> adroddiad y g锚m
PRIF DDIGWYDDIADAU
Sg么r Terfynol Gwlad Pwyl 0-2 Ecuador
90 mun: Tarodd y Pwyliaid y postyn yn y funud olaf ag ergyd gan Pawel Borzak.
85 mun: Trodd Ireneusz Jelen yn gelfydd yn y cwrt cosbi ond gwelodd ei ergyd yn dod yn 么l oddi ar y trawst.
80 mun: G么l - Gwlad Pwyl 0-2 Ecuador
Llwyddodd Ivan Kaviedes i guro'r trap camsefyll cyn lledu'r b锚l i Augustin Delgado i rwydo'r ail g么l i Ecuador.
77mun Cafwyd taran o ergyd gan Miroslav Szymkowiak darodd un o'r gwyr camera tu 么l i'r g么l yn hytrach na chefn y rhwyd.
73 mun: Roedd angen cyffyrddiad pwysig arall gan Neicer Reasco i droi croesiad o'r dde heibio am dafliad.
61 mun: Llwyddodd Augustin Delgado i droi'n gelfydd yng nghwrt cosbi Gwlad Pwyl ac er iddo ddisgyn i'r llawr wedi tacl gan Mariusz Jop, nid oedd y dyfarnwr am roi cic o'r smotyn.
53 mun: Roedd angen tacl bwysig gan Geovanny Espinoza i rwystro Radoslaw Sobolewski rhag ergydio i Wlad Pwyl wedi iddo dderbyn y b锚l yng nghwrt cosbi Ecuador.
52 mun: Llwyddodd Jacek Krzynowek i rwydo i'r Pwyliaid ond roedd ymosodwr Bayer Leverkusen yn camsefyll.
47 mun: Unwaith eto mae'r b锚l newydd yn profi ei fod yn teithio ymhellach na'r arfer wrth i Artur Boruc orfod delio 芒 chic rhydd Antonio Valencia o'r ystlys.
Hanner Amser Gwlad Pwyl 0-1 Ecuador
43 mun: Methodd Cristian Mora 芒 chasglu'r b锚l o gic gornel ond peniodd Maciej Zurawski y b锚l heibio'r postyn.
41 mun: Bu rhaid i Artur Boruc fod ar ei orau unwaith eto wrth i Antonio Valencia daro ergyd o bell.
37 mun: Ceisiodd Edison Mendez 芒 chic rhydd o 30 llath ond llwyddodd Artur Boruc i arbed yn gyfforddus.
28 mun: Mae'r g么l wedi bod yn ergyd i hyder Gwlad Pwyl ac mae Ecuador yn creu hafoc yn amddiffyn y Pwyliaid ar y funud.
23 mun: G么l - Gwlad Pwyl 0-1 Ecuador
Llwyddodd y gwyr o Dde America i fynd ar y blaen yn erbyn llif y chwarae wrth i Carlos Tenorio benio pas Agustin Delgado i gefn y rhwyd.
13 mun: Cafodd Jacek Krzynowek ei lorio ar ochr y cwrt cosbi gan Edison Mendez, ond tarodd chwaraewr canol cae Bayer Leverkusen y gic rhydd ymhell dros y trawst.
10 mun: Llwyddodd golwr Gwlad Pwyl, Artur Boruc, i ddelio ag ergyd o bell gan Segundo Castillo i fawr rhyddhad ei amddiffyn.
Mae cryn s么n wedi bod am y ffordd mae'r b锚l newydd yn symud yn dilyn g么l Torsten Frings yn erbyn Costa Rica yn gynharach yn y dydd.
5 mun: Mae golwr Ecuador, Christian Mora, wedi peintio baner ei wlad ar y naill foch a'r llall!
3 mun: Dawnsiodd Miroslav Szymkowiak o amgylch llu o chwaraewyr Ecuador, ond wedi cael ei lorio, ni chafodd gic rhydd.
TIMAU
Gwlad Pwyl:Boruc, Jop, Baszczynski, Bak, Zewlakow, Sobolewski,
Krzynowek, Szymkowiak, Smolarek, Radomski, Zurawski.
Eilyddion:
Bosacki, Brozek, Dudka, Fabianski, Gancarczyk, Giza, Jelen,
Kosowski, Kuszczak, Lewandowski, Mila, Rasiak.
Ecuador: Mora, De la Cruz, Hurtado, Espinoza, Reasco, Mendez,
Castillo, Valencia, Edwin Tenorio, Delgado, Carlos Tenorio.
Eilyddion: Ambrossi, Ayovi, Benitez, Borja, Guagua, Kaviedes, Lanza,
Lara, Perlaza, Saritama, Urrutia, Villafuerte.
Dyfarnwr: Kamikawa Toru (Siapan)