Am y tro cyntaf erioed, roedd 32 o dimau yn cael eu lle yn y rowndiau terfynol wedi Fifa ganiatau llefydd ychwanegol i dimau o Affrica ac Asia a Chanolbarth America. Lleoliad | 听Ffrainc | Timau | 32 | Pencampwyr | 听Ffrainc | Prif Sgorwyr | Davor听艩uker听 6 g么l |
O'r herwydd, roedd Siapan, De Affrica a Jamaica yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yng Nghwpan y Byd.
Ac yn dilyn cwymp yr hen Iwgoslafia, roedd Croatia yn ymddangos am y tro cyntaf hefyd.
Llwyddodd Nigeria i drechu Sbaen yn eu g锚m agoriadol, ac er i'r Sbaenwyr chwalu Bwlgaria 6-1 yn eu g锚m olaf, llwyddodd Paragwai i drechu Nigeria a sicrhau bod y Sbaenwyr yn dychwelyd adref yn gynnar.
Ond yng ng锚m fwyaf tanllyd y rowndiau agoriadol llwyddodd Iran i drechu America 2-1 diolch i goliau Hamid Estili a Mehdi Mahdavikia.
Yn yr ail rownd, llwyddodd Laurent Blanc i rwydo yr unig g么l aur yn hanes y bencampwriaeth wrth i'r t卯m cartref drechu Paragwai a llwyddodd Yr Ariannin i drechu 10-dyn Lloegr ar giciau o'r smotyn wedi g锚m danllyd yn St Etienne.
Synnwyd y byd p锚l-droed wrth i Croatia drechu'r Almaen 3-0 yn rownd yr wyth olaf a rhoddodd d卯m Miroslav Blazevic fraw i Ffrainc yn y rownd gynderfynol hefyd.
Llwyddodd Davor 艩uker i roi Croatia ar y blaen ond rhwydodd Lilian Thuram ddwy g么l i sicrhau eu lle yn y rownd derfynol.
Brasil oedd gwrthwynebwyr y Ffrancwyr wedi iddynt drechu'r Iseldiroedd ar giciau o'r smotyn.
Ond roedd dryswch mawr cyn y rownd derfynol ym Mharis wedi newyddion syfrdanol fod seren Brasil, Ronaldo, wedi ei adael allan o'r t卯m.
Ond wrth i'r wasg ddarlledu'r newyddion i bedwar ban byd, cafwyd cywiriad i'r rhestr timau a'r tro hyn, roedd y g诺r o Frasil wedi ei gynnwys wedi'r cwbwl.
Roedd y g锚m ei hun yn gwbl ddi-fflach wedi'r holl gyffro cyn y chwiban gyntaf, a llwyddodd Zinedine Zidane i rwydo ddwywaith cyn i Emmanuel Petit ychwanegu trydedd g么l i sicrhau buddugoliaeth cartref.
|