Roedd Cwpan Y Byd 1986 i fod i gael ei lwyfannu gan Colombia, ond ym 1983, wedi llywodraeth y wlad ddatgan nad oeddent yn gallu fforddio cynnal y bencampwriaeth, fe'i symudwyd i Mecsico. Lleoliad | Mecsico | Timau | 24 | Pencampwyr | Yr Ariannin | Prif Sgoriwr | Gary Lineker 6 g么l |
Ond bu bron i'r dim i Mecsico orfod ildio'r fraint hefyd wedi daeargryn enfawr daro'r brifddinas, Mexico City, wyth mis yn unig cyn i'r bencampwriaeth gychwyn. Ond, gan nad oedd yr un stadiwm wedi eu difrodi gan y daeargryn, penderfynwyd parhau 芒'r paratoadau.
Llwyddodd Canada ac Irac i gyrraedd y rowndiau terfynol am yr unig dro yn eu hanes, hyd yma.
Ac wedi'r bencampwriaeth gychwyn, dim ond un enw oedd ar wefusau pawb - Diego Armando Maradonna.
Profodd Maradona bod awch un dyn yn gallu gyrru t卯m cymharol gyffredin yr holl ffordd i'r rownd derfynol a chipio prif wobr y byd p锚l-droed. A daeth ei berfformiad mwyaf cofiadwy yn y g锚m yn erbyn Lloegr yn rownd yr wyth olaf yn yr Estadio Azteca, Mexico City.
Wedi chwe munud o'r ail hanner a chyda'r g锚m yn ddi-sg么r, manteisiodd Maradonna ar gamgymeriad gan amddiffynnwr Lloegr, Steve Hodge.
Trodd Hodge y b锚l dros ei ben i ganol y cwrt cosbi a llwyddodd Maradonna (5tr 6 mod) i droi'r b锚l dros ben y golwr, Peter Shilton (6tr 1 mod), trwy ddefnyddio ei law - yr enwog 'Hand of God'.
Ac i fawr syndod y Saeson, fe ganiatawyd y g么l gan y dyfarnwr o Tunisia, Ali Bin Nasser.
Ond tri munud yn ddiweddarach daeth ail g么l i Maradonna oedd yn profi ei allu wrth iddo garlamu a dawnsio o'i hanner ei hun, heibio pump o Saeson, cyn claddu'r b锚l yng nghornel isaf y rhwyd.
Wedi trechu Gwlad Belg yn y rownd gynderfynol roedd Maradona a'r Archentwyr i wynebu Gorllewin yr Almaen yn y rownd derfynol.
Roedd yr Almaenwyr wedi curo'r t卯m cartref a Ffrainc ar y ffordd i'r rownd derfynol ac yn benderfynol o wneud yn iawn am y siom o golli i'r Eidal ym 1982.
Ond llwyddodd Maradona i ysbrydoli ei d卯m unwaith wrth i goliau gan Jose Luis Brown ac Jose Valdano roi'r Archentwyr 2-0 ar y blaen.
Ac er i Karl-Heinz Rummenigge a Rudi V枚ller ddod 芒 Gorllewin yr Almaen yn gyfartal, rhwydodd Jorge Burruchaga chwe munud cyn y diwedd i sicrhau'r gwpan.
|