1986: Caeredin, Yr Alban
Gwledydd yn cystadlu: 29
Nifer athletwyr a swyddogion: 1656
Nifer yn nh卯m Cymru: 127
Roedd Gemau 1986 yn y penawdau am y rhesymau anghywir gyda 32 o wledydd yn boicotio oherwydd cysylltiadau'r llywodraeth 芒 De Affrica.
Oherwydd diffyg cystadleuwyr bu rhaid gohirio rhai rowndiau rhagbrofol mewn nifer o'r campau ac o'r herwydd roedd y Gemau mewn dyled o tua 拢1 miliwn.
Ond roedd y Gemau yn llwyddiannus i Gymru gyda'r t卯m yn casglu'r nifer fwyaf o fedalau yn ogystal 芒'r nifer fwyaf o fedalau aur.
Llwyddodd Kirsty McDermott i gwblhau'r dwbwl am yr ail Gemau o'r bron wrth ennill yr 800m a'r 1500m, llwyddodd pedwarawd y dynion a phedwarawd y merched i ennill eu cystadlaethau bowls a chipiodd David Morgan a Ray Williams fedalau aur wrth godi pwysau.
Ceisiodd Cymru am yr hawl i gynnal Gemau 1994 ond gyda Canada wedi clustnodi $50m ar gyfer eu cynnal, nid oedd unrhyw obaith byddai Cymru'n ennill y bleidlais.
Medalau Cymru
| | | Medal |
---|
ATHLETAU | Kirsty Wade* | 800m | Aur | | | 1500m | Aur | | Roger Hackney | 3000m clwyd a ff么s | Arian | | Colin Jackson | 110m dros y clwydi | Arian | | Vanessa Head | Disgen | Arian | | Steve Jones | 10,000m | Efydd | | Angela Toobey | 10,000m | Efydd | BOCSIO | Neil Haddock | Ysgafn | Arian | | Aneurin Evans | Uwch Drwm | Arian | | Byron Pullen | Is Drwm | Efydd | | Glyn Thomas | Is Ganol | Efydd | | Kerry Webber | Pry | Efydd | BOWLS | J Morgan R Weale H Thomas W Thomas | Pedwar Dynion | Aur | | Parker Jones Evans Ricketts | Pedwar Merched | Aur | CODI PWYSAU | David Morgan | 82.5kg | Aur | | Ray Williams | 60kg | Aur | | Jeff Bryce | 60kg | Efydd | | Neil Taylor | 75kg | Efydd | | Andrew Davies | 110kg | Efydd | NOFIO A PHLYMIO | Robert Morgan | Bwrdd Uchel | Efydd | SAETHU | Roly Phillips | Ff么s Olympaidd | Aur | | Colin Harris Terry Wakefield | Parau Calibr Bychan Tra'n Gorwedd
| Aur |
* nee McDermott
 |