1952
SOS galw Gari Tryfan! Idwal Jones yn sôn am yr arwr a greodd Ganwyd Idwal Jones ( 1910 - 1985 ) yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle. Bu'n weinidog llwyddiannus yn y De a'r Gogledd ac yn heddychwr ar hyd ei oes. Daeth yn adnabyddus i blant Cymru fel awdur S.O.S Galw Gari Tryfan. Dyma'r rhaglen a fu'n denu cenhedlaeth o blant at y radio am 5.10pm ar nos Fawrth am orig wythnosol o antur yng nghwmni Gari, Alec ac Elen. 'Roedd y miwsig agoriadol yn creu naws gyffrous a digon o symudiadau cyflym, gwaeddi uchel ac effeithiau sain i danio'r dychymyg. Syndod felly yw clywed awdur a greodd storiau mor frawychus yn cyfaddef fod ganddo ofn y tywyllwch.
Clipiau perthnasol:
O Y Llwybrau Gynt, Annwyl Gyfeillion darlledwyd yn gyntaf 13/06/1972, 16/06/1991
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|