|
|
Hanes
Michael D Jones
'Y cenedlaetholwr mwyaf ers Owain Glyndwr' meddai
Gwenallt
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 27, 2002
|
Yn fwy na neb arall Michael D. Jones sy'n cael ei ystyried yn dad
y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Ond go brin i neb freuddwydio y byddai iddo le mor amlwg yn hanes
Cymru pan gychwynnodd ar ei swydd gyntaf yn brentis mewn siop yn
Wrecsam.
Ond dydi hi ddim yn syndod nad arhosodd un a chanddo feddwl mor
aflonydd yno ond ychydig fisoedd.
Erbyn yr oedd yn 17 oed yr oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Caerfyrddin
gyda meistrolaeth dros Ladin a Groeg ers yn 12 oed!
Oddi yno aeth i Goleg Highbury yn Llundain gan arbenigo mewn Astudiaethau
Beiblaidd.
Ond wedi gorffen yno gwrthododd wahoddiad gan ddwy o eglwysi mwyaf
Llundain i fod yn weinidog arnynt gan ddewis mynd i'r Unol Daleithiau
i astudio gwerinlywodraeth a chaethwasaeth
Yr oedd ei chwaer yno'n barod ers yn 15 oed. Yn athrawes daeth yn
ail wraig i lywodraethwr Talaith Ohio, William Bebb.
Ordeinwyd Michael D Jones yn weinidog yn Cincinnati yn y dalaith
honno yn 1848.
Cyfuniad o rinweddau
Yn 么l R. Bryn Williams, prif hanesydd y Wladfa Gymraeg, "yr oedd
ei gymeriad yn gyfuniad o amryw rinweddau cyferbyniol, a rhai o'r
rhinweddau hynny weithiau'n troi'n fagl iddo"
Nid oes amheuaeth ei fod yn ddyn penderfynol iawn unwaith iddo roi
ei feddwl ar rywbeth - hyd yn oed yn ei garu!
Wrth gyfeirio at ei lythyrau caru dywed R. Bryn Williams yn ei lyfr
am hanes y Wladfa:
"Y peth amlycaf ynddynt efallai yw grym ewyllys. Er pob rhwystr
mynnodd gael y ferch yn wraig iddo cyn pen blwyddyn. Ysgrifennai
ati'n ddyddiol weithiau, gan ail-adrodd yr un ymresymiad bron air
am air, ac nid oedd dim a allai atal ei benderfyniad," meddai.
Dycnwch a dyfalbarhad
Ychwanega iddo amlygu y nodwedd hon "gydol ei fywyd" ac yr oedd
y dycnwch a'r dyfalbarhad hwnnw yn rhywbeth y bu'r gwladfawyr cynnar
drwyddynt draw ei fawr angen wrth filwrio yn erbyn yr holl anawsterau
a'u hwynebai ym Mhatagonia.
Mae R. Bryn Williams yn cyfeirio hefyd at ei allu meddyliol eithriadol.
"Gallai ymresymu'n gadarn, gallai fygwth a bod yn gignoeth ei watwareg,
ond gallai hefyd berswadio'n daer. Syndod i mi oedd canfod llawer
o hiwmor yn y llythyrau," meddai gan ei grynhoi, fel hyn;
Heb ddawn trin arian
"Gwr galluog a chryf o ewyllys a meddwl, ac eto'n un hawdd iawn
ei garu. Yn wir yr oedd llawer o symylrwydd y plentyn ynddo."
Yn ei feddwl ei hun dywed R. Bryn Williams ei fod o'r farn ei fod
yn un deheuig wrth drin arian ond mai'r gwrthwyneb oedd yn wir.
"Mynnai ymhel 芒 mortgages a Joint Stock Companies
a bod ar fyrddau masnachol, a hynny yn ei arwain i dlodi a thrybini."
Bu'n ffodus, felly, fod ei wraig yn ddynes gyfoethog.
Ymroddiad i'r iaith
Pa bynnag gymhlethodau a gwrthgyferbyniadau eraill a fodolai un
peth cwbl sicr a disyfl ydoedd ei ymroddiad i'r iaith a'r diwylliant
Cymraeg - er eto gwelir olion croesdynnu yma gan mai yn Saesneg
y sgrifennai ei lythyrau caru!
Gwisgai ddillad o frethyn Cymreig ac esgidiau o ledr lleol ac yr
oedd yn ddywediad cyffredin mai ond y botymau ar ei ddillad oedd
o'r tu allan i Gymru!
Dywedodd Gwenallt amdano: "Cymro pennaf y bedwaredd ganrif
ar bymtheg; y cenedlaetholwr mwyaf ar ôl Owain Glyndwr."
Y gwladgarwch hwn a'i harweiniodd i fod yn bennaf lladmerydd yr
ymgyrch i ymfudo a sefydlu gwladfa newydd Gymraeg ym Mhatagonia
bell lle gallai'r Cymru fyw eu hiaith a'u traddodiadau yn ddirwystr.
Ond fel gyda'i ymhel ag arian ni welai y darlun cyflawn yma ychwaith
neu ni fyddai byth wedi hysio'i gydwladwyr i'r fath le diffaith,
mor anghynefin ac mor anodd ei drin.
Hyd yn oed heddiw mae'r olygfa gyntaf yn gras a digroeso; ni allwn
ond dychmygu sut yr ymddangosai i'r Cymry cyntaf hynny a geisiodd
wneud eu marc yno cyn i na system ddyfrio na dim gael ei chynllunio.
Fodd bynnag, mae'n arwydd o'r parch a oedd iddo na ddaeth ef erioed
dan feirniadaeth y gwladfawyr er gwaethaf eu holl drafferthion.
Yr un rheswm dros ddewis Patagonia oedd y gred nad oedd gan unrhyw
lywodraeth arall hawl ar y lle - ond heb ystyried mai'r rheswm am
hynny, efallai, oedd ei fod mor anghyfannedd.
Am ei freuddwyd dywedodd Michael D. Jones:
"Bydd yno gapel, ysgol a senedd a'r hen iaith fydd cyfrwng addoli,
masnach, gwyddoniaeth, addysg a llywodraeth. Gwnaiff cenedl gryf
a hunangynhaliol dyfu mewn gwladfa Gymreig."
Er i'r Cymru agor y tir gyda'u system ddyfrio arloesol ei agor i
eraill a wnaethant ac er i gymdeithas Gymraeg gref fodoli yno am
gyfnod dinasyddion yr Ariannin yw'r bobl erbyn hyn a'r Gymraeg ond
ar dafodau nifer fechan o bobl,
Tan yn ddiweddar, cyfyngwyd Cymreigrwydd i enwau lleoedd a strydoedd
ac i gapeli sydd wedi goroesi gyda'r Sbaeneg yn iaith gyntaf byw
bob dydd y bobl a'r Gymraeg yn fwy o hynodrwydd nac yn iaith at
iws bob dydd.
Fodd bynnag gydag ymwybyddiaeth newydd mewn gwreiddiau gwelwyd cryn
adfywiad dros y blynyddoedd diwethaf a hwnnw'n adfywiad ymhlith
pobl ifainc y Wladfa.
Ffrae
golegol
Yn ystod ei gyfnod yn ymgyrchu dros y Wladfa yr oedd Michael D.
Jones yng nghanol ffrae arall hefyd yn rhinwedd ei swydd yn olynydd
ei dad yn brifathro Coleg y Bala.
Bu'n gryn sgarmes rhyngddo ef a charfan dan arweiniad John Thomas
o Lerpwl pwy yn union a ddylai fod yn rhedeg y coleg gyda Michael
D. Jones mwy radical yn dadlau mai hawl ei danysgrifwyr ydoedd ond
Thomas am roi'r rheolaerth yn nwylo cynrychiolwyr a benodwyd gan
yr eglwysi yng Nghymru.
Ar
un cyfnod fe'i diswyddwyd ond wedi i'r ddwy ochr ddod at ei gilydd
cafodd aros ar y staff ond ymddiswyddodd yn 1892 gan greu coleg
arall ym Mangor - Coleg Bala-Bangor
Yn ddyn o egwyddorion a daliadau cryfion nid oedd Michael D. Jones
heb ei synnwyr digrifwch ychwaith a gwelir arwyddion o'i hiwmor
yn ei lythyrau caru er enghraifft.
Erbyn hyn mae Bodiwan, ccgartref y bu Michael D. Jones yn byw ynddo
yn Y Bala wedi cael ei gynnig yn safle i amgueddfa am y Wladfa a'i
sylfaenydd.
Dadorchuddio cofeb
|
|
|
|
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru |
|
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
|
|
|
|