adroddiad i ddilyn
PRIF DDIGWYDDIADAU
Sg么r Terfynol - Sbaen 4-0 Wcrain
80 mun: G么l - Sbaen 4-0 Wcrain
Cafwyd g么l hyfryd i Fernando Torres yn dilyn gwaith gwych yng nghanol cae gan Carlos Puyol.
55 mun: Mae Luis Aragones yn penderfynu rhoi hoe i'w sgorwyr gan eilyddio Xabi Alonso a David Villa er mwyn gyrru Raul a David Albelda i'r maes.
47 mun: G么l - Sbaen 3-0 Wcrain
I rwbio halen i'r briw i Wcrain, llwyddodd David Villa i rwydo o'r smotyn
46 mun: Cerdyn Coch: Vladislav Vashchuk
Mae'r dyfarnwr, Massimo Busacca o'r Swistir, wedi dfangos cerdyn coch hynod ddadleuol i Vladislav Vashchuk am drosedd honedig ar Fernando Torres yn y cwrt cosbi.
Hanner Amser: Sbaen 2-0 Wcrain
31 mun: Gwastraffodd Andriy Gusin gyfle da i'r Wcrain wrth daro cic hosan o ochr y cwrt cosbi yn syth i ddwylo Iker Casillas
17 mun: G么l - Sbaen 2-0 Wcrain
Tarodd cic rydd David Villa y mur amddiffynol gan olygu nad oedd gobaith i Oleksander Shovkovsky rhwng y pyst i'r Wcrain wrth i Sbaen ddyblu eu mantais.
13 mun: G么l - Sbaen 1-0 Wcrain
Xabi Alonso gafodd y g么l agoriadol i Sbaen 芒 pheniad i'r rhwyd o gic cornel
4 mun: Crymanodd Ruslan Rotan gic rhydd i fewn i'r cwrt cosbi o'r ystlys chwith ond methodd Vladimir Yezerskiy 芒 chadw ei beniad i lawr.
3 mun: Derbyniodd Sergio Ramos y b锚l yng nghwrt cosbi Wcrain ond tarodd Xavi ei ergyd ymhell heibio'r postyn
NEWYDDION
Y newyddion mawr o Leipzig yw bod hyfforddwr Wcrain, Oleg Blokhin, wedi penderfynu cynnwys Andriy Shevchenko er bod yr ymosodwr 29-mlwydd-oed wedi bod allan ers mis ag anaf i'w ben-glin.
O ran Sbaen, bydd eu capten, Raul, yn dechrau'r g锚m ar y fainc gyda Fernando Torres a David Villa yn y llinell flaen.
TIMAU
Sbaen: Casillas, Pernia, Puyol, Sergio Ramos, Pablo, Xavi, Alonso, Senna, Luis Garcia, Villa, Torres.
Eilyddion: Albelda, Antonio Lopez, Canizares, Fabregas, Iniesta, Joaquin, Juanito, Marchena, Raul, Reina, Reyes, Salgado.
Wcrain: Shovkovskiy, Nesmachniy, Yezerskiy, Rusol, Vashchuk, Tymoschuk, Gusev, Gusin, Rotan, Shevchenko, Voronin.
Eilyddion: Byelik, Chigrynskiy, Kalinichenko, Milevskiy, Nazarenko, Pyatov, Rebrov, Shelayev, Shust, Sviderskiy, Vorobey, Yatsenko.
Dyfarnwr: Massimo Busacca (Y Swistir)