"Fy nymuniad yw cael dychwelyd at fy nheulu a byw bywyd cyffredin gyda hwy," meddai Klinsmann, sydd yn byw yng Nghaliffornia.
"Wedi dwy flynedd brysur, nid wyf yn teimlo mod gennyf y gallu a'r cryfder i barhau yn yr un modd."
Bu Loew yn gynorthwyydd Klinsmann yn ystod y ddwy flynedd y bu'n hyfforddwr, ac fe fydd yn awr wrth y llyw ar gyfer ymgyrch Ewro 2008, gyda Chymru ymysg eu gwrthwynebwyr.
"Yr opsiwn synhwyrol oedd gofyn i Joachim arwain y t卯m. Rwy'n falch awn ei fod wedi derbyn yr her."
Roedd holl aelodau carfan Yr Almaen yng Nghwpan y Byd yn ogystal 芒 93 y cant o Almaenwyr yn awyddus i weld Klinsmann yn parhau.
Cyn y gystadleuaeth fe gafodd y cyn ymosodwr ei feirniadu oherwydd ei benderfyniad i fyw yn Yr Unol Daleithiau.
Bu pwysau arno oherwydd canlyniadau siomedig Yr Almaen wrth iddynt baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.
Ond wedi i'r Almaen orffen yn drydydd yng Nghwpan y Byd, roedd Klinsmann yn arwr cenedlaethol.
Mae Klinsmann wedi gwrthod adroddiadau bod yr Unol Daleithiau wedi cynnig swydd iddo, gan ddweud nad oes ganddo ddiddordeb mewn hyfforddi unrhyw wlad arall.
|