大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1967 - 1979

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod              Y Fflint

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Blwyddyn yr Arwisgo yng Nghaernarfon.
  • Dau aelod o Fyddin Rhyddid Cymru yn marw mewn ffrwydrad yn Abergele, a chwech arall gerbron y llys yn Abertawe am fod ag arfau yn eu meddiant; dau o'r rhain yn cael eu carcharu.
  • Neil Armstrong yn glanio ar y lleuad.
  • Gwrthdystio yn Pr芒g wedi i Jan Palach ei losgi ei hun i farwolaeth mewn protest yn erbyn goresgyniad Rwsia.
  • De Gaulle yn ymddiswyddo fel Arlywydd Ffrainc.
    Newyn yn Biaffra.
  • Brwydro, lladd ac anafu mewn terfysgoedd enwadol yng Ngogledd Iwerddon a milwyr Prydeinig yn ceisio cadw'r ddwy ochr ar wah芒n.
  • Protestwyr gwrth-apartheid yn protestio yn erbyn taith gan d么m rygbi De Affrica yn Abertawe a Twickenham.
  • Cau chwarel lechi Dinorwig.
  • Gwasanaeth fferi Abertawe-Cork yn cychwyn.
    Dyrchafu Abertawe yn ddinas.
  • 400,000 yng ng^wyl Woodstock, a 150,000 arall yn mynd i wrando ar Bob Dylan mewn g^wyl yn Ynys Wyth a mwynhau rhyw, 'dope' a 'rock and roll'.
    Gaddafi yn dod i rym yn Libia.
  • ITV yn dechrau darlledu mewn lliw.
  • 大象传媒 yn dechrau darlledu Monty Python's Flying Circus.
  • Cyflog gweithiwr fferm yn codi o 15/- (75c) i 拢13.3.0 (拢13.15).
  • Ho Chin Minh, Judy Garland a Boris Karloff yn marw.

Archdderwydd               Gwilym R. Tilsley

Y Gadair

Enillydd: James Nicholas
Beirniaid: Geraint Bowen, T. Llew Jones, Gwilym R. Tilsley
Cerddi eraill: Emrys Roberts, John Gwilym Jones (Prifardd y Gadair, 1981), G. J. Roberts (a fu farw yn fuan ar 么l iddo gwblhau'r awdl) a Mathonwy Hughes.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Awdl grefftus iawn am rai o gerfluniau Henry Moore.

Y Goron

Testun: Dilyniant o gerddi, heb eu cyhoeddi, yn ymwneud 芒 bywyd cyfoes
Enillydd: Dafydd Rowlands ('I Gwestiynau fy Mab')
Beirniaid: Euros Bowen, J. M. Edwards, Gwyn Thomas

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Dilyniant o gerddi gwefreiddiol a gafwyd gan Dafydd Rowlands. Lluniodd gerddi am bynciau cyfoes ar y pryd fel y gwrthdystio yn erbyn y Rwsiaid ym Mhr芒g, protestiadau Cymdeithas yr Iaith, yn ogystal 芒'r ysbryd protestgar byd-eang yn y cyfnod, y glanio ar y lleuad ym 1969, Fietnam, y newyn yn Biaffra, ac yn y blaen. 'Roedd ganddo ei lais ei hun a'i idiom ei hun, llais dychanol, telynegol, cyfareddol. Llwyddodd y cerddi hyn i lusgo cystadleuaeth y Goron o'r merddwr yr oedd ynddo ar y pryd, a rhoi nod a chyfeiriad pendant i feirdd rhydd y dyfodol. Ar 么l llwyddiant Eisteddfod Y Fflint ymsefydlodd y dilyniant yng nghystadleuaeth y Goron, a chafwyd sawl dilyniant llwyddiannus o 1969 ymlaen.

Y Fedal Ryddiaith

Gwaith creadigol, ar unrhyw ffurf lenyddol, yn dangos tyndra rhwng dyn a'i gydwybod.
Enillydd: Emyr Jones (Grym y Lli); gwobr ychwanegol o 拢40 i John Rowlands
 
Tlws y Ddrama

Drama hir
Enillydd: John R. Evans (拢50 o'r 拢100 a'r Tlws); 拢25 i Tom Parry-Jones a 拢25 i Urien Wiliam

 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy