Cynhaliwyd pencampwriaeth 1990 yn Yr Eidal - yr ail wlad i gynnal y gystadleuaeth am yr ail dro - a llwyddodd Gorllewin Yr Almaen i ennill un o'r pencampwriaethau mwyaf di-fflach yn hanes y gystadleuaeth. Lleoliad | Yr Eidal | Timau | 24 | Pencampwyr | Gorll. Almaen | Prif Sgoriwr | Salvatore Schillachi ![Yr Eidal Yr Eidal](/staticarchive/c998f29efef429057e27c284b017d5ef9b86194f.png) 6 g么l |
Roedd Iwerddon, Costa Rica a'r UAE yn ymddangos yn y rowndiau terfynol am y tro cyntaf erioed.
A llwyddodd gwyr Jack Charlton i greu mymryn o hanes gan sicrhau eu lle yn yr ail rownd wrth i Fifa dynnu eu henwau allan o het.
Gorffennodd Iwerddon 芒 thair g锚m gyfartal yn eu gr诺p yn erbyn yr Iseldiroedd, Lloegr a'r Aifft.
Ac wedi'r Iseldiroedd orffen 芒'r un nifer o bwyntiau 'r un gwahaniaeth goliau, bu rhaid i Fifa dynnu enw allan o'r het i sicrhau pwy fyddai'n cael yr ail safle yn y gr诺p.
Y Gwyddelod oedd yn lwcus ac, wedi trechu Romania ar giciau o'r smotyn yn yr ail rownd, collodd Iwerddon yn erbyn yr Eidal yn Rhufain yn rownd yr wyth oaf.
T卯m arall greodd mymryn bach o hanes oedd Camer诺n, y t卯m cyntaf erioed o Affrica i gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Ond, er iddynt orfodi amser ychwanegol, colli oedd hanes t卯m Roger Milla yn erbyn Lloegr ac aeth y Saeson o fewn trwch blewyn i gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf ers 1966.
Ond llwyddodd Gorllewin yr Almaen i ennill ar giciau o'r smotyn a sicrhau eu bod yn gallu talu'r pwyth yn 么l yn erbyn Yr Ariannin am golli yn y rownd derfynol pedair blynedd yn ddiweddarach.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |