Roedd yr Archentwyr yn anffodus i beidio mynd ar y blaen wedi chwarter awr wrth iddi ymddangos fod golwr Les Elephants, Jean-Jacques Tizie, wedi gadael y b锚l groesi'r llinell g么l cyn ei dynnu'n 么l.
Ond fe aeth y gwyr o Dde America ar y blaen 10 munud yn ddiweddarach wrth i Hernan Crespo droi cic rydd Juan Riquelme i gefn y rhwyd.
Dyblwyd eu mantais wedi 37 munud wrth i Riquelme fwydo Javier Saviola i rwydo'n hyfryd ac er i Didier Drogba roi llygedyn obaith i'r gw欧r o orllewin Affrica naw munud o'r diwedd, llwyddodd yr Archentwyr i ddal ymlaen i fachu'r triphwynt.
TIMAU
Ariannin: Abbondanzieri, Burdisso, Ayala, Heinze, Sorin, Maxi,
Mascherano, Cambiasso, Riquelme, Saviola, Crespo. Eilyddion: Aimar,
Coloccini, Cruz, Cufre, Franco, Gonzalez, Messi, Milito,
Palacio, Scaloni, Tevez, Ustari.
Cote d'Ivoire: Tizie, Eboue, Kolo Toure, Meite, Boka, Akale,
Zokora, Kalou, Keita, Gneri Yaya Toure, Drogba. Eilyddion: Barry,
Demel, Dindane, Domoraud, Fae, Gnanhouan, Arouna Kone,
Bakari Kone, Kouassi, Romaric, Yapi Yapo, Zoro.
Dyfarnwr: Frank De Bleeckere (Gwlad Belg)
|