Wrth i Fifa ddathlu hanner can mlwyddiant o fodolaeth, penderfynwyd cynnal Cwpan y Byd 1954 yng nghartref ei phencadlys. Lleoliad | 听Y Swistir | Timau | 16 | Pencampwyr | 听Gor. Almaen | Prif Sgoriwyr | S谩ndor Kocsis听![Hwngari Hwngari](/staticarchive/32736bca623736f6e882b1b5758a90f69629994a.png) 11听g么l |
Roedd y bencampwriaeth yn llawn goliau gyda 140 yn cael eu rhwydo mewn 26 g锚m ar gyfartaledd o bron i chwe g么l pob g锚m.
Llwyddodd Gorllewin Yr Almaen i sicrhau buddugoliaeth syfrdanol yn y rownd derfynol yn erbyn t卯m enwog Hwngari oedd yn cynnwys chwaraewyr fel Ferenc Puskas, Sandor Kocsis a Jozsef Bozsik.
Wedi llwyddo i chwalu Gorllewin yr Almaen 8-3 yn y rownd agoriadol, roedd Hwngari, oedd heb golli g锚m ers pedair blynedd ac yn bencampwyr y Gemau Olympaidd, yn ffefrynnau clir.
Ond er iddynt fynd 2-0 ar y blaen yn gynnar yn y rownd derfynol, llwyddodd Max Morlock a Helmut Rahn (2) i sicrhau buddugoliaeth annisgwyl i'r Almaenwyr mewn g锚m sy'n cael ei hadnabod fel Das Wunder von Bern (Gwyrth Bern).
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |