Popeth fydd angen i chi wybod am d卯m听Paragwai ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Gr诺p B: v Lloegr 10 Mehefin 1400 BST, Frankfurt
v Sweden 15 Mehefin 2000 BST, Berlin
v Trinidad a Tobago 20 Mehefin 2000 BST,听Kaiserslautern 听
Llwyddodd Paragai i gael y dechrau gorau posib i'w gemau rhagbrofol yn Ne America, gan eistedd ar frig y gr诺p am gyfnod hir.
Ond, wedi rhediad tychinebus oedd yn cynnwys crasfa yn erbyn Ecuador a Brasil yn gynnar听yn 2005, bu rhaid i'w rheolwr, Anibal "Mano" Ruiz, ychwanegu sawl wyneb newydd i sicrhau eu bod yn gorffen yn bedwerydd yn y gr诺p.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Nid yw eu record yng Nghwpan y Byd ymysg y mwyaf disglair, gan nad ydynt erioed wedi mynd heibio'r听ail rownd.
Ym 1986, colli 3-0 yn erbyn Lloegr oedd eu hanes yn yr ail rownd, ym 1998 roedd angen amser ychwanegol ar听Ffrainc i'w trechu yn yr ail rownd, ac yna yn 2002, cafwyd g么l yn y funud olaf gan Oliver Neuville i sicrhau bod Yr Almaen yn eu trechu.
S锚r y t卯m: Mae Roque Santa Cruz wedi bod yn aelod o'r garfan genedlaethol ers yn 17-mlwydd-oed听ac er ei fod wedi dioddef anafiadau, mae'n debyg mai ymosodwr Bayern Munich fydd yn arwain llinell flaen Paragwai yn Yr Almaen.
Barn 大象传媒 Cymru'r Byd: Gyda Sweden a Lloegr yn yr un gr诺p, ac ar sail eu perfformiad yn Stadiwm y Mileniwm ar ddydd Gwyl Dewi, go brin bydd Paragwai yn llwyddo i gyrraedd yr ail rownd am y trydedd pencampwriaeth yn olynol.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |