Aeth Togo ar y blaen wedi hanner wrth i Mohammed Kader gamu i'r cwrt cosbi a tharo ergyd hyfryd ar draws y g么l aeth i fewn oddi ar y postyn.
Ond yn yr ail hanner, cafodd Jean-Paul Abalo ei hel o'r maes wedi gweld ail gerdyn melyn gan y dyfarnwr, Graham Poll, am dacl fler ar Park Ji-Sung.
A chafwyd halen yn y briw i Togo wrth i Lee Chun-Soo grymanu'r cic rydd ddilynodd trosedd Abalo o amgylch y mur ac i gefn y rhwyd.
A chyda 18 munud yn weddill rhwydodd seren De Corea o Gwpan y Byd 2002, Ahn Jung-Hwan, y g么l fuddugol wrth droi'n wych ar ochr y cwrt cosbi cyn taro ergyd hyfryd i gefn y rhwyd.
TIMAU
De Corea: Woon-Jae Lee, Young-Chul Kim, Choi, Jin-Kyu Kim,
Young-Pyo Lee, Song, Ji-Sung Park, Eul-Yong Lee, Ho Lee,
Chun-Soo Lee, Jae-Jin Cho.
Eilyddion: Ahn, Baek, Won-hee Cho, Chung, Do-Heon Kim, Dong-Jin Kim, Nam-Il Kim, Sang-Sik Kim,
Yong-Dae Kim, Young-Kwang Kim, Chu-Young Park, Seol.
Togo: Agassa, Nibombe, Tchangai, Assemoassa, Abalo, Salifou, Cherif-Toure, Romao, Senaya, Mohamed, Adebayor.
Eilyddion: Agboh, Akoto, Aziawonou, Dossevi, Erassa, Forson, Malm, Obilale, Olufade, Tchagnirou, Toure, Atsou.
Dyfarnwr: Graham Poll (Lloegr)