Deg dethol Beth yw eich barn? Beth fyddai eich dewis?
Mae'r beirniaid swyddogol wedi gwneud eu dewis hwy gan enwi'r deg llyfr y maen nhw yn ystyried y rhai gorau a gyhoeddwyd yn ystod 2006.
Ond a yw'r rhestr o ddeg ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2007 yn eich plesio chi?
Pa ddeg llyfr fyddech chi wedi eu dewis?
Oedd y beirniaid swyddogol yn iawn i dorri allan o'r gystadleuaeth y ddwy gyfrol, Cydymaith Caneuon Ffydd a Galwad y Blaidd?
Anfonwch ebost
i ddweud wrthym trwy glicio YMA a rhoi "Llyfr y Flwyddyn" yn bennawd i'ch ebost
Yn barod mae Dafydd Morgan Lewis wedi dweud:
"Mae absenoldeb Dim ond Deud gan Dafydd John Pritchard o restr hir Llyfr y Flwyddyn yn destun siom a syndod.
"Pa mor dda sydd yn rhaid i gyfrol o farddoniaeth fod i ennill lle ar y rhestr?
"Mae cyfrolau o ryddiaith llai trawiadol o dipyn wedi cael eu cynnwys eleni. Ymddengys i mi na roddir llawer o fri ar farddoniaeth heddiw pan ganiateir i rhywbeth fel hyn ddigwydd.
"Gwell efallai fyddai i feirdd ifanc fel Dafydd roi'r gorau i ysgrifennu barddoniaeth a chanolbwyntio ar ryddiaith. Byddai'n fwy tebyg o gael ei werthfawrogi wedyn."