´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Yr oes oer

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Yn Aberteifi y traddododd Lloyd George ei araith eisteddfodol olaf. Gyda'r Pwyllgor Ymgynghorol i Gymru newydd ei sefydlu i warchod buddiannau'r genedl ar ôl y Rhyfel, ailgydiodd yn hen ddelfrydau dyddiau Cymru Fydd, er nad oedd ganddo lawer o ffydd yn y Blaid Genedlaethol: ' Y mae llawer o waith i'w wneud yng Nghymru gyda'i hanheddau, ei thir, ei hiaith, ei llafur a hunan-lywodraeth. Yr ydym wedi blino ar gael ein llywodraethu o Whitehall, Nid ydynt yn deall ein hysbryd. Pwy a gymer ofal o hynny?'

Gwaeddodd llais o'r gynulleidfa: ' y Blaid Genedlaethol!'

Ymatebodd Lloyd George i s^wn chwerthin y gynulleidfa: ' Wel, fe allant helpu, Duw a'u helpo!' Parhaodd: 'Ni wn i pa bryd y mae'r rhyfel hwn am derfynu. Efallai fod y diwedd yn ymyl. Efallai ein bod ar hanner y ffordd, efallai mai dechrau y mae; ond fe fydd diwedd iddo. Bydd Cymru'n aros wedyn. Fel cenedl fechan nid ydym wedi gorffen ein gwaith eto. Nid ydym ond yn dechrau. Rhaid inni'n disgyblu ein hunain. Rhaid inni wylio fod Cymru yn mynd ymlaen wedi'r rhyfel fel y bo cenedl fach yn gallu dod yn fwyaf drwy ymdrechion ei fforddolion'.

ymlaen...

 

Radio a Teledu

 
 

Bwriadwyd cynnal Eisteddfod 1943 yn Llangefni, ond cafodd ei symud i Fangor ar gais y Gweinidog Trafnidiaeth. Oherwydd prinder metal, medalau yn hytrach na Chadair a Choron oedd y wobr i Brifeirdd Eisteddfod Bangor. 'Roedd angen y metal i greu arfau. Erbyn y cyfnod hwn 'roedd yr eisteddfodwyr a oedd yn y Lluoedd Arfog wedi mynd ’'r eisteddfod ar daith lawer ymhell y tu hwnt i'w chyffiniau arferol. 'Roedd y bechgyn yn cadw'r hen draddodiad ac yn cynnal eisteddfodau mewn lleoedd fel Yr Aifft.

Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol yn Cairo ym 1943. Ymhell cyn ei chynnal, 'roedd proffwydo mawr mai Eisteddfod LlandybÔe ym 1944 fyddai Eisteddfod y Fuddugoliaeth, y gyntaf i'w chynnal ar ôl y Rhyfel. Ond nid felly y bu, a bu'n rhaid aros am rai misoedd cyn i heddwch ddod i Ewrop. Wedi hynny datgelwyd gweithredoedd mwyaf dieflig dyn mewn gwersylloedd-crynhoi fel Auschwitz a Belsen. Darlledodd y ´óÏó´«Ã½ chwe awr a hanner o weithgareddau Eisteddfod LlandybÔe. Ond 'doedd rhai ddim yn fodlon. Dadleuodd Gwynfor Evans yn gryf o blaid Corfforaeth Radio Gymreig yng nghyfarfod Undeb Cymru Fydd yn LlandybÔe. 

Buddigoliaeth a Bom

Daeth yr Ail Ryfel Byd i ben yn Ewrop ym mis Mai 1945. Ond 'roedd y Rhyfel rhwng Siapan a'r Cynghreiriad yn dal i lusgo ymlaen. Bellach 'roedd America yn chwilio am derfyn buan i'r holl ymrafael.

Gollyngwyd y bom atomig ar Hiroshima ar ddydd Llun agoriadol Eisteddfod Rhosllannerchrugog, a'r bom ar Nagazaki ar ddydd Iau. Cyrhaeddodd y newyddion fod Siapan wedi ildio ar ddydd Gwener. Pan gyhoeddwyd yn yr Eisteddfod y newyddion fod Siapan wedi ldio aeth y dorf yn dawel, ac yna safodd pawb ar ei draed a chanu 'Cyfamod Hedd, Cyfamod Cadarn Duw' a chynigiodd Elfed weddi. Dyma un arall o olygfeydd gwefreiddiol yr Eisteddfod yr ugeinfed ganrif.

ymlaen...



About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy