Ond nid yw cyn gapten Ffrainc yn edifar gwneud hynny, gan honni mewn cyfweliad teledu i'r Eidalwr ei bryfocio drwy sarhau ei fam a'i chwaer.
"Yr oedd hi'n anesgusodol. Rwy'n ymddiheuro," meddai Zidane mewn cyfweliad teledu.
"Ond ni allwn ddifaru'r hyn wnes i oherwydd bydde hynny'n golygu yr oedd yn iawn i ddweud yr hyn ddywedodd."
Mewn ymateb, roedd Materazzi yn gwadu ei fod wedi dweud unrhywbeth am fam Zidane.
"Ni soniais unrhywbeth am grefydd, gwleidyddiaeth neu hiliaeth," meddai Materazzi.
"Gwnes i ddim sarhau ei fam. Collais fy mam pan oeddwn yn 15 mlwydd oed ac rwy'n emosiynol bob tro rwy'n son amdani.
"Yn naturiol nid oedd yn ymwybodol fod ei fam yn yr ysbyty, ond rwy'n dymuno'n dda iddi.
"Mae Zidane yn arwr i mi ac wedi ei edmygu erioed."
Gwelodd Zidane y cerdyn coch am benio Materazzi yn ystod amser ychwanegol y rownd derfynol yn Berlin.
Dywedodd Zidane, sydd wedi ymddeol o b锚l-droed wedi'r rownd derfynol ddydd Sul, y dylai Materazzi gael ei gosbi am ei ran yn y digwyddiad.
Bydd Fifa yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad ac mae'r llywydd Sepp Blatter wedi dweud y gall Zidane golli gwobr y B锚l Aur.
Dywed Materazzi na ddylai Zidane golli'r anrhydedd er gwaetha'r digwyddiad ddydd Sul.
Mae Fifa wedi cadarnhau y bydd Materazzi a Zidane yn wynebu panel disgyblu ar Orffennaf 20.
|