大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan Rygbi'r Byd 2007

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 15 Medi 2007
Cloc: Cymru 20-32 Awstralia
15 Medi 2007

CHWIBAN OLAF: Cymru 20-32 Awstralia

76 mun: Cymru 20-32 Awstralia: Llwyddodd Shane Williams i groesi am gais cwbl haeddianol i Gymru wrth iddo gasglu'r b锚l rydd a chroesi yn y gornel dde.
Trosodd James Hook i ychwanegu'r pwyntiau ychwanegol.

75 mun: Cerdyn melyn: Awstralia i lawr i 13-dyn wedi i Nathan Sharpe ladd y b锚l yn fwriadol wrth i Gymru fynd am gais o dan y pyst.

65 mun: Cerdyn melyn: Awstralia i lawr i 14-dyn wedi i Drew Mitchell weld cerdyn melyn am dacl warthus ar Mathew Rees.

Bydd yn rhaid i Gymru ddangos cryn gymeriad i ddod yn 么l i'r g锚m yma am yr ail dro.

Emyr Lewis

59 mun: Cymru 13-32 Awstralia: Cafwyd camgymeriad erchyll gan Stephen Jones wrth iddo fethu a chasglu cic uchel ac roedd Chris Latham yn y fan a'r lle i gasglu'r b锚l a charlamu drosodd am gais.
Trosodd Mat Giteau i ymestyn y fantais.

57 mun: James Hook yn methu dod 芒 Chymru yn 么l o fewn naw pwynt wrth iddo droi cic gosb heibio i'r postyn wedi i Awstralia ddymchwel y sgrym.

Ys gwn ai t卯m ail hanner ydi Cymru yng Nghwpan y Byd?

Huw Llywelyn Davies

54 mun: Cymru 13-25 Awstralia: James Hook yn dod 芒 Chymru yn 么l efo cic gosb.

48mun: Methodd Matt Giteau drosi cic gosb wedi i Gymru gamsefyll - dihangfa felly i Gymru.

Mae 'na ddigon o amser ar 么l ar y cloc ond mae'n rhaid i Gymru beidio ag ildio mwy o bwyntiau.

Emyr Lewis

44mun: Cymru 10-25. Awstralia: Penderfynodd Stephen Jones i gicio am yr ystlys yn hytrach na'r pyst ar ddechrau'r ail hanner, ac wedi cyfnod hir o bwyso plymiodd Jonathan Thomas drosodd am gais.
Trosodd James Hook i gau'r bwlch ymhellach.

HANNER AMSER: Cymru 3-25 Awstralia

Mae olwyr Awstralia'n edrych mor bwerus, mor gyflym, mor ddawnus.

Emyr Lewis

40mun: Cymru 3-25. Awstralia: Lledodd Awstralia y b锚l yn gyflym tuag at yr asgell chwith o sgrym osod a llwyddodd Chris Latham i groesi am gais yn eiliadau olaf yr hanner.
Trosodd Stirling Mortlock o'r asgell chwith i rwbio halen i'r briw.

Mae angen cais ar Gymru ac mae angen y cais yna'n sydyn.

Ieuan Evans

36 mun: Cymru 3-18 Awstralia
Llwyddodd Awstralia i gasglu'r b锚l rydd a chododd George Gregan y b锚l yn gelfydd tuag at y llinell gais a Stirling Mortlock enillodd y ras am y b锚l i sicrhau ail gais y Wallabies.
Methodd Mat Giteau 芒'r trosiad o'r ystlys dde.

33 mun: Methodd Stephen Jones am yr ail dro 芒 chic gosb yn dilyn camsefyll gan y Wallabies

27 mun: Methodd Stirling Morlock a throsi cic cosb i'r Wallabies wedi i Martyn Williams gael ei gosbi am beidio rhyddhau'r b锚l yn y dacl.

Mae Cymru'n cicio gormod o'r meddiant tra bo Awstralia'n cadw meddiant ac yn edrych fel eu bod nhw mynd i sgorio bob tro maen nhw'n ymosod.

Ieuan Evans

23 mun: Cymru 3-13 Awstralia
Mae Berrick Barnes, sydd yn chwarae yn safle'r maswr oherwydd yr anaf i Stephen Larkham, yn mwynhau ei hun yn Stadiwm y Mileniwm wrth iddo drosi g么l adlam.

21 mun: Mwy o newyddion drwg i Gymru wrth i Gareth Thomas orfod gadael y maes ag anaf wedi iddo gael ei daclo'n drwm gan Stirling Mortlock.

James Hook sydd wedi dod i'r maes yn lle Thomas.

18 mun: Mae Sonny Parker wedi ei gludo o'r maes ag anaf cas i'w goes. Mae Kevin Morgan wedi dod i'r maes yn safle'r cefnwr gyda Gareth Thomas yn cymryd lle Parker yn y canol.

'Dwi'n credu bod Gareth Jenkins wedi dewis rhoi chwaraewr corfforol ar y maes i geisio cystadlu efo'r Wallabies.

Emyr Lewis

15 mun: Cymru 3-10 Awstralia
Llwyddodd Berrick Barnes i dorri trwy amddiffyn Cymru cyn bwydo Matt Giteau i groesi o dan y pyst am gais agoriadol y g锚m.
Troswyd y cais gan Stirling Mortlock.

11 mun: Methodd Stephen Jones ag ymestyn mantais Cymru wrth iddo daro cic gosb o 35m heibio i'r postyn wedi i Awstralia droseddu yn y ryc.

Mae angen i flaenwyr Cymru frwydro am bopeth er mwyn ceisio rhyddhau'r olwyr. Mae hi wedi bod yn ddechrau da hyd yma

Ieuan Evans

7 mun: Cymru 3-3 Awstralia
Stephen Jones yn trosi cic gosb i Gymru wedi i flaenwyr Awstralia ddymchwel y sgrym yn eu 22 eu hunain

1 mun: Cymru 0-3 Awstralia
Stirling Mortlock yn trosi pwyntiau cyntaf y prynhawn wedi munud a hanner yn unig o'r g锚m.

Mae Awstralia yn dangos o'r chwiban cyntaf pa mor gorfforol mae eu blaenwyr nhw'n gallu bod.

Emyr Lewis


Cymru: G. Thomas, M. Jones, Shanklin, Parker, S. Williams, S. Jones, Peel, Jenkins, Rees, A. Jones, Gough, A. Jones, Charvis, M. Williams, J. Thomas.
Eilyddion: R. Thomas, D. Jones, Owen, Popham, Phillips, Hook, Morgan.

Awstralia: Latham, Mitchell, Mortlock, Giteau, Tuqiri, Barnes, Gregan, Dunning, Moore, Shepherdson, Sharpe, Vickerman, Elsom, Smith, Palu.
Eilyddion: Freier, Baxter, Chisholm, Hoiles, Waugh, Staniforth, Huxley.

Dyfarnwr: S Walsh (Seland Newydd)


chwaraeon
Y Timau
Hanes y Gwpan


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy