大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan Rygbi'r Byd 2007

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 15 Medi 2007
Awstralia'n rhy gryf i Gymru

Cymru 20-32 Awstralia
Llwyddodd Awstralia i drechu Cymru yn Stadiwm y Mileniwm er gwaethaf ymdrech arwrol gan y t卯m cartref.

Roedd cryfder y Wallabies yn amlwg wrth i Stirling Mortlock, Matt Giteau a Chris Latham groesi am gais yr un yn yr hanner cyntaf.

Bu yn rhaid i Gareth Thomas a Sonny Parker adael y maes ag anafiadau yn dilyn taclo grymus Awstralia, ond brwydrodd Cymru yn 么l wedi'r egwyl.

Croesodd Jonathan Thomas am gais i gau'r bwlch ond manteisiodd Latham ar gamgymeriad i groesi am ail gais cyn i Shane Williams groesi am gais cysur hwyr.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Wallabies yn si诺r o orffen ar frig y gr诺p tra bo Cymru'n debygol o wynebu buddugwyr Gr诺p A, De Affrica, ym Marseille.

Cafodd Cymru'r dechrau gwaethaf posib wrth i Mortlock drosi cic gosb yn y funud gyntaf un, ond daeth Cymru'n 么l ychydig funudau'n ddiweddarach 芒 chic gosb gan Stephen Jones.

Daeth y cais agoriadol yn dilyn cic siomedig gan Gareth Thomas welodd y Wallabies yn gwrthymosod.

Dawnsiodd Berrick Barnes, oedd yn eilydd hwyr yn dilyn yr anaf i'r maswr arferol, Stephen Larkham, trwy amddiffyn Cymru cyn bwydo Giteau i groesi o dan y pyst.

Cafodd Parker ei gludo o'r maes ag anaf cas i'w goes gyda Thomas yn symud i safle'r canolwr, ond cyn pen dim bu'n rhaid i Thomas hefyd adael y maes.

Cafodd y capten ei daclo'n drwm gan Mortlock ac o'r herwydd daeth James Hook i'r maes.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru wedi i George Gregan gasglu'r b锚l rydd yn 22 Cymru cyn cicio'n gelfydd dros yr amddiffyn.

Mortlock enillodd y ras efo Martyn Williams i dirio'r b锚l a sicrhau ail gais i'r Wallabies ond roedd gwaeth i ddod i w欧r Gareth Jenkins.

Wrth i'r Cymry ddyheu am y chwiban fyddai'n dod 芒'r hanner i ben, lledodd Awstralia'r b锚l yn gyflym tuag at yr asgell chwith o sgrym osod.

Carlamodd Mitchell am y gornel ond wrth iddo redeg allan o le, llwyddodd i fwydo Chris Latham i groesi.

Gadawodd Mortlock y maes wedi'r egwyl ac roedd yn hwb amlwg i'r t卯m cartref wrth iddyn nhw ddechrau'r ail hanner ar d芒n.

Penderfynodd Stephen Jones gicio am yr ystlys yn hytrach na'r pyst ac wedi cyfnod hir o bwyso gan y blaenwyr, plymiodd Jonathan Thomas drosodd am gais.

Trosodd James Hook y cais a llwyddodd i gau'r bwlch ymhellach 芒 chic gosb wrth i Gymru ddechrau fagu'r hyder oedd ar goll cyn yr egwyl.

Ond chwalwyd eu breuddwydion wrth i Chris Latham fanteisio ar gamgymeriad erchyll gan Stephen Jones.

Roedd y cefnwr wedi taro mynydd o gic a methodd Jones ei dal ac roedd Latham yno i'w gasglu cyn croesi o dan y pyst.

Ond gyda'r g锚m yn prysur ddirwyn i ben dechreuodd Cymru chwarae rygbi anturus hyfryd gyda'r blaenwyr a'r olwyr yn trafod y b锚l ar hyd a lled y maes.

Cafodd Mitchell gerdyn melyn am dacl warthus ar Mathew Rees cyn i Nathan Sharpe ei ddilyn o'r maes am ladd y b锚l yn fwriadol wedi i Charvis geisio plymio drosodd am gais.

O'r sgrym ddilynodd llwyddodd Cymru i fanteisio ar y niferoedd i greu lle i Shane Williams groesi yn y gornel am gais gysur.


Cymru: G. Thomas, M. Jones, Shanklin, Parker, S. Williams, S. Jones, Peel, Jenkins, Rees, A. Jones, Gough, A. Jones, Charvis, M. Williams, J. Thomas.
Eilyddion: R. Thomas, D. Jones, Owen, Popham, Phillips, Hook, Morgan.

Awstralia: Latham, Mitchell, Mortlock, Giteau, Tuqiri, Barnes, Gregan, Dunning, Moore, Shepherdson, Sharpe, Vickerman, Elsom, Smith, Palu.
Eilyddion: Freier, Baxter, Chisholm, Hoiles, Waugh, Staniforth, Huxley.

Dyfarnwr: S Walsh (Seland Newydd)


chwaraeon
Y Timau
Hanes y Gwpan


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy