Cynhaliwyd Cwpan y Byd 1934 yn Yr Eidal - Sweden oedd yr unig wlad arall i geisio am y fraint i gynnal y bencampwriaeth - ond roedd cysgod ffasgaeth yn amlwg wrth i'r unben, Benito Mussolini,听geisio defnyddio'r gystadleuaeth i ledaenu neges wleidyddol.
Lleoliad | 听Yr Eidal | Timau | 16 | Pencampwyr | 听Yr Eidal | Prif Sgoriwyr | Edmund Conen听![Yr Almaen (baner hyd at 1935) Yr Almaen (baner hyd at 1935)](/staticarchive/032ce2a0c19962c7869c4d687d8ea0fce0ceacfc.png) Oldr茂ch Nejedl媒 ![Tsiecoslofacia Tsiecoslofacia](/staticarchive/0e7c49f931e044b2478909c5153ba120d285a258.png) Angelo Schiavio ![Yr Eidal (baner hyd at 1946) Yr Eidal (baner hyd at 1946)](/staticarchive/765412d6ae905f38bd6d68acfc92dea5c572eb6d.png) ![Yr Eidal (baner hyd at 1936) Yr Eidal (baner hyd at 1936)](/staticarchive/765412d6ae905f38bd6d68acfc92dea5c572eb6d.png) 4听g么l | Dyma oedd y bencampwriaeth cyntaf lle roedd rhaid i'r timau fynd trwy gemau rhagbrofol er mwyn cyrraedd y rowndiau terfynol yn Yr Eidal.
Ac am yr unig dro yn hanes Cwpan y Byd, bu rhaid i'r Eidal chwarae g锚m rhagbrofol er mai nhw oedd yn cynnal y gystadleuaeth.
Yn ffodus i Fifa - a Mussolini - llwyddodd yr Eidalwyr i drechu Gwlad Groeg a sicrhau eu lle yn y bencampwriaeth.
Gwrthododd Wrwgw谩i 芒 theithio i amddiffyn eu coron oherwydd y diffyg timau Ewropeaidd oedd yn Wrwgw谩i pedair blynedd yn gynharach.
Roedd hynny'n golygu mai'r Ariannin, Brasil, America a'r听Aifft听oedd yr unig dimau o du allan i Ewrop yn y gysatdleuaeth.
A cholli oedd hanes y pedwar yn y rownd agoriadol gan adael wyth t卯m Ewropeaidd i frwydro yn rownd yr wyth olaf.
Yr Eidal oedd yn fuddugol yn y rownd derfynol听wrth iddynt drechu Tsiecoslofacia 2-1 wedi amser ychwanegol.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |