Am y tro cyntaf yn hanes y bencampwriaeth,听roedd 24 o dimau yn cael lle yn y rowndiau terfynol -听wyth yn fwy na chymrodd ran yn Yr Ariannin ym 1978. Lleoliad | 听Sbaen | Timau | 24 | Pencampwyr | Yr Eidal | Prif Sgoriwyr | Paolo Rossi听 6 g么l |
Roedd Algeria, Camer诺n, Honduras, Kuwait a Seland Newydd yn y rowndiau terfynol am y tro cyntaf erioed, ond nid oedd Yr Iseldiroedd, gyrhaeddodd y rownd derfynol ym 1974 a 1978, yn bresennol.
Ond Paolo Rossi o'r Eidal oedd seren y bencampwriaeth wrth iddo gipio'r esgid aur ac ysbrydoli'r Eidal i gipio'r Gwpan am y trydydd tro yn eu hanes.
Roedd Rossi newydd ddychwelyd wedi gwaharddiad o ddwy flynedd yn dilyn sgandal fetio yng nghlwb Perugia, ond roedd ar d芒n a chafodd ei enwebu'n Chwaraewr y Flwyddyn yn Ewrop ym 1982.
Ond, nid oedd unrhyw arwydd bod Rossi a'r Eidal yn mynd i wneud argraff ar y gystadleuaeth wedi tair g锚m gyfartal yn erbyn Gwlad Pwyl, Camer诺n a Peru.
Yn y grwpiau eraill, llwyddodd Gogledd Iwerddon i synnu'r t卯m cartref a gorffen ar frig eu gr诺p, a sicrhaodd Bryan Robson ei le yn y llyfrau hanes 芒'r g么l gyflymaf yn hanes y gystadleuaeth - 27 eiliad yn erbyn Ffrainc.
Ond daeth digwyddiad mwyaf od y bencampwriaeth wrth i d卯m Kuwait gerdded oddi ar y maes yn eu g锚m yn erbyn Ffrainc gan honni iddynt glywed chwiban cyn i'r Ffrancwyr sgorio.
Wedi ffraeo a dadlau hir rhwng y t卯m, llywydd Cymdeithas B锚l-droed Kuwait a'r dyfarnwr, newidiodd y dyfarnwr o'r Undeb Sofietaidd ei feddwl gan wrthod y g么l.
Llwyddodd Ffrainc i ennill y g锚m 4-1.
Yn yr ail rownd, taniodd Yr Eidal wrth drechu'r Ariannin ac yna Brasil gyda Rossi'n cipio hat-trick cyn maeddu Gwlad Pwyl yn y rownd gyn derfynol.
Yn y rownd derfynol arall, llwyddodd Yr Almaen i ennill ar giciau o'r smotyn yn erbyn Ffrainc mewn g锚m sydd yn cael ei gofio am dacl erchyll golwr yr Almaenwyr, Harald Schumacher ar Patrick Battiston welodd y Ffrancwr yn gadael y maes wedi ei daro'n anymwybodol.
Wedi eu hyt a helyntion yn y rownd gynderfynol, roedd yr Almaenwyr yn amlwg wedi blino ac o'r herywdd, roedd yn rownd derfynol unochrog iawn.
Aeth Yr Eidal 3-0 ar y blaen cyn i Orllewin yr Almaen rwydo g么l gysur hwyr.
|