Casglodd David Phelps aur yn y gystadleuaeth Reiffl 50m ar Orwedd i ychwanegu at y fedal efydd gasglodd yn y gystadleuaeth parau ddydd Sadwrn.
A llwyddodd Johanne Brekke i gipio'r fedal efydd yn y Reiffl 50m ar Orwedd i ferched.
>
Diwrnod da i'r saethwyr
MANYLION GEMAU'R GYMANWLAD
>
Tabl y medalau
> Canlyniadau Mawrth 22 Mawrth
ATHLETAU
Llwyddodd Rhys Williams i sefydlu record bersonol am yr ail ddiwrnod yn olynol yn y 400m dros y clwydi a sicrhau ei le yn y rownd derfynol ddydd Iau.
>
Williams ar ben ei ddigon
Ond roedd siom i Matt Elias wrth iddo fethu allan ar y rownd derfynol wrth orffen yn chweched yn ei rownd gynderfynol.
Wedi cipio medal efydd yn y 1500m, cyrhaeddodd Hayley Tullett rownd derfynol yr 800m cyn cyhoeddi bydd yn ymddeol wedi'r Gemau.
>
Tullett i ymddeol
BOCSIO
Darren Edwards yw'r bocsiwr diweddaraf i sicrhau o leiaf medal efydd wedi tri arall o d卯m Cymru gyrraedd y rowndiau gynderfynol ddydd Mawrth.
Ond methodd Matthew Edmonds 芒 sicrhau ei le yn rownd gynderfynol y pwysau bantam wedi iddo golli yn erbyn Richard Bruno o Mauritius.
>
Llwyddiant i focswyr Cymru
TENIS BWRDD
Cafwyd dechrau da i gystadleuaeth dyblau y tenis bwrdd wrth i Ryan Jenkins a Bethan Daunton ac Adam Robertson a Naomi Owen gamu drwodd i ail rownd y dyblau cymysg.
Ond colli oedd hanes y ddau b芒r yn yr ail rownd a'r un oedd y stori yn nyblau'r dynion wedi Stephen Jenkins a David Buck i ennill drwodd i'r ail rownd o ddyblau'r dynion, cyn colli yn erbyn p芒r o Loegr.
Roedd gwell gan Ryan Jenkins ac Adam Robertson, gipiodd arian ym Manceinion, wrth iddynt gamu ymlaen i'r drydedd rownd 芒 buddugoliaeth dros p芒r o Ghana.
Yng nghystadleuaeth y merched, roedd buddugoliaeth i Bethan Daunton a Naomi Owen wrth iddynt ddod yn 么l o 2-0 i lawr i drechu'r p芒r cartref, Cho/Sang o Awstralia, 3-2.