Er i John Morris-Jones ymosod yn ddidrugaredd ar yr Orsedd gan
ddweud fod 'Cymdeithas yr Orsedd yn ddi-fudd, a'i graddau'n ddiwerth, oherwydd y rhwyddineb y gollyngir pob
annheilyngdod iddi. Derbynnir ymgeiswyr yn aelodau drwy arholiad sydd bum gwaith yn haws nag
arholiad isaf Prifysgol Cymru'. Achosodd ei sylwadau rwyg enfawr rhwng y Brifysgol a'r Orsedd. Parhaodd
y rhwyg am chwarter canrif a rhagor.
Er gwaethaf ymosodiadau John Morris-Jones ni allai'r Eisteddfod ei
anwybyddu. Ac yntau'n ysgolhaig o'r radd flaenaf, yn ieithydd penigamp
ac yn arbenigwr ar Gerdd Dafod, ni allai'r Brifwyl wneud hebddo. Bu'n beirniadu cystadleuaeth y Gadair bron bob blwyddyn o droad y ganrif
hyd at ei farwolaeth ym 1929, a cheisiodd arwain y canu caeth o'r diffeithwch yr
oedd ynddo ar y pryd. Beirniadodd yr awdlau yn y 'Steddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn
Eisteddfod Lerpwl, a methodd yn ei ddyfarniad. Enillodd Pedrog y Gadair am awdl ddiflas hir
yn nhraddodiad y ganrif flaenorol. Eifion Wyn oedd y gorau yn 么l Tafolog, ond yr ail yn 么l y ddau feirniad arall, ond . Canodd i'r
bugail fel gwerinwr syml. 'Roedd awdl Eifion Wyn yn seiliedig ar Gwlt y Werin.
Cr锚wr myth y Werin Ddiwylliedig oedd O.M.Edwards, ac 'roedd y ddelwedd o werin ddiwylliedig yn cyd-fynd 么'r ddelwedd o werin
orthrymedig wrth i ysbryd Sosialaeth gyniwair drwy'r tir.
* 'Roedd awdl arloesol Eifion Wyn yn llawer gwell awdl na'r awdl
fuddugol. Canodd yn ddiriaethol glir, gan ymwrthod 芒'r demtasiwn o droi ei fugail yn
weinidog. Bu llawer o feirdd a beirniaid, fel R. Williams Parry, T. E. Nicholas ac E. Prosser Rhys, o'r farn i Eifion Wyn gael
cam mawr ym 1900.
Y Goron
Testun.
Pryddest, 'Williams Pantycelyn'
Enillydd. Job
Beirniaid.
Iolo Caernarfon, Ben Davies a Glanystwyth (John Hughes)
Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.