Popeth fydd angen i chi wybod am d卯m Yr Iseldiroedd ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Gr诺p C: v Serbia a Montenegro 11 Mehefin 1400 BST, Leipzig
v Cote d'Ivoire 16 Mehefin 1700 BST, Stuttgart
v Yr Ariannin 21 Mehefin 2000 BST, Frankfurt
Mae'n deg dweud fod Marco van Basten wedi creu t卯m da iawn yn Yr Iseldiroedd ers cymryd yr awennau ym mis Gorffennaf 2004.
Ac nid yw cyn arwr yr Oranje wedi bod ofn gadael s锚r fel Clarence Seedorf, Patrick Kluivert, Edgar Davids a Mark van Bommel allan o'i d卯m pan nad oeddent yn perfformio.
Cyrhaeddodd Yr Iseldiroedd Gwpan y Byd heb golli g锚m yng Ngr诺p 1, ond mae diffyg profiad rhai aelodau'r garfan yn boen meddwl i van Basten, tra bo ei brif seren, Arjen Robben wedi ei anafu'n aml.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Y '70au oedd oes aur Yr Iseldiroedd, cyfnod cyffrous 'Total Football' pan fo enwau Johan Cruyff, Johan Neeskens a'r brodyr Ren茅 a Willy van de Kerkhoff yn gyfarwydd i pob cefnogwr p锚l-droed.
Cyrhaeddodd yr Oranje y rownd derfynol ddwywaith yng Ngorllewin yr Almaen ym 1974 ac Yr Arianin ym 1978, ond iddynt golli yn erbyn y timau cartref.
Dyma fydd yr wythfed tro i'r Iseldiroedd gystadlu yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd, ond nid oeddynt yn bresennol bedair blynedd yn 么l yn y Dwyrain Pell.
S锚r y T卯m: Yn ogystal ag asgellwr chwith Chelsea, Arjen Robben, mae'r hen ben, Phillip Cocu, yn allweddol i'r Iseldiroedd yng nghanol cae.
Penderfynodd Cocu barhau 芒'i yrfa rhyngwladol wedi Ewro 2004, er i van Basten benodi'r golwr, Edwin van der Sar, yn gapten yn ei le.
A bydd cefnogwyr Manchester United yn ymwybodol iawn o allu Ruud van Nistelrooy, rwydodd saith g么l yn ystod y gemau rhagbrofol.
|