Casglodd Gruffudd Morgan a David Phelps fedal efydd yn y 50m reiffl tra'n gorwedd (Parau) tu 么l i Mike Babb a Chris Hector o Loegr a Sinclair Martin a Neil Stirton o'r Alban.
>
Efydd i Morgan a Phelps
Llwyddodd Mick Gault i ddod yn gyfartal 芒 record Seisnig Karen Pickering o 13 medal yng Ngemau'r Gymanwlad wrth gasglu arian ym mharau'r pistol aer 10m ynghyd 芒 Nick Baxter.
MANYLION GEMAU'R GYMANWLAD
>
Tabl y medalau
> Canlyniadau Gwener 18 Mawrth
BOCSIO
Cafodd prif obaith Cymru yn y sgw芒r bocsio, Mohammed Nasir, fraw yn ei ornest agoriadol yn erbyn Peter Warui o Kenya.
Ond llwydodd y bocsiwr pwysau is-bry i oroesi 22-17 a chamu ymlaen i'r ail rownd.
Roedd Mathew Edmonds yn llawer rhy gryf i'r g诺r o Trinidad Leroy Isidore yn y gystadleuaeth pwysau bantam.
Daeth y dyfarnwr 芒'r ornest i ben yn y drydedd rownd wedi'r Cymro agor bwlch o 20 pwynt rhwng y ddau focsiwr.
Ond colli oedd hanes Christopher Jenkins yn y pwysau pry wrth i enillydd y fedal aur ym Manceinion 2002, Kennedy Kanyanta o Zambia ei drechu 27-6.
Yn y pwysau ysgafn, collodd Robert Lyn Turley o 30-9 yn erbyn Jai Bhagwan o India.
NOFIO
Methodd David Roberts 芒 chipio medal yn y 50m EAD rhydd wedi iddo orffen yn bedwerydd a gorffennodd Thomas Haffield yn chweched yn rownd derfynol y 200m dull cefn.
Ac ar fore cymharol lwyddiannus i Gymru yn y pwll nofio llwyddodd Jemma Lowe i sicrhau ei lle yn rownd derfynol y 100m pili pala a camodd Jazmin Carlin drwodd yn yr 800m dull rhydd.
TENIS BWRDD
Llwyddodd Adam Robertson, Ryan Jenkins a Stephen Jenkins i drechu Malaysia yn rownd yr wyth olaf o gystadleuaeth timau'r dynion.
Bydd Cymru'n herio Singapore yn y rownd gynderfynol ddydd Sul.
Ond methodd y triawd o Bethan Daunton, Naomi Owen a Siwan Davies 芒 chyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth timau'r merched wedi colli 3-0 yn erbyn Singapore.
|