Llwyddodd Yr Ariannin i ennill Cwpan y Byd ar eu tomen eu hunain, 48 mlynedd wedi iddynt gystadlu am y tro cyntaf, ond roedd y bencampwriaeth yn un dadleuol ar y maes ac oddi ar y maes. Lleoliad | 听Yr Ariannin | Timau | 16 | Pencampwyr | 听Yr Ariannin | Prif Sgoriwyr | Mario Kempes听 6听g么l |
Dwy flynedd cyn y bencampwriaeth cafwyd chwyldro yn y wlad welodd y fyddin yn dwyn grym.
Roedd nifer o wledydd yn cwestiynu os dylent gymryd rhan yn y bencampwriaeth, ond yn y diwedd dim ond seren yr Iseldiroedd, Johan Cruyff, wrthododd 芒 theithio i'r Ariannin.
Ar y maes, cafwyd honiadau fod rhai gemau wedi eu trefnu a rhai timau wedi eu llwgrwobrwyo ac ni ddathlwyd rhyw lawer ar lwyddiant y t卯m cartref tu allan i'r Ariannin.
Gadawodd Yr Alban am Yr Ariannin gyda miloedd o'r Tartan Army yn heidio i faes awyr Prestwick er mwyn ffarwelio 芒 nhw wedi'r rheolwr, Ally McLeod, ddatgan fod ei d卯m yn mynd i ennill y Gwpan.
Ond roedd y bencampwriaeth yn embaras llwyr i'r Albanwyr er iddynt drechu'r Iseldiroedd yn y g锚m olaf o'r gr诺p, wedi iddynt golli yn erbyn Peru a chael g锚m gyfartal ag Iran.
Wedi'r gr诺p agoriadol, aeth yr Iseldiroedd ymlaen i gyrraedd y rownd derfynol gan orffen ar frig Gr诺p Ac wedi trechu Awstria 5-1 a'r Eidal 2-1, a chan sicrhau g锚m gyfartal 2-2 芒'r deiliaid, Gorllewin yr Almaen.
Yr Ariannin a Brasil oedd yn brwydro i orffen ar frig yr Gr诺p B ac roedd angen buddugoliaeth o bedwar g么l ar y t卯m cartref yn erbyn Peru yn eu g锚m olaf er mwyn sicrhau eu lle yn y rownd derfynol.
Nid oedd yn broblem wrth i'r Archentwyr chwalu Peru 6-0, gyda Mario Kempes yn sgorio dwy.
Aeth Kempes ymlaen i rwydo dwy g么l arall yn y rownd derfynol wrth i'r Ariannin drechu'r Iseldiroedd 3-1 wedi amser ychwanegol.
|