|
Newidiwyd diwethaf:
31
Mawrth
2006
|
|
|
|
|
|
|
Popeth fydd angen i chi wybod am d卯m Mecsico ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Gr诺p D: v Iran 11 Mehefin 1700 BST, Nuremburg v Angola 16 Mehefin 2000 BST, Hanover v Portiwgal 21 Mehefin 1500 BST, Gelsenkirchen
Llwyddodd El Tricolor i sicrhau eu lle yn Yr Almaen yn gymharol hawdd er iddynt ddioddef g锚m gyfartal annisgwyl yn erbyn Panama a cholled yn erbyn America yn Columbus.
Roedd gwyr Ricardo Lavolpe yn sicr o'u lle yn y rowndiau terfynol cyn y golled i Trinidad a Tobago yn eu g锚m olaf.
Yng Nghwpan Conffederasiwn Fifa yn 2005, llwyddodd El Tri i gyrraedd rowndiau cyn derfynol y gystadleuaeth cyn colli ar giciau o'r smotyn yn erbyn Yr Ariannin.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Fel un o'r prif dimau yng nghonffederasiwn CONCACAF, mae Mecsico wedi llwyddo i chwarae mewn 12 Cwpan y Byd.
Maent wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ar ddau achlysur - ym 1970 ac ym 1986 - pan fo Mecsico'n cynnal y twrnament.
S锚r y t卯m: Seren Barcelona, Rafael Marquez, yw'r chwaraewr gorau yng ngharfan Mecsico.
Mae Marquez, oedd yn chwaraewr allweddol wrth i Bar莽a ennill La Liga yn 2005, yn chwarae o flaen yr amddiffyn i'r Catalaniaid ac i El Tricolor.
Ac mae nifer o ohebwyr p锚l-droed Mecsico yn credu dylwn ddisgwyl pethau mawr gan Jose Fonseca yn ystod Cwpan y Byd 2006.
El Kikin yw'r chwaraewr mwyaf poblogaidd ym Mecsico ers y golwr bychan, Jorge Campos, a rhwydodd 10 g么l yn ystod y gemau rhagbrofol.
Barn 大象传媒 Cymru'r Byd: Mae Mecsico'n si诺r o gamu ymlaen i'r ail rownd, ond byddent yn ei chael yn anodd mynd ymhellach wrth iddynt orfod herio'r Ariannin neu'r Iseldiroedd yn rownd yr 16 olaf.
|
|
|
|
|
|
|
|
听 听
|
|
|
|
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|