith? Athrawes.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Dim - heblaw am weithio mewn siop gemist adnabyddus yn ystod gwyliau ysgol / coleg!
O ble'r ydych chi'n dod? Ces i ngeni yn Nyffryn Ogwen, fy magu ar Ynys M么n cyn dychwelyd i Ddyffryn Ogwen pan yn 14.
.
Lle鹿r ydych chi'n byw yn awr?
Ym Mangor.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do yn fawr iawn.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf ac a wnewch ddweud ychydig amdano?
Comisiwn gan y Lolfa fel rhan o gyfres Pen Dafad. Nofel i'r arddegau ydi hi sydd yn trin tor-priodas ac yn ceisio dangos bod dwy ochr yn aml mewn sefyllfa o'r fath.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Tair nofel :-Fory Ddaw, Adlais a Gwirioni, a hefyd stori fer yn rhan o gyfres Straeon Siesta.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Roeddwn i wrth fy modd efo llyfrau Enid Blyton yn Saesneg a dwi'n cofio llyfr o'r enw Pwt a Moi (corachod) y cefais fawr fwynhad o'i ddarllen!
A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
Mi ddes i ar draws Pwt a Moi men bocs yn ddiweddar ac mae o nawr ar fy silff lyfrau.
Pwy yw eich hoff awdur?
Mae gen i nifer; Kate Roberts, Saunders Lewis, Sonia Edwards. Ac yn Saesneg Nicci Gerrard, Maggie O'Farrell, Maeve Binchy. Unrhyw beth sy wedi'i sgwnennu'n dda ac yn adrodd stori ddiddorol.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Wythnos yng Nghymru Fydd.
Pwy yw eich hoff fardd?
Eto, mae nifer; Gwenallt, Gwyn Thomas, Gerallt Lloyd Owen, Myrddin ap Dafydd ......
Pa un yw eich hoff gerdd? Y Gwrthodedig, R Williams Parry ac Etifeddiaeth, Gerallt Lloyd Owen.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
'A throesom iaith yr oesau, yn iaith ein cywilydd ni.' (Etifeddiaeth) a ddylai wneud i ni gywilyddio!
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu. Yn eu mysg;
Ffilmiau : Little Women (fersiwn 1958), Notting Hill a Nel.
Rhaglenni teledu : Rownd a Rownd, Caerdydd, 04Wal, Brothers and Sisters, Grey's Anatomy.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad(au) : Siwan a
Wini Ffini Hadog.
Allai ddim meddwl am gas gymeriad.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Rhodd enbyd yw bywyd i bawb.
Pa un yw eich hoff air?
Melys.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Canu'r delyn.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Goddefgar, hapus, annibynnol.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy mod i'n gadael pethau tan y funud olaf!
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Dwi'n edmygu llawer o bobl am nifer o resymau gwahanol ond dwi wir yn edmygu pobl sy'n brwydro yn erbyn salwch difrifol yn ddi-rwgnach.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Rhyddhau Mandela.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Marilyn Monroe - er mwyn cael gwybod beth yn union ddigwyddodd.
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith adref. Er mod i wrth fy modd mynd i ffwrdd byddaf bob amser yn edrych mlaen i ddod gartref.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Pasta gydag eog ac asbaragws mewn saws gwin. Paflofa lemwn, cnau a mafon gyda digon o win da i'w olchi lawr!
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, ysgrifennu, gwrando ar fiwsig, cerdded ar draeth a mwynhau cwmni ffrindiau da!
Pa un yw eich hoff liw?
Glas.
Pa liw yw eich byd?
Melyn.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Addysg am ddim i bawb.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Mae gen i nofel wedi'i gorffen ond cryn waith adolygu arni! Wn i ddim os bydd hi'n gweld golau dydd!
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Yn y dyddiau cyn i bawb yng Nghymru allu siarad Cymraeg . . .
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad o 'Stori Sara'
Adolygiad o 'Gwirioni'
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|