Ymddengys mai'r cyn ymosodwr, Oliver Bierhoff, sydd bellach yn rhan o d卯m hyfforddi'r Almaen, oedd canolbwynt atgasedd yr Archentwyr.
A chafodd y dyfarnwr, Lubos Michel o Slofacia, a nifer o swyddogion Fifa eu dal yn y cythrwfl.
Dywedodd Bierhoff wrth sianel deledu yn Yr Almaen: "Mae cefnogwyr wedi profi eu bod yn gallu cyd-dynnu. Fe ddylem ninnau fel chwaraewyr allu wneud yr un peth."
Cafodd sawl dwrn a chic eu taflu mewn golygfeydd anghredadwy barhaodd am bron i ddau funud ar y maes yn Berlin.
Dechreuodd y digwyddiadau wrth i chwaraewr canol cae;r Almaen, Tim Borowski, wneud ystumiau tuag at yr Aerchentwyr i "fod yn ddistaw" wedi iddo rwydo y bedwaredd cic o'r smotyn i roi'r t卯 cartref 4-2 ar y blaen.
Dechreuodd nifer o'r Archentwyr gerdded tuag ato a phan arbedwyd cic olaf Ariannin, camodd amddiffynnwr Ariannin, Fabricio Coloccini, tuag at Oliver Neuville o'r Almaen.
Taflwyd sawl dwrn cyn i'r swyddogion a'u cyd chwaraewyr gamu i'r adwy.
"Mae'n bechod bod lluniau fel hyn wedi mynd o gwmpas y byd," ychwanegodd Bierhoff, oedd yn honni iddo geisio gwahanu'r chwaraewyr wedi eilydd o Ariannin sefyll ar amddiffynnwr Yr Almaen, Per Mertesacker.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |